Gweddw Pavarotti i gyflwyno gwobrau yn Eisteddfod Llangollen

Luciano Pavarotti yn Eisteddfod Llangollen yn 1995Ffynhonnell y llun, CeidiogPR
Disgrifiad o’r llun,

Bydd ymweliad Ms Mantovani yn nodi 30 mlynedd ers i Pavarotti ddychwelyd i'r ŵyl fel seren fyd-enwog ar gyfer cyngerdd arbennig yn 1995

  • Cyhoeddwyd

Mae gweddw Luciano Pavarotti, y tenor opera byd enwog, yn bwriadu ymweld ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen - 70 mlynedd ers i'w gŵr ganu yno y tro cyntaf.

Bydd Nicoletta Mantovani yn cyflwyno gwobrau yn yr ŵyl, gan gynnwys tlws i enillydd cystadleuaeth seren opera'r dyfodol.

Dywedodd Ms Mantovani y bydd hi'n "anrhydedd fawr" iddi gyflwyno'r tlws, gan fod Pavarotti yn angerddol am roi hwb i gantorion ifanc talentog.

Byddai Pavarotti wedi bod yn 90 eleni ar 12 Hydref, a phan ddaeth i'r ŵyl yn 1955 gyda'i dad, Fernando, fel rhan o Gorws Rossini o Modena roedd yn 19 oed.

Luciano Pavarotti, ei wraig Nicoletta Mantovani a’u merch Alice Pavarotti ar ddiwrnod eu priodas yn 2003 yn ModenaFfynhonnell y llun, CeidiogPR
Disgrifiad o’r llun,

Luciano Pavarotti, ei wraig Nicoletta Mantovani a'u merch Alice Pavarotti ar ddiwrnod eu priodas yn 2003 yn Modena

Fe enillodd Côr Rossini wobr yn yr ŵyl yn 1955, ac aeth Pavarotti adref yn benderfynol o wneud gyrfa ym myd cerddoriaeth.

Dywedodd y canwr flynyddoedd yn ddiweddarach mai ennill yn Eisteddfod Llangollen oedd yr ysbrydoliaeth a daniodd ei freuddwyd.

Bydd ymweliad Ms Mantovani hefyd yn nodi 30 mlynedd ers i Pavarotti ddychwelyd i'r ŵyl fel seren fyd-enwog ar gyfer cyngerdd arbennig yn 1995.

Dywedodd ar y pryd ei fod "bob amser yn dweud wrth newyddiadurwyr pan maen nhw'n gofyn i mi beth yw diwrnod mwyaf cofiadwy fy mywyd - mai'r adeg yr enillais y gystadleuaeth hon, oherwydd roeddwn yma gyda fy holl ffrindiau".

Pavarotti gyda’r Chorus Rossini choir at Eisteddod Llangollen ym 1955Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond 19 oed oedd Pavarotti pan ddaeth i'r ŵyl yn 1955 fel rhan o Gorws Rossini o Modena

Dywedodd Nicoletta Mantovani ei bod hi'n "llawn cyffro wrth dod i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i gyflwyno'r ddwy wobr anhygoel hyn".

"Mae hynny oherwydd mai'r ŵyl hon oedd dechrau popeth i Luciano ac mae nodi'r ddau ben-blwydd hyn yn bwysig iawn," meddai.

"Roedd gan Luciano ddwy freuddwyd. Y gyntaf oedd dod ag opera i bawb a'r ail oedd dod â phobl newydd i fyd opera a allai ddod yn gantorion y dyfodol, ac yn sicr mae'r ddwy gystadleuaeth hyn yn yr Eisteddfod Ryngwladol yn cyflawni hynny."

Ychwanegodd Ms Mantovani y bydd dod i Langollen yn "brofiad emosiynol iawn".

"Dywedodd Luciano wrthyf na fyddai ei yrfa wedi bod yn bosibl heb ei ymddangosiad cyntaf yno yn 1955," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig