Dwy chwaer wedi boddi mewn pyllau yn Eryri - cwest

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Nant Gwynant ar nos Fercher 11 Mehefin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Nant Gwynant ar nos Fercher 11 Mehefin

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed bod dwy chwaer a fu farw mewn pyllau yn Eryri wedi boddi.

Cafodd Hajra Zahid, 29, a Haleema Zahid, 25, eu tynnu o'r dŵr ym Mhyllau Watkin yn ardal Nant Gwynant ar 11 Mehefin.

Clywodd gwrandawiad byr yng Nghaernarfon bod y ddwy wedi teithio i ogledd Cymru gyda ffrindiau o'r brifysgol.

Cafodd y cwest ei ohirio wrth i ragor o ymchwiliadau gael eu cynnal.

Nant Gwynant
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pyllau ar Lwybr Watkin yn boblogaidd gydag ymwelwyr

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 21:31 ar y noson yn dilyn adroddiadau bod un ddynes wedi cael ei thynnu o un o'r pyllau ar Lwybr Watkin, a bod dynes arall yn dal yn y dŵr.

Clywodd agoriad y cwest bod Hajra a Haleema Zahid wedi eu cadarnhau yn farw awr yn ddiweddarach, cyn y gallen nhw gael eu cludo i'r ysbyty.

Cafodd y chwiorydd eu geni yn Rawalpindi ym Mhacistan, ond roedden nhw yn byw yn Rotherham yn Sir De Efrog ac yn astudio graddau meistr mewn Busnes Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caer.

Dywedodd y crwner cynorthwyol Sarah Riley eu bod wedi teithio i ardal Nant Gwynant gyda ffrindiau o'r brifysgol.

Dangosodd archwiliad post mortem bod y ddwy wedi boddi.

Dywedodd y crwner y byddai'n gohirio'r cwest wrth i'r ymchwiliadau barhau.

"Rwy'n anfon fy nghydymdeimlad i'w teulu, ffrindiau a phawb oedd yn eu hadnabod a'u caru," meddai.

Pynciau cysylltiedig