'Cofio'n annwyl' am un o gantorion Hogia Llandegai

Roedd Roy Astley (ar y chwith) yn gitarydd ac yn canu'r llais tenor topFfynhonnell y llun, TELDISC POPS-Y-CYMRO
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Roy Astley (ar y chwith) yn gitarydd ac yn canu'r llais tenor top

  • Cyhoeddwyd

Yn 91 oed bu farw Roy Astley o Lanfairfechan - un o gantorion Hogia Llandegai.

Wrth ei gofio dywedodd Neville Hughes - yr unig aelod sydd bellach ar ôl - ei fod yn "chwith meddwl ei fod wedi'n gadael a mai dim ond fi sydd ar ôl wedi i Ron a Now ein gadael ryw ugain mlynedd yn ôl".

Tyfodd yr Hogia allan o wythawd Criw Sgiffl Llandegai.

Triawd oeddent i ddechrau ac ar ddiwedd eu cyfnod hefyd - sef Neville [Nev] Hughes (gitâr a llais, cyflwynydd), Ronald Wyn [Ron] Williams (prif leisydd) ac Owen Glyn [Now] Jones (organ geg a llais).

Ymunodd Roy Astley (gitâr a llais) yn ddiweddarach cyn i'r pedwarawd ddechrau recordio caneuon o dan yr enw Hogia Llandegai yn ystod y 1960au.

"Roedd ganddo lais ardderchog - fo oedd y tenor top a finna yr un gwaelod," meddai Neville Hughes wrth siarad â Cymru Fyw.

"Roedd o'n dynnwr coes, yn ddyn hwyliog iawn ac yn aelod anhepgor ohonom.

"Fe gawson ni sawl noson ragorol ac roedd Roy yn rhan o'r Hogia pan oeddan ni yn ein hanterth a phan 'nathon ni recordio ein EP cyntaf sef 'Trên Bach yr Wyddfa'.

"Mi ddaeth yna ragor o recordiau wedyn a Roy yn rhan o bob un - yn eu plith 'Anti Henrietta o Chicago', 'Mynd i'r Fan a'r Fan', Mi Ganaf Gân' a 'Mae Pawb yn Chwarae Gitâr'.

"Fe gawson ni hwyl rhyfeddol - perfformio yn y gogledd i ddechrau ac yna fe wnaeth noson Pinaclau'r Urdd ym Mhontrhydfendigaid agor y drws i ni berfformio yn y de - roedd o'n gyfnod arbennig iawn a pherfformwyr fel Tony ac Aloma ac eraill yn cadw cwmni i ni mewn cyngherddau.

"Bu plant Roy yn canu gyda ni hefyd mewn cyngherddau - Glenda a David."

Neville Hughes (ar y dde) yng nghwmni Rhys Mwyn ym mis Hydref 2019
Disgrifiad o’r llun,

Neville Hughes (ar y dde) yng nghwmni Rhys Mwyn ym mis Hydref 2019

Yn 1971 dathlodd Hogia Llandegai eu milfed cyngerdd ym Mhlaza Bangor. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn Rhagfyr 1973, cafodd eu cyngerdd olaf ei berfformio yn yr un man.

Oddeutu pum mlynedd wedi hynny, cawsant wahoddiad gan I B Griffith i berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon yn 1979 ac fe arweiniodd y cyngerdd hwnnw at gyfnod pellach o berfformio.

"Triawd oeddwn i eto ar y diwedd gan i Roy benderfynu beidio ag ailgydio yn y perfformio ond mae ei gyfraniad i'n llwyddiant cynnar yn fawr.

"Chwith iawn meddwl ei fod wedi'n gadael. Mae gen i atgofion annwyl iawn amdano," ychwanegodd Neville Hughes.

Mae Roy Astley yn gadael gweddw Glenys a dau o blant a'u teuluoedd.

Pynciau cysylltiedig