Cynllun Seren yn gyrru talent ac arian o Gymru i Loegr - prifysgolion

Ar ôl gwneud eu harholiadau dros yr wythnosau nesaf, bydd miloedd o ddisgyblion chweched dosbarth - fel y rhai yma o ardal Y Bala - yn symud ymlaen i'r cam nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae angen newid cynllun i fyfyrwyr sy'n gyrru "talent" ac "arian" dros y ffin ar adeg pan mae 'na bwysau ar gyllid prifysgolion Cymru, yn ôl arweinydd addysg uwch.
Cafodd rhaglen Seren ei sefydlu yn wreiddiol i hybu nifer y disgyblion Cymreig sydd yn mynd i brifysgolion gorau Prydain gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt.
Dywedodd is-gadeirydd Prifysgolion Cymru Dr Ben Calvert bod angen "ailfeddwl" y cynllun er mwyn annog mwy o ddisgyblion i fynd i brifysgol yn y lle cyntaf.
Mae Seren yn cefnogi dysgwyr i fynychu'r prifysgolion gorau gan gynnwys y rhai gorau yng Nghymru, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Dr Ben Calvert fod rhaglen Seren, gafodd ei sefydlu yn 2015 ar gyfer myfyrwyr "a fyddai eisoes yn mynd i'r brifysgol"
Gobaith Dr Calvert, sydd hefyd yn Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, yw y bydd trafodaethau ynghylch ffioedd dysgu a chyllid prifysgolion yn cynnig ateb hir dymor i heriau ariannol addysg uwch.
Ond roedd angen sylw i ffactorau eraill hefyd meddai, gan gynnwys y ffaith bod llawer llai o bobl ifanc 18 oed o Gymru yn gwneud cais i'r brifysgol o'i gymharu â disgyblion o Loegr,
Roedd y diffyg yn cyfateb i hyd at 4500 o fyfyrwyr, yn ôl Dr Calvert, a phe bai nifer o'r rheini yn mynd i brifysgol yng Nghymru "mae hynny'n llawer o arian sydd ar goll o'r system.. allai fod yn ein helpu ni ar hyn o bryd".
Mae Prifysgolion Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried codi'r oedran addysg gorfodol.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n ymddangos yn rhyfedd ei bod hi'n 16 - yn Lloegr, mae'n 18," meddai.
Dywedodd ei fod yn poeni bod hynny ddim yn rhoi neges o "uchelgais addysgol".
'Angen rhaglen sy'n gweithio i bawb'
Ychwanegodd fod rhaglen Seren - a gafodd ei sefydlu yn 2015 - wedi'i hanelu at fyfyrwyr "a fyddai eisoes yn mynd i'r brifysgol".
"Mae'n rhaglen sy'n mynd â llawer iawn o fyfyrwyr i sefydliadau Grŵp Russell yn Lloegr.
"Rwy'n credu bod angen rhaglen sy'n gweithio i bawb, sy'n delio, efallai'n fwy penodol â dysgwyr sy'n gofyn cwestiynau ynghylch a yw'r brifysgol ar eu cyfer nhw o gwbl."
Dydy cymryd y rheini "ar y brig ac o bosibl eu hanfon i sefydliadau yn Lloegr ddim yn teimlo'n iawn," meddai.

Anya, Lleucu a Cadog - disgyblion chweched dosbarth Ysgol Godre'r Berwyn
Mae Cadog, sy'n 18 ac o Lanuwchllyn, yn gobeithio cymryd blwyddyn allan cyn mynd i'r brifysgol.
"Dwi'n meddwl dwi'n really focused ar fynd i brifysgol yng Nghymru, a be' sy' 'di dylanwadu fi ydy bod yr iaith yn bwysig iawn i fi."
Aeth yn ei flaen i ddweud fod siarad ac ysgrifennu'n Gymraeg yn haws iddo na Saesneg ac ei fod am fynd yn athro yn y pen draw.
"Dwi am fynd i ddysgu cynradd - felly fydd o'n bwysig neud y cwrs yn Gymraeg er mwyn gallu dysgu yng Nghymru wedyn.
"Dwi'n meddwl fod o'n bwysig bo' ni'n cael help ariannol i aros yng Nghymru, achos yn sicr ma'n bwysig i ni fel Cymry i gadw'n diwylliant ni - a hynny o fewn y prifysgolion hefyd."
Ychwanegodd mai'r "unig le dwi 'di ystyried tu allan i Gymru ydy Lerpwl, a ma' hynny oherwydd ma' 'na gymdeithas Gymraeg gref yna hefyd a ma' 'na gyrsiau Cymraeg ar gael yna".
'Ehangu ar y mhrofiade i'
Dydi Lleucu, 16 o Lanuwchllyn, ddim yn sicr eto pa gwrs mae hi am ei wneud.
"Wel dwi'n ystyried 'neud cwrs celfyddydol neu lenyddol achos dyna sy'n bwysig i fi, a dwi'm yn siŵr pa gwrs eto na lle - dwi dal yn dewis.
"Ma'r lle dwi am fynd yn bwysig i fi, 'swn i'n licio mynd i rwle Cymreig, ond dwi'n meddwl fod o'n bwysig profi rywle hollol newydd pan ry'ch chi'n ifanc hefyd."
Yn 18 ac o'r Bala, mae Anya wedi gwneud ceisiadau i astudio'r gyfraith a Saesneg mewn prifysgolion yn Lloegr.
"O'n i'n bendant eisiau mynd i Loegr i astudio - 'nes i ystyried rhai Cymru ar y cychwyn.
"Ond dwi isio ehangu ar y mhrofiade i, a chael blas ar systemau addysg gwahanol. Felly o'n i'n meddwl mai Lloegr fyse'r dewis gore i fi fynd i fod yn onest."
Nid rhywbeth newydd ydy uchelgais Anya.
"O'n i bendant eisiau mynd i brifysgol, ers o'n i'n fach. O'n i wedi meddwl am 'neud prentisiaeth neu wbeth fel yna ond 'di o ddim rili yn y nenu i. Dwi ddim isio cymryd egwyl o addysg."

