Gofalwr y flwyddyn: 'Bydda i 'na trwy'r amser'

Eirian gyda'i wraig Rachel a'r plantFfynhonnell y llun, Eirian Evans
Disgrifiad o’r llun,

Eirian gyda'i wraig Rachel a'r plant

  • Cyhoeddwyd

“Dal ati a chofiwch bod chi’n caru’r person chi’n gofalu am. Briodais i’n gariad a chi’n dweud ‘yn glaf ac yn iach, tra byddwn ni’n dau byw’ a dwi’n meddwl e. Bydda i ‘na trwy’r amser. I’r bobl sy'n edrych ar ôl eu rhieni neu eu plant neu gŵr neu gwraig, dalwch ati. Mae’n rhywbeth pwysig i 'neud.”

Dyma neges Eirian Evans o Bort Talbot, sydd newydd gael ei enwi’n Ofalwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Balchder Radio Cymru 2024.

Ers i’w wraig Rachel, sy’n 49 oed, gael diagnosis o ganser mae Eirian wedi bod yn gofalu amdani, gan gydbwyso ei rôl fel ymarferydd nyrsio ar ward adfer strôc Ysbyty Castell Nedd Port Talbot gyda’i ofal amdani.

Mae Eirian hefyd yn gofalu am eu merched Ellie, 16 oed, ac Annie, 12 oed, tra’n gwirfoddoli i RNLI Port Talbot a chymryd rhan mewn triathlonau i godi arian ar gyfer Canolfannau Maggie sy’n cefnogi pobl sy’ wedi eu heffeithio gan ganser.

Ffynhonnell y llun, Eirian Evans
Disgrifiad o’r llun,

Eirian gyda'i wraig Rachel a'u merch Annie

Er gwaethaf ei ymroddiad amlwg i’w deulu a’r gymuned, mae Eirian yn synnu ei fod wedi derbyn y wobr: “Dwi ddim yn teimlo bod fi’n haeddu fe, mae lot o bobl yn y gymuned sy’n 'neud mwy o ofal na dwi’n gwneud.

“Mae wedi bod yn sioc fawr. Dwi’n gweithio'n llawn amser fel nyrs ymarferydd a dwi’n mynd adre wedyn ond mae’n feddwl i wastad adre hefyd, dwi’n 'neud yn siŵr fod fy ngwraig i’n iawn.”

Yn wreiddiol o Rydaman, mae Eirian yn cydnabod effaith ddofn diagnosis ei wraig ar y teulu. Erbyn hyn mae Rachel wedi cael mwy na 50 rownd o cemotherapi i drin y canser oedd wedi cychwyn yn y fron chwe blynedd yn ôl ond sydd wedi lledu i'r afu.

Dywedodd: “Mae wedi ein taro’n galed iawn. Mae’n anodd gweithio’n llawn amser a sicrhau bod fy nheulu’n iawn hefyd.

“Mae’n ngwraig i’n gallu cerdded rownd a choginio weithiau ond weithiau mae’r poen yn ei esgyrn hi yn wael.

“Ond os fyddech chi’n gweld fy ngwraig i, mae mor gryf yn ei phen, mae’n dweud ‘os roiai mewn i hwn mae’n mynd i gymryd fi