Dyn 33 wedi'i gyhuddo o lofruddio dynes yn Y Rhyl
![Rhyl](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/557/cpsprodpb/cf4a/live/b9af5550-9443-11ef-89ae-5575c76d98e6.jpg)
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i dŷ ar Ffordd Cefndy, Y Rhyl am 22:30 nos Iau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 33 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio dynes 69 oed yn Y Rhyl.
Bu farw’r ddynes, na sydd wedi'i henwi, ar ôl iddi gael ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Nos Iau cafodd Heddlu'r Gogledd Cymru eu galw i dŷ ar Ffordd Cefndy yn y dre.
Mae disgwyl i Dean Mark Albert Mears, o Rodfa Bodelwyddan, Bae Cinmel, Sir Conwy, ymddangos ger bron ynadon yn Llandudno ddydd Llun.
Cafodd ei arestio yn wreiddiol ar amheuaeth o geisio llofruddio.
Mae dynes 25 oed, sydd wedi’i harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth amodol.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lee Boycott fod yr ymchwiliad yn parhau ac fe anogodd "unrhyw un sydd â gwybodaeth ac na sydd wedi cysylltu eisoes i wneud hynny".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2024