Lle oeddwn i: Tanni Grey-Thompson ac Athen 2004

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ugain mlynedd yn ôl, enillodd y Farwnes Tanni-Grey Thompson ddwy fedal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Athen. Dyma oedd y pumed Gemau ble'r oedd hi wedi ennill medalau am rasio cadair olwyn.

Dyma ei hatgofion:

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tanni yn ennill y ras 100m i gadeiriau olwyn

Roeddwn i’n gobeithio cymryd rhan mewn chwaraeon ac efallai ar lefel ryngwladol. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i mewn pump Gemau Paralympaidd, dim ond trio am y cyntaf, ac yna’r un nesaf.

Pan o’n i’n Athen, ro’n i’n gwybod byddwn i ddim yn gwneud Beijing 2008, felly roeddwn i eisiau i fy un olaf fod y gorau posib i mi.

Roedd fy merch, Carys, wedi ei geni yn 2002. Roeddwn i wastad am drio cystadlu yn Athen; roedden ni wedi cynllunio cael babi yn yr amserlen cystadlu. Roeddwn i’n lwcus iawn fod gen i deulu a ffrindiau oedd yn fy nghefnogi.

Doedd cystadlu a gofalu am blentyn ddim yn hawdd, ond roedd yna nifer o athletwyr eraill gyda phlant oedd yn barod i helpu.

Roedd fy mam wedi marw yn 2002 – roeddwn i’n agos iawn gyda hi. Roedd hi’n casáu fy ngwylio yn cystadlu (rhy nerfus) felly roedd hi’n aros adref.

Roedd hi’n arfer gofyn os o’n i wedi ennill, a fy nhad yn gofyn os o’n i wedi cystadlu’n dda – mae’r ddau beth yn bwysig iawn.

Atgofion o Athen

Roedd hwyl yno. Dwi’n cofio fod y Gemau eisiau i bobl ailgylchu, felly os oedden ni’n casglu tua 1,500 o gaeadau poteli dŵr, bydden nhw’n prynu cadair olwyn newydd i blentyn anabl.

Roedd gan Carys fwy o ddiddordeb mewn casglu caeadau nag edrych arna i yn cystadlu. Roedd gennym ni filoedd!

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tanni'n dathlu gyda'i merch, Carys, ar ôl ennill yn y ras 400m

Ond dwi’n cofio crio llawer ar ôl y ras 800m, sef un o fy rasys gwaethaf erioed, ac roeddwn i wedi colli hyder. Doedd hynny ddim wedi digwydd i mi o’r blaen.

Felly, roeddwn i’n nerfus cyn y ras 100m ond wnes i ddigon i ennill, a’r 400m wedyn.

Roedd hi’n hyfryd cael teulu a ffrindiau yno. Roedd fy nheulu yn dod i fy nigwyddiadau o hyd; dwi’n cofio fy chwaer a’i gŵr yn dod i Sydney, ac yn dod yn gynnar er mwyn cael y seddau gorau. Roedd hi’n dda gwybod ble oedden nhw, a chael eu gweld ar ôl y ras.

Ar y podiwm mae’n deimlad anhygoel, wedyn ar ôl y seremoni rwyt ti’n mynd yn ôl i’r pentref i baratoi ar gyfer y diwrnod nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Tanni Grey-Thompson 16 o fedalau Paralympaidd - 11 medal aur - cyn ymddeol yn 2007

Dwi ddim yn meddwl am Gemau Athen 2004 tan i rywun ofyn; dwi’n hoffi edrych ymlaen i’r peth nesaf. Ond dwi’n hapus yn cofio nôl.

Roeddwn i’n gwybod bod rhaid rhoi’r gorau iddi rhywbryd. Dydi gwneud y penderfyniad ddim yn hawdd ond dwi’n falch iawn o beth wnes i, a byddwn i ddim wedi gallu ei wneud heb gefnogaeth teulu a ffrindiau.

Gyda phob Gemau Paralympaidd, mae dealltwriaeth y cyhoedd a’r sylw gan y cyfryngau yn gwella, ac mae hynny yn gyffrous i weld.

Geirfa

Ugain/Twenty

Barwnes/Baroness

Gemau Paralympaidd/Paralympic Games

cadair olwyn/wheelchair

atgofion/memories

rhyngwladol/international

gorau posib/best ever

cynllunio/to plan

amserlen cystadlu/competition schedule

cefnogi/to support

athletwyr/athletes

casáu/hate

ailgylchu/to recycle

casglu/collect

caeadau poteli/bottle lids

anabl/disabled

diddordeb/interest

miloedd/thousands

gwaethaf/worst

hyder/confidence

anhygoel/amazing

paratoi/to prepare

ymddeol/to retire

rhoi'r gorau iddi/give up

penderfyniad/decision

dealltwriaeth y cyhoedd/public's understanding

cyfryngau/media

cyffrous/exciting