Penodi Lynn yn brif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau Sean Lynn fel prif hyfforddwr tîm cenedlaethol y merched.
Mae'r Cymro wedi bod yn brif hyfforddwr tîm llwyddiannus merched Hartpury-Caerloyw.
Bydd yn olynu Ioan Cunningham, adawodd ei swydd ym mis Tachwedd wedi tair blynedd wrth y llyw ac wedi 2024 gythryblus.
- Cyhoeddwyd14 Ionawr
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2024
Sicrhaodd Cymru bedair buddugoliaeth yn unig mewn 11 o gemau prawf yn ystod y flwyddyn.
Roedd URC hefyd wedi cyfaddef y bu methiannau difrifol yn y ffordd y cafodd trafodaethau cytundeb tîm y merched eu cynnal.
Gyda Chymru'n 10fed ar restr detholion y byd, Lynn sydd wedi cael y cyfrifoldeb o drawsnewid gobeithion y tîm cenedlaethol.
Cyn troi at hyfforddi, chwaraeodd Lynn i dimau ieuenctid Caerloyw ac roedd yn gapten tîm Prifysgol Hartpury.
Yn fewnwr, cynrychiolodd tîm dan-18 Cymru a thîm myfyrwyr Cymru.
Cafodd ei benodi'n bennaeth rygbi merched yng Nghaerloyw yn 2019, lle bu'n goruchwylio pob agwedd o'r ddarpariaeth rygbi yng Ngholeg a Phrifysgol Hartpury.
Mae hefyd wedi bod yn brif hyfforddwr tîm Hartpury-Caerloyw - pencampwyr Uwchgynghrair y Merched yn Lloegr am y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae carfan Hartpury-Caerloyw yn cynnwys sawl aelod o garfan Cymru - yn eu mysg y capten Hannah Jones.
Bydd Lynn yn cydweithio'n agos gyda phennaeth rygbi merched Undeb Rygbi Cymru, Belinda Moore, yn dilyn ei phenodiad yr wythnos ddiwethaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd1 Mai 2024
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024