20mya: Gweinidog i wynebu cynnig o ddiffyg hyder

Arwydd 20mya yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y ddeddf 20mya ei chyflwyno yng Nghymru ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd

Bydd y gweinidog sydd wedi arwain y newid i'r terfyn cyflymder i 20mya ar ffyrdd yng Nghymru yn wynebu cynnig o ddiffyg hyder gan y Ceidwadwyr.

Daw'r cynnig, yn erbyn y dirprwy weinidog newid hinsawdd Lee Waters, ar ôl i'r nifer uchaf erioed o lofnodion gael eu hychwanegu i ddeiseb yn gwrthwynebu'r newid.

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Natasha Ashgar A.S, fod safle Mr Waters "yn anghynaladwy" a'i bod "yn bryd iddo fynd".

Dywedodd gweinidogion mai eu nod yw arbed bywydau a diogelu cymunedau.

Mae'r terfyn cyflymder newydd mewn ardaloedd preswyl yn weithredol ers ddydd Sul.

Mae'r polisi wedi bod yn un hynod ddadleuol gyda deiseb wedi ei chyflwyno i'r Senedd yn galw am ddiddymu'r ddeddf yn cyrraedd dros 380,000 o lofnodion.

Disgrifiad o’r llun,

Arbed bywydau a diogelu cymunedau yw'r nod gyda'r newid yn ôl Lee Waters A.S

Ddechrau'r wythnos, dywedodd Mr Waters y byddai'n cymryd amser i ddod i arfer â'r newid a gafodd ei dreialu am gyfnodau mewn wyth ardal o Gymru.

"Pan fo'r terfynau cyflymder yn is, mae pobl yn teimlo'n fwy diogel wrth seiclo a cherdded, felly mae llai o bobl yn gyrru," dywedodd.

Mae Mr Waters, a'r Prif Weinidog Mark Drakeford, wedi amddiffyn y polisi yn chwyrn.

Mae cynnig y Ceidwadwyr Cymreig, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener ac a fydd yn cael ei drafod ym Mae Caerdydd yr wythnos nesaf, yn dweud nad oes gan Senedd Cymru "hyder yn y dirprwy weinidog ar newid hinsawdd o ystyried y nifer uchaf erioed o lofnodion i'r ddeiseb: Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya".

'Tanseilio ewyllys mwyafrif pobl Cymru'

Wrth gyhoeddi'r cynllun ar gyfer y cynnig, fe wnaeth Ms Asghar gyhuddo Mr Waters o "geisio tanseilio ewyllys y mwyafrif llethol o bobl Cymru oherwydd nad yw'n gallu cyfaddef ei fod wedi gwneud cam â'i bolisi 20mya".

“Rhaid i’r dirprwy weinidog roi ei falchder i'r naill ochr. Mae pobl Cymru wedi cael digon.

"Mae ei safbwynt yn anghynaladwy, mae'n bryd iddo fynd," ychwanegodd.

Mae cynigion diffyg hyder yn brin yn y Senedd a phe byddai Mr Waters yn colli pleidlais, fe fyddai disgwyl iddo, yn arferol, i ymddiswyddo.

Ond gyda'r Ceidwadwyr yn dal 16 o'r 60 o seddi yn y Senedd - a disgwyl i bleidiau eraill beidio cefnogi - dydy'r cynnig ddim yn debygol o gael ei gymeradwyo.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru: "Mae'r ddadl ynghlŷn â'r ddeddf 20mya wedi bod yn frwd ar y ddwy ochr.

"Ni fydd dadlau ar Twitter yn gadael i ni symud ymlaen mewn ffordd synhwyrol sy'n cydbwyso diogelwch gydag anghenion lleol.

"Rwy'n cefnogi'r egwyddor o gyflwyno terfynau cyflymder is ble mae eu hangen, ond mae'n rhaid iddyn nhw weithio i ennill mwy o gefnogaeth gyhoeddus i'r newid yma fel bod llai o fywydau'n cael eu colli ar ffyrdd bob blwyddyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya mewn ardaloedd preswyl yn bennaf wedi’i gynllunio i achub bywydau a gwneud ein cymunedau’n fwy diogel i bawb, gan gynnwys modurwyr.

“Mae wedi cael ei ymchwilio’n drylwyr, bu pleidlais yn y Senedd ac mae wedi cael cefnogaeth mwyafrif o Aelodau’r Senedd.

"Bu ymgynghori helaeth ac mae wedi cael ei dreialu mewn cymunedau ledled Cymru."