Bachgen 8 oed yn rhedeg 26 milltir er mwyn cefnogi'r digartref

Lewys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lewys eisoes wedi llwyddo i godi dros £2,000 i gefnogi elusennau digartrefedd

  • Cyhoeddwyd

Nid pob plentyn yng Nghymru fu’n treulio hanner tymor yn rhedeg bob diwrnod er mwyn codi arian ar gyfer y digartref.

Fe gafodd Lewys, wyth oed o dref Glyn-nedd, ei dristáu cymaint o weld dyn digartref yn Abertawe nes iddo deithio siwrne o hanner awr yn ôl adref yn ei ddagrau.

Gyda chefnogaeth ei deulu, aeth ati i drefnu her o redeg milltir bob dydd, am 26 diwrnod, gan ddod â chymuned Cwm Nedd at ei gilydd i’w gefnogi ar y ffordd.

“O’n i wedi mynd i Abertawe i siopa' a nes i weld homeless guy, o’n i wedi rhoi meal deal iddo fe,” meddai Lewys.

“O’n i’n drist, ac wedi teimlo fel o’dd e’n invisible.”

Lewys a'i ffrindiau yn cael eu cefnogi gan Max Boyce
Disgrifiad o’r llun,

Mae Max Boyce ymhlith y rhai sydd wedi dod i gefnogi Lewys a'i ffrindiau

Ers dechrau ar 21 Hydref, mae plant yr ardal, ynghyd â chwaraewyr timau chwaraeon lleol, wedi ymuno yn yr her o gwmpas strydoedd y dref.

Doedd brawd Lewys, Gethin, sy’n 12 oed, methu credu’r gefnogaeth.

“Y timau rygbi, y timau pêl-droed, ma' nhw 'di bod yn dod hefyd,” eglurodd.

“O’n i’n meddwl bod e’n crazy a bydde’ fe ddim yn 'neud lot o arian, ond ma’ fe 'di ‘neud loads a bod yn deg.”

Cefnogaeth yn ystod y gaeaf yn 'allweddol'

Bydd dwy elusen leol sy’n helpu’r digartref – un yn Abertawe a’r llall ym Merthyr Tudful – yn elwa.

Dywedodd Thom Lynch o elusen Matthew’s House yn Abertawe y bydd y cyfraniad yn amhrisiadwy yn ystod misoedd y gaeaf.

“Ar gyfartaledd, ry’n ni’n gweld 129 o bobl bob dydd,” meddai.

“Ry’n ni’n gallu gwneud gwahaniaeth. Mae’n allweddol i ni, popeth ry’n ni’n gwneud, mae’r diolch i bobl sy’n cyfrannu i ni, sy’n codi arian i ni - pobl fel Lewys.”

mam a dad Lewys
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhian, mam Lewys, ei bod yn derbyn negeseuon dyddiol gan bobl sydd am gefnogi Lewys gyda'r her

Gyda mwy na £2,000 eisoes yn y pot, mae mam Lewys, Rhian, yn falch iawn.

“Ni mor browd ohono fe a beth ma' fe'n neud,” dywedodd.

“Ma' fe’n anodd i fynd mas bob dydd i redeg milltir, yn enwedig pan ti’n wyth oed a ma' coesau bach gyda ti!

“Ni mor browd, a mor browd o bawb sy’n dod - cymuned Glyn-nedd.”

Pynciau cysylltiedig