Reform eisiau ailagor ffwrneisi chwyth Port Talbot

Mae Nigel Farage wedi cyfaddef na fyddai ailagor y ffwrneisi yn broses "hawdd na chyflym"
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Reform UK yn dweud bod y blaid eisiau ailagor ffwrneisi chwyth Port Talbot pe bai nhw'n dod i rym yng Nghymru.
Ar ymweliad â'r dref dywedodd Nigel Farage y byddai'n hoffi gweld Cymru yn "ail-ddiwydiannu", ond cyfaddefodd na fyddai'n broses "hawdd na chyflym".
Cafodd dros 2,000 o swyddi eu colli yng ngweithfeydd dur Port Talbot yn dilyn cau'r ffwrneisi chwyth yn 2024.
Dywedodd ffynhonnell o'r diwydiant dur wrth BBC Cymru y byddai'n amhosib ailgynnau'r ffwrneisi chwyth gan fod cannoedd o dunelli o haearn wedi caledu ynddyn nhw.
Mae'r pleidiau eraill wedi beirniadu sylwadau Mr Farage gan ei gyhuddo o geisio "cymryd mantais" o'r sefyllfa a rhannu "geiriau gwag".
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan ei fod yn siarad "nonsens llwyr".
- Cyhoeddwyd14 Mai
- Cyhoeddwyd11 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd23 Ebrill
Does gan Reform UK ddim arweinydd yng Nghymru ar hyn o bryd, nac unrhyw aelodau yn y Senedd.
Mae Mr Farage eisoes wedi cadarnhau na fydd yn sefyll yn yr etholiadau, ac nad oes cynlluniau ganddo i arwain y blaid yng Nghymru.
Ond er hynny, roedd arolwg barn gafodd ei gyhoeddi ym mis Mai yn awgrymu bod Plaid Cymru a Reform UK ar y blaen i Lafur gyda phleidleiswyr yng Nghymru, gyda'r Ceidwadwyr yn bedwerydd.

Pan holwyd Mr Farage sut fyddai modd ailagor y ffwrneisi chwyth, dywedodd fod hynny'n "uchelgais" sydd gan ei blaid - nid addewid.
Byddai angen buddsoddiad sylweddol gan y sector cyhoeddus neu'r sector preifat er mwyn gwneud hynny.
Fe fyddai'n eithriadol o anodd i Lywodraeth Cymru ganfod yr arian yn eu cyllidebau nhw heb gefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth y DU.
Ym Mhort Talbot ddydd Llun fe wnaeth Mr Farage gydnabod y byddai'n costio "biliynau" i ailagor y ffwrneisi chwyth, ac y byddai angen "partneriaid busnes preifat" er mwyn gwneud hynny.
'Geiriau gwag a pholisïau disynnwyr'
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Does gan Nigel Farage ddim cynlluniau ar gyfer dur - dim ond criw camera.
"Allwch chi ddim ailgychwyn ffwrnais chwyth gyda chynhadledd i'r wasg. Bydd pobl Cymru'n gweld trwy ei addewidion ffug."
Mewn cyfweliad gyda GB News, ychwanegodd Eluned Morgan fod "unrhyw un sy'n deall unrhyw beth am ddur yn gwybod y byddai ailagor y ffwrneisi chwyth yn cymryd chwyldro, a symiau enfawr o arian, ar adeg pan fo gormodedd o ddur yn y byd."
Ychwanegodd Heledd Fychan o Blaid Cymru fod Reform wedi dangos yn union yr hyn maen nhw'n ei gynnig i Gymru, sef "geiriau gwag a pholisïau disynnwyr".
"Mae Farage wedi dewis mynd i gymuned sydd wedi cael ei tharo'n galed gan ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU, ac yn ceisio manteisio ar y golled yno drwy honni y byddai'n ailagor y ffwrneisi chwyth - rhywbeth y mae'r diwydiant wedi dweud sy'n amhosib."
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds, mae gan "Nigel Farage wyneb yn dewis addo'r byd i Bort Talbot tra bod ei ffrind, Donald Trump yn dewis chwalu'r hyn sy'n weddill o'n diwydiant dur gyda thollau".
"Fel ei arwyr Donald Trump a Liz Truss, byddai Farage yn dinistrio economi Cymru a gwasanaethau lleol gyda thoriadau treth sydd heb eu cyllido, a thorri nôl ar wasanaethau cyhoeddus." meddai.
Beirniadu'r cynlluniau "ffantasïol" wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar hefyd: "Y Blaid Geidwadol yw'r unig wrthwynebydd credadwy i Lywodraeth Lafur sy'n methu a Reform â'u cynlluniau economaidd ffantasïol.
"Mae Reform yn credu mewn creu penawdau, rydyn ni'n credu mewn gwaith caled."
Dywedodd Ysgrifennydd Rhanbarthol Undeb GMB y byddai pobl Port Talbot yn gweld y gwir - sef "mwy o gelwyddau gan rywun sy'n ceisio cymryd mantais".
"Roedd Nigel Farage yn hapus i weld British Steel yn mynd i'r wal, ac mae'n hapus i ddweud unrhyw beth o flaen y camera. Dydi o ddim yn poeni am y cymunedau dur na'r gweithwyr."