Arwyn 'Herald': 40 mlynedd o dynnu lluniau yn Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Efallai fod ei wyneb fel arfer wedi ei guddio gan gamera, ond mae Arwyn 'Herald' Roberts yn gyfarwydd ym mhob Eisteddfod yr Urdd, yn tynnu lluniau'r plant sydd wedi bod yn llwyddiannus ar y llwyfan.
Heblaw am gyfnod Covid, pan oedd yr ŵyl yn ddigidol, mae wedi gweithio ym mhob un ers ei Eisteddfod gyntaf ym Mhwllheli yn 1982 - gan gynnwys yn ystod blwyddyn Clwy’r Traed a’r Genau yn 2001 pan gafodd ei darlledu o ddwy ganolfan.
Arwyn fu'n chwilio drwy ei archif helaeth o luniau ac yn hel atgofion:
“Mae wedi bod yn fraint ac anrhydedd i weithio yn Eisteddfodau’r Urdd a be’ sydd wedi rhoi pleser i mi fwy na dim byd ydi gweld plant i blant pobl o'n i’n tynnu eu lluniau nhw rŵan yn cystadlu.
"Mae hi wedi bod yn bleser bod yn rhan ohoni. A be sy’n fy nharo i, rhai blynyddoedd yn ôl, roedd y mamau a’r tadau yn dod â’r plant, a rŵan maen nhw’n neiniau a theidiau...!
"Dwi’n teimlo rŵan mai Steddfod pobl ifanc ydi hon. 'Nes i sylweddoli fod y bobl o nghwmpas i hanner fy oed i, a bod hi’n amser ei basio fo 'mlaen. Mae 'na lot o bobl ifanc talentog yma.
"Dwi’m yn blino ar y Steddfod, ond dwi yn blino; mae hi’n ddiwrnod caled a hir, ar y Maes o 7.30 y bore tan 7.30 y nos, am 6 diwrnod – mae o yn waith caled.
"Be’ sy’n dda am y Steddfod ydi ei bod hi wedi newid yn raddol efo’r amser i newid efo’r oes.
"Dwi 'di gweithio efo lot o drefnwyr y Steddfod dros y blynyddoedd, ac mae Llio Maddocks wedi dechrau ar ei gwaith hithau yn y blynyddoedd dwytha, a dwi’n dymuno pob lwc iddi hithau hefyd.
"Dwi’m yn rhoi’r gorau iddi’n gyfan gwbl, mae gen i lot o bethau’n digwydd.
"A dwi ddim yn cau’r drws ar yr Urdd. Os fydd 'na alwad, mi wna i helpu unrhyw adeg."
"Rhai o'r Eisteddfodau sydd yn aros yn y cof (am resymau da a drwg):
1982 - Fy Eisteddfod gynta' ym Moduan
1986 - yn Nyffryn Ogwen, bron â cholli’r pafiliwn achos dŵr glaw anferthol yn pwyso i lawr arno
1989 – Cwm Gwendraeth - fanno ddechreuodd y Steddfod am y tro cynta ar y Dydd Llun. Pedwar diwrnod oedd hi cyn hynny
1998 - 'nes i droi’n nhroed a gorfod mynd i'r ysbyty!
2001- gŵyl yr Urdd achos clwy’r traed a’r genau
2004 - Steddfod Sied y Gwartheg
2012 – Steddfod Eryri – o’n i ar y pwyllgor gwaith ar gyfer honno
2020 a 2021 - yr unig Eisteddfodau i mi eu methu, am nad oedd 'na rai!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd28 Mai 2024