Eisteddfod Llangollen: 'Gallai Cymru fod yn bencampwr heddwch y byd'

- Cyhoeddwyd
Gallai Cymru fod yn "bencampwr heddwch y byd" fydd un o'r negeseuon yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yr wythnos hon.
Derek Walker - Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol - fydd yn darlithio, ac mi fydd yn gwneud hynny ar ail ddiwrnod yr ŵyl eleni.
"Mewn cyfnod o densiynau byd-eang digynsail, mae gan Gymru gyfle unigryw i hyrwyddo achos heddwch rhyngwladol," meddai Mr Walker.
Dywedodd yr Eisteddfod eu bod yn disgwyl dros 30 o genhedloedd i fod yno eleni, a'u bod yn "edrych ymlaen at groesawu Derek Walker i draddodi Darlith Heddwch".

"Mae gan Gymru gyfle unigryw i hyrwyddo achos heddwch rhyngwladol," medd Derek Walker
Mae'r ddarlith yn cyd-daro â phen-blwydd y Cenhedloedd Unedig yn 80 oed eleni - sefydliad sydd â'r nod o gynnal heddwch a diogelwch rhyngwladol.
Cafodd y Cenhedloedd Unedig ei sefydlu ar ôl yr Ail Ryfel Byd a'r prif nod oedd atal rhyfeloedd yn y dyfodol.
Bydd Mr Walker yn ystyried y rôl y mae Cymru wedi'i chwarae a beth gall Cymru ei wneud i hyrwyddo heddwch, cynaliadwyedd a chydweithrediad rhyngwladol.
Bydd yn pwysleisio, mewn amser o ansefydlogrwydd, nad oes amser pwysicach wedi bod i fyfyrio ac adnewyddu ymrwymiad Cymru i heddwch.

Dywedodd Eisteddfod Llangollen eu bod wedi gwerthu mwy o docynnau nac erioed o'r blaen
Dywedodd Derek Walker mai Cymru oedd y "wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu er lles cenedlaethau'r dyfodol, gan nodi gweledigaeth feiddgar o fyd tecach, gwyrddach a mwy heddychlon".
"Wrth i ni nodi'r pen-blwydd pwysig hwn, rwy'n edrych ymlaen at fyfyrio ar sut y gall Cymru arwain trwy esiampl - hyrwyddo heddwch nid yn unig yn ein cymunedau, ond yn rhyngwladol, i genedlaethau i ddod."
'Herio i edrych ymlaen'
Dywedodd yr Athro Chris Adams, ymddiriedolwr Eisteddfod Llangollen bod yr ŵyl wedi'i sefydlu ar derfyn yr Ail Ryfel Byd.
Ychwanegodd mai nod yr eisteddfod oedd bod yn "ddigwyddiad lle gallai pobl gyffredin o bob cwr o'r byd gyfarfod a dod i adnabod ei gilydd yn well, i ddeall diwylliannau ei gilydd, fel cyfraniad at hyrwyddo cysylltiadau rhyngwladol gwell".
"Mae cynnal y sgwrs hon gyda Derek Walker nid yn unig yn anrhydeddu ein gwerthoedd, ond yn ein herio i edrych ymlaen - i helpu Cymru i ddod yn esiampl o gymdeithas lle mae heddwch, diwylliant a chydweithio yn ffynnu gyda'i gilydd," meddai.

Bydd Syr Karl Jenkins yn perfformio yn Eisteddfod Llangollen ddydd Mercher, yn ei gyngerdd Uno'r Cenhedloedd: Un Byd
Mae'r digwyddiad yn rhan o ŵyl a fydd yn croesawu miloedd o berfformwyr a chystadleuwyr o bob cwr o'r byd.
Ymhlith y 4,000 o berfformwyr yno, bydd nifer o artistiaid o Gymru, gan gynnwys Syr Bryn Terfel a Syr Karl Jenkins.
Ddydd Iau o 16:30 tan 19:00 bydd sioe yn cael ei chynnal ar Lwyfan y Glôb - 'Rhys Mwyn yn Cyflwyno', fydd yn cynnwys tri artist Cymraeg: Pedair, Mared, a Buddug.
Hefyd, bydd gweddw Luciano Pavarotti, y tenor opera byd enwog, yn cyflwyno gwobrau yn yr ŵyl.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng 8 a 13 Gorffennaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2024