"Dwi 'di elwa'n fawr iawn yn bersonol o gynllun Seren, nath e helpu fi'n fawr yn ystod TGAU a Lefel A," meddai Megan
Dim pawb sydd yn erbyn y cynllun gan gynnwys Megan Bryer, sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio hanes yng Ngholeg yr Iesu yn Rhydychen.
"Dwi'n lwcus iawn, byddwn i ddim 'di gallu cyrraedd Rhydychen heb gynllun Seren," meddai.
"Nes i wir fwynhau e, mae'n gwthio ti lot ymhellach a helpu ti i feddwl yn fwy critigol... sydd wedyn yn helpu ti i wneud cais am y prifysgolion mwyaf cystadleuol yn y Deyrnas Unedig.
"Chi'n cystadlu gyda phobl sy'n dod o gefndiroedd ysgolion preifat sy'n cael y wybodaeth hynny wedi ei rhoi iddyn nhw yn rhan annatod o'u haddysg felly mae'n gynllun positif iawn sy'n cael lot o lwyddiant."
- Cyhoeddwyd7 Awst 2024
- Cyhoeddwyd15 Awst 2024
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2024
Dywedodd Owain James, sydd wedi sefydlu cwmni Darogan Talent i gysylltu graddedigion gyda swyddi safon uchel yng Nghymru: "Mae Seren yn cael rhyw fath o fai am bobl yn gadael ond dwi'n meddwl bo' hwn yn hen stori.
"Dwi'n meddwl bod y ffaith bo' gymaint o ddinasoedd mawr Lloegr mor agos at ein ffin ni yn ffactor," meddai.
"Bydd pobl dal isie mynd i'r prifysgolion gorau, grŵp Russell a Rhydychen hyd yn oed petai'r cynllun yn dod i ben."
'Anghytuno'n llwyr gyda'r meddylfryd'
Dywedodd cyn-ymgynghorydd arbennig i Lywodraeth Cymru na fyddai denu mwy o fyfyrwyr o Gymru, ar ei ben ei hun, yn datrys yr heriau ariannol sy'n wynebu addysg uwch.
Yn ôl Dewi Knight gallai prifysgolion wneud mwy "i ddenu'r myfyrwyr hynny sydd ar garreg eu drws a bod yn gystadleuol nid yn unig ar lefel Cymru ond ar lefel y Deyrnas Unedig".
"Wrth gwrs, dwi'n meddwl ei bod hi'n beth da os gallwn ni ddenu myfyrwyr o Gymru i fod mewn prifysgolion yng Nghymru neu ddod adref i wneud eu ôl-radd ond dwi'n meddwl ei bod hefyd yn bwysig bod gan fyfyrwyr a'u teuluoedd y gallu i wneud y penderfyniad sy'n addas iddyn nhw," meddai.
"I fi mae cenhadaeth Seren a gwaith Seren dal yn holl bwysig gan fod e'n rhoi cyfle i ddisgyblion ym mhob cymuned yng Nghymru i gael cefnogaeth i gyrraedd eu potensial nhw."
Dywedodd nad oedd yna draddodiad yn y sector addysg yng Nghymru o wthio'r goreuon i gyflawni fel dylen nhw, a bod gan y cynllun "rôl hollbwysig yn herio'r diwylliant hynny".

Roedd Dewi Knight yn ymgynghorydd arbennig ar addysg i Lywodraeth Cymru rhnwg 2016 a 2021
Ond mae Aelod Senedd Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cefin Campbell yn credu bod rhaid ailedrych ar y cynllun.
"Mae 40% o'n myfyrwyr ni yn astudio mewn prifysgolion y tu fas i Gymru," meddai.
"Mae hwnna'n costio £1.1bn i Lywodraeth Cymru – mae hynny'n anghynaladwy.
"Beth sydd hefyd yn anffodus yw bod ni'n gyrru negeseuon cwbl negyddol i'n myfyrwyr.
"Beth ni'n dweud yw: 'gwrandewch, os chi isie'r addysg brifysgol gorau, os chi isie datblygu'ch talent, mae angen i chi fynd allan o Gymru i wneud hynny.
"Dwi'n anghytuno'n llwyr gyda'r meddylfryd yna."
'Cefnogi'r dysgwyr gorau'
Mae Plaid Cymru wedi galw am adolygiad o gyllid prifysgolion ac wedi crybwyll y posibilrwydd o newid grantiau cynnal a chadw fel bod mwy o gefnogaeth i fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru.
Maen nhw hefyd wedi galw am newid ffocws cynllun Seren.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae Seren yn cefnogi'r dysgwyr gorau waeth beth fo'u cefndir economaidd, eu sefyllfa bersonol, neu eu lleoliad, i fynychu'r prifysgolion gorau, gan gynnwys prifysgolion yng Nghymru.
"Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar ffyrdd o gynyddu cyfleoedd ymhellach i ddysgwyr gymryd rhan yn Seren."