Pwy yw'r Gymraes sy'n serennu i Loegr yng Nghwpan Rygbi'r Byd?

Meg JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Meg Jones mae ei gwreiddiau Cymreig yn bwysig iddi

  • Cyhoeddwyd

Wrth i Loegr wynebu Canada yn rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd brynhawn Sadwrn, bydd Cymraes yn chwarae rhan allweddol iddyn nhw.

Mae'r canolwr Meg Jones yn Gymraes falch, wedi'i geni a'i magu yng Nghaerdydd, ac yn un o fygythiadau mwyaf deinamig tîm rygbi merched Lloegr.

A dweud y gwir, mae dwy sy'n siarad Cymraeg yn rhan o dîm y Rhosod Cochion, gan fod Lucy Packer, y mewnwr o Rydaman, hefyd yn dechrau ar y fainc ar gyfer y ffeinal.

Felly sut mae Cymry Cymraeg yn penderfynu cynrychioli Lloegr?

Dywedodd Jones ei bod "wedi dewis chwarae i'r Red Roses yn lle Cymru, oherwydd y cyfleoedd o'n i wedi cael fel 18 year old.

"Oedd lot mwy o gymorth dros y bont".

Disgrifiad,

"I gael y gyrfa fi 'di cael, o'dd rhaid i fi chwarae i'r Red Roses," medd Meg Jones

Yn ôl Jones mae "mwy o gymorth i fod yn broffesiynol hefyd" yn Lloegr, o gymharu â Chymru.

"I gael y gyrfa 'ma, roedd rhaid i mi wneud penderfyniad i chwarae i'r Red Roses," meddai.

Ond er mai'r crys gwyn y mae Meg Jones yn ei gynrychioli ar y llwyfan mwyaf oll, dywedodd bod ei gwreiddiau yn bwysig iddi.

"Es i Ysgol Glantaf ac mae bod yn Gymraes yn bwysig i fi hefyd.

"Mae gen i lot o passion, lot o falchder a lot o fire hefyd yn fy mol."

Meg JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Buodd Meg Jones yn chwarae i dimau iau yng Nghaerdydd yn ei harddegau

I goroni'r cyfan, mae Jones ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Chwaraewr Rygbi Gorau'r Flwyddyn – trwy'r byd.

Yn ôl disgyblion Ysgol Glantaf, maen nhw yn ddiolchgar ei bod yn rhoi ei hamser iddyn nhw.

"Ma' hi'n rhywun prysur iawn dwi'n siŵr, so ma'n rhywbeth really special fo' ni'n gallu gweld rhywun sydd wedi bod yn esgidiau ni - yn bod mor llwyddiannus," meddai Martha.

"Mae hi mor haeddiannol o'r enwebiad mae hi wedi cael."

Ychwanegodd Cadi ei bod hi'n "ysbrydoliaeth massive i ni fel ysgol".

"Mae'n dangos fo' ti'n gallu mynd really bell pan ti'n rhoi lot o ymdrech."

Martha a Cadi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Martha a Cadi o Ysgol Glantaf yn dweud bod Meg Jones yn ysbrydoliaeth

Ond dyw ei thaith i'r rownd derfynol ddim wedi bod yn un hawdd, gan iddi golli ei mam a'i thad y llynedd o fewn misoedd i'w gilydd.

"Roedd yn flwyddyn anodd i fod yn onest, ond i ennill y Cwpan y Byd yma, bydd e'n popeth i mi - rhywbeth dwi methu rhoi geiriau ar," meddai Jones.

"Bydden nhw mor falch o weld merch nhw yn ennill Cwpan y Byd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig