Cofio sefydlu Cymru Fyw 10 mlynedd yn ôl

Huw Meredydd RobertsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Huw Meredydd Roberts yn rheolwr gwasanaethau ar-lein Cymraeg y BBC rhwng 2012 a 2018

  • Cyhoeddwyd

Ddeng mlynedd yn ôl fe lansiwyd gwasanaeth ar-lein newydd ac unigryw yn y Gymraeg - BBC Cymru Fyw.

Erbyn heddiw mae dal i fyny gyda newyddion y dydd, darllen erthyglau nodwedd a gwneud ambell i gwis - i gyd am Gymru ac yn y Gymraeg - yn rhan o batrwm dyddiol i ddegau o filoedd o Gymru. Ond ddegawd yn ôl doedd 'na ddim sicrwydd y byddai'r gwasanaeth yn dod i fodolaeth o gwbl.

Huw Meredydd Roberts, cyn-reolwr gwasanaethau ar-lein Cymraeg y BBC, sy'n cofio nôl i'r cyfnod o sefydlu'r wefan.

Disgrifiad o’r llun,

Un o straeon cyntaf BBC Cymru Fyw ar ddiwrnod y lansiad ar 22 Mai 2014 - cyhoeddi'r gwasanaeth newydd

Ychydig dros 10 mlynedd yn ôl, ro’n i’n eistedd mewn swyddfa yn y BBC yn Llundain ac roedd un o staff y gorfforaeth yn eitha’ blin efo fi.

Ro’n i wedi mynd yno i egluro pam ein bod ni’n dymuno sefydlu gwasanaeth newydd o’r enw BBC Cymru Fyw, ond doedd yr unigolyn yma ddim yn cytuno â’r weledigaeth honno!

Ro’n i’n deall ei bryder, er mod i ddim yn cytuno. Roedd hi’n gyfnod pan oedd y BBC yn ceisio symleiddio ei darpariaeth ar-lein, a chynnig rhywbeth mwy clir a thaclus. Y broblem oedd bod y syniad o greu gwasanaeth newydd ac unigryw yn Gymraeg yn creu ychydig o gur pen ac yn ‘dipyn o boendod i’r rhai sy’n credu mewn trefn’.

Dadlau dros sefydlu'r gwasanaeth

Nid dyma’r ddadl gyntaf na’r olaf i ni orfod ei chael wrth sefydlu Cymru Fyw ond dwi’n falch i ddweud ein bod ni wedi llwyddo i gael y maen i’r wal, wrth gwrs. Mae anghytuno yn beth iach mewn sefydliad mawr - weithiau mae’n rhaid ymladd eich cornel i symud pethau ymlaen ac mae creu rhywbeth newydd yn aml yn arwain at ychydig o ddadlau a phryder.

A dwi hefyd yn falch i ddweud, ar ôl i ni gytuno i sefydlu Cymru Fyw, mi gawson ni gefnogaeth fendigedig gan dimau technegol y BBC – cefnogaeth fu’n hanfodol i sicrhau llwyddiant y gwasanaeth newydd.

Ac un o lwyddiannau mawr Cymru Fyw yn ystod y 10 mlynedd gyntaf ydy ei gallu i arloesi’n dechnegol – o lansio yr ap newyddion cyntaf yn Gymraeg yn 2014 i greu sianel newydd ar WhatsApp eleni lle gallwch chi gael y newyddion diweddaraf i’ch ffôn.

Disgrifiad o’r llun,

Lansio ap Cymraeg cyntaf y BBC - Cymru Fyw

Beth petai neb yn defnyddio Cymru Fyw?

Mae’r BBC yn lle arbennig i weithio, ond ddim yn lle hawdd i fethu, yn enwedig gyda menter newydd sy’n costio arian ac amser.

Mae hynny’n naturiol o ystyried y pwysau sydd ar y BBC wrth ddefnyddio arian cyhoeddus y drwydded. Ac roedden ni wedi gwneud gymaint o waith ymchwil a gwaith paratoi wrth sefydlu Cymru Fyw, roedden ni gyd yn teimlo bod angen iddi lwyddo.

Roeddwn i’n bersonol yn teimlo’n lwcus iawn i gydweithio gydag unigolion a thimau cynhyrchu talentog oedd yn rhannu’r angerdd tuag at greu gwasanaeth o’r safon uchaf posib, ar lefel fyd-eang.

Pan lansiwyd y gwasanaeth, roedd yr wythnosau cyntaf yn rhai pryderus. Be’ fyddai’n digwydd os na fyddai Cymru Fyw yn llwyddo? Beth os fyddai neb yn ei defnyddio? Ond, mae’n rhaid rhoi cyfle i unrhyw wasanaeth newydd ffeindio’i draed ac, er mawr ryddhad, fe gododd y nifer o bobl oedd yn defnyddio’r gwasanaeth.

Fe ddyblodd nifer y defnyddwyr o 10,000 yr wythnos i 20,000 ac, ymhen amser, fe ddyblodd hynny eto i 40,000. Erbyn heddiw, dwi ar ddeall fod gan Cymru Fyw tua 50,000 o ddefnyddwyr unigryw wythnosol.

Mae hynny’n ffigwr rhyfeddol, ac mae’r timau cynhyrchu sy’n cynnal y gwasanaeth o ddydd i ddydd, o awr i awr, yn haeddu clod am hynny. Oes unrhyw wasanaeth arall yn y BBC sy’n gallu dweud bod eu cynulleidfa wedi tyfu bum gwaith yn fwy mewn 10 mlynedd?

Her cystadlu gyda Saesneg ar y we

Roedd her fawr arall yn ein hwynebu wrth sefydlu Cymru Fyw, fel pob gwasanaeth ar-lein Cymraeg, sef bod llawer o siaradwyr Cymraeg wedi arfer â defnyddio’r we yn Saesneg.

Wrth i’r we dyfu a thyfu, roedd ‘na berygl i’r Gymraeg fynd ar goll yn anferthedd y platfform byd eang. Roedd cynnwys Saesneg gymaint yn haws i ddod o hyd iddo, a pheiriannau chwilio yn ffafrio ieithoedd mwy poblog, a hynny ar draul ieithoedd lleiafrifol.

O ganlyniad, roedd llawer o siaradwyr Cymraeg yn dueddol o ddefnyddio’r we yn Saesneg, ac roedd hynny’n risg go iawn i’r iaith, ac yn parhau i fod heddiw.

Disgrifiad o’r llun,

Newyddion ar-lein Saesneg y BBC yn rhoi sylw i'r lansiad ar 22 Mai, 2014

Hybu'r defnydd o'r we yn y Gymraeg

Fe ddywedodd John F Kennedy unwaith bod “llanw uchel yn codi’r cychod i gyd”. Mae’n ymadrodd roedden ni’n defnyddio’n aml yn nyddiau cynnar Cymru Fyw i gyfleu’r syniad bod gan y gwasanaeth bwrpas ehangach.

Rhan o’r her i ni oedd nid yn unig i drio codi’r defnydd o Cymru Fyw, ond hefyd hybu’r defnydd o’r we yn Gymraeg, a thrio bod yn gatalydd i’r newid diwylliannol hwnnw.

Roedden ni’n cydnabod bod Cymru Fyw yn rhan o ddarlun llawer ehangach, a bod gwasanaethau eraill fel golwg360, dolen allanol, Wicipedia Cymraeg, dolen allanol, cyfryngau cymdeithasol (fel Facebook, X ac Instagram), a’r cannoedd o wefannau eraill Cymraeg, i gyd yn rhan o’r tirlun yma. Dyna pam bod Cymru Fyw wastad wedi rhoi pwyslais ar dynnu sylw defnyddwyr at gynnwys Cymraeg sydd ar wefannau eraill, tu hwnt i’r BBC.

Yn 2018 ‘nes i adael y BBC er mwyn dilyn cyfeiriad gwahanol, felly o bellter ydw i’n gweld pethau erbyn hyn. Fel defnyddiwr dwi’n troi at Cymru Fyw sawl gwaith bob dydd, i wybod be’ sy’n digwydd yng Nghymru.

Ac wrth edrych ymlaen i’r 10 mlynedd nesaf, mi fydd llwyddiant Cymru Fyw yn dibynnu i raddau ar ei gallu i addasu ac arloesi, ar y gefnogaeth y bydd yn parhau i'w derbyn, ac ar ei pharodrwydd i fentro ac efallai i wneud ambell i gamgymeriad ar hyd y ffordd.

Mae ‘na gyfnod cyffrous o flaen Cymru Fyw - gobeithio’n wir geith hi gyfle i hwylio’n rhydd, a bydd y llanw yn parhau i godi.

Pynciau cysylltiedig