Cofio 60 mlynedd ers y rhaglen canu ysgafn Cymraeg gyntaf ar deledu'r BBC
- Cyhoeddwyd
Mae wedi bod yn flwyddyn o ddathliadau rhaglenni Cymraeg yn ddiweddar rhwng hanner canrif Pobol y Cwm a 40 mlynedd Beti a’i Phobol.
Ond mae hefyd yn 60 mlynedd ers y rhaglen canu ysgafn/poblogaidd gyntaf yn y Gymraeg ar y BBC.
Fe ddechreuodd Hob y Deri Dando yn 1964 - yr un flwyddyn â rhaglen Saesneg bop y gorfforaeth, Top of the Pops.
Ond fel sy'n amlwg o'r lluniau a'r clip yma, yn wahanol i Top of the Pops roedd y rhaglen yn gymysgedd oedd yn cynnwys elfen gref o ganu ysgafn y noson lawen - fel Ryan Davies a’r grŵp Parti Eryri - ac artistiaid ddaeth yn adnabyddus yn y sin roc Gymraeg, fel Meic Stevens a Heather Jones.
Fe chwaraeodd y rhaglen ei rhan yn gosod y sylfeini ar gyfer rhaglenni eraill ddaeth dros y blynyddoedd fel Disc a Dawn - sy'n cael ei gydnabod fel y rhaglen bop Cymraeg gyntaf - yn 1967 a Twndish yn 1977.
Roedd gan sianel deledu TWW raglenni tebyg oedd yn cystadlu yn erbyn Hob y Deri Dando fel Dewch i Ganu, y Sgubor Lawen a’r Noson Lawen.
Un sy’n cofio’r cyfnod ydi Arwel Jones, oedd yn recordio fel Triawd yr Wyddfa, cyn i’r tri dyfu’n pedwar, ac yna’n bump, a throi’n Hogia’r Wyddfa.
Meddai: “Glan Davies oedd yn cyflwyno, un o Aberystwyth ac roedd o’n gwisgo cap. Ac wedyn roedd gen ti Aled a Reg - Aled o Frynsiencyn a Reg o Fangor - yn chwarae country and western, y nhw oedd fel y resident band.
“Roedd Ryan yno ac roedd gen ti fandiau a phartïon fel Parti Eryri, Hogia Llandygai - grŵp sgiffl oedden nhw. Ac roedd ‘na rai wedi dechrau eu gyrfa ar y rhaglen - fel Hywel Gwynfryn.”
Recordio o flaen llaw yn hytrach na’i gwneud yn fyw oedden nhw, meddai Arwel.
Roedd o’n byw yng Nghaerdydd pan ganodd ar y rhaglen am y tro cyntaf - ond o fewn ychydig roedd wedi ymgartrefu yn y gogledd a’r daith i ffilmio yng Nghaerdydd yn bellach byth bryd hynny.
“Rargian oedd - doedd y lonydd ddim yn dda’r adeg honno, lawr yr A470,” meddai.
“Fydda ni’n cael lodgings yng Nghaerdydd - roedd y cwmni’n rhoi ni fyny. Ond fydda ni’n aml yn mynd i wneud y recordio ac wedyn yn canu rhywle arall fel Llandysul neu Gaerfyrddin ar y ffordd nôl, ac wedyn nôl erbyn y Gymanfa Ganu ar y dydd Sul.”
Roedd y gyfres yn rhoi profiad i artistiaid newydd mewn cyfnod pan oedd diwylliant pobl ifanc yn dechrau ffynnu.
Y cynhyrchydd oedd Ruth Price, dan arweinyddiaeth Pennaeth Adloniant Ysgafn BBC Cymru Meredydd Evans - oedd hefyd weithiau yn cyflwyno.
Yn y llyfr hanes pop Be Bop a Lula’r Delyn Aur meddai Meredydd Evans: “Mi oedd hi’n rhyfadd fel oedd cantorion a arferai sefyll ar lwyfan i ddiddanu yn ei chael yn anodd i eistedd yn naturiol lonydd o flaen camera i ganu.
“Fe fu’n rhaid dibynnu’n helaeth ar Aled a Reg, y ddau’n medru chwarae gitâr, i ganu peth wmbreth o gyfieithiadau a hen benillion ar alawon cyfoes.
"Mi oeddan nhw’n ddau walch yn gosod darnau o bapur gyda’r geiria ym mhobman a thalia ddim i wneud hynny o flaen camera. Ond roedd yna hwyl i’w gael a rhyw symud 'mlaen yn ara’ bach.”
Ac mae'r hwyl a'r adloniant yn amlwg o'r lluniau sydd yn archif BBC Cymru:
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2018