Ffrind 'wedi amau' fod merch mewn perthynas â Neil Foden
- Cyhoeddwyd
Mae ffrind i'r prif achwynydd yn yr achos yn erbyn Neil Foden wedi dweud ei fod "wedi amau" bod y ddau mewn perthynas.
Honnir bod Mr Foden - a oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - wedi manteisio ar ei sefyllfa i wneud cysylltiadau â phlant.
Mae Mr Foden, 66 o Hen Golwyn, yn gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â phum plentyn.
Mae'r honiadau'n dyddio o Ionawr 2019 hyd at Fedi 2023 ac yn cynnwys cyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn.
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2024
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Mercher gan fachgen a ddywedodd ei fod yn ffrind i'r ferch sy'n cael ei chyfeirio ati yn yr achos fel Plentyn A.
Yn ei gyfweliad gyda'r heddlu, dywedodd y bachgen eu bod yn gyfeillion ers blynyddoedd, ac y byddai'r ddau yn cysylltu â'i gilydd yn gyson dros y ffôn neu ar gyfryngau cymdeithasol.
Ychwanegodd ei fod wedi amau bod perthynas rhwng y ferch a Neil Foden, ond nad oedd hi wedi trafod unrhyw fanylion tan un achlysur pan wnaeth y ddau gwrdd i fynd am dro.
Yn ôl y bachgen, roedd Plentyn A' wedi dweud ei bod mewn perthynas gyda Mr Foden ers tua chwe mis.
Dywedodd fod y ferch wedi dweud bod y berthynas wedi dechrau gyda Mr Foden yn gafael yn ei dwylo a'i hysgwyddau, cyn iddo symud ymlaen at wneud sylwadau am ei chorff.
Fe wnaeth y ferch ddweud hefyd bod y ddau wedi "cusanu", meddai, ac y byddai Mr Foden yn ei cham-drin yn rhywiol, fel arfer yn ei gar.
Nododd hefyd bod y ferch wedi dweud y byddai Mr Foden yn aml yn gyrru negeseuon testun iddi, ac yn trafod gweithredoedd rhywiol a'r ffaith y byddai'n mynd â hi i westy rhyw ddiwrnod.
Ychwanegodd y bachgen nad oedd o wedi trafod cynnwys y sgyrsiau hyn gydag unrhyw un arall, ond ei fod wedi galw ar ei ffrind i ddweud wrth oedolyn.
"Roedd y syniad eisoes yn ei phen," meddai.
'Llwyth o negeseuon'
Mae ail ffrind i Blentyn A wedi honni ei bod wedi dangos llun iddi ohoni hi a Mr Foden yn y car gyda'i gilydd.
Yn ei chyfweliad gyda'r heddlu, dywedodd y ferch ei bod hi wedi cwrdd â Phlentyn A ar benwythnos, a'i bod hi wedi dweud ei bod "mewn perthynas gyda Mr Foden" ers tua chwe mis.
Honnodd bod ei ffrind wedi dangos lluniau o'r ddau yn y car gyda'i gilydd, yn ogystal â fideo o Mr Foden yn gyrru a neges llais yr oedd hi'n honni oedd wedi cael ei yrru gan Mr Foden.
"Roedd llwyth o negeseuon," meddai, ond nododd nad enw Mr Foden oedd yn cael ei ddefnyddio.
Ychwanegodd y ferch bod Plentyn A wedi dweud y byddai Mr Foden yn ei chasglu yn ei gar, ac y byddai'n ei gyrru bron i awr i ffwrdd.
"Fe wnes i ddweud y dylai hi sôn wrth rywun cyn i bethau fynd rhy bell, rhag ofn i rywbeth arall ddigwydd," meddai.
"Pan yr oedd hi'n rhannu hyn gyda mi, doedd hi ddim yn crio, ond mi oedd hi'n amlwg yn upset."
'Roedd hi'n teimlo'n drist ac yn fudr'
Clywodd y llys hefyd gan berthynas i Blentyn A, oedd yn dweud nad oedd hi eisiau mynd i'r ysgol ar adegau ac y byddai hi weithio yn galw yn gofyn a fyddai hawl ganddi fynd adref.
"Cefais i alwad un diwrnod yn dweud ei bod hi (Plentyn A) wedi mynd i'r orsaf heddlu ac y dylwn ei chyfarfod hi yno... dyna pryd gefais i wybod bod rhywun wedi meithrin perthynas amhriodol â hi."
Dywedodd nad oedd hi'n gwybod am yr hyn ddigwyddodd rhwng Plentyn A a Mr Foden tan y diwrnod wedyn.
"Roedd hi'n falch o gael rhannu'r cyfan, ond mi oedd hi mewn poen. Roedd hi'n drist, ac roedd hi'n teimlo'n fudr."
Mae'r achos yn parhau.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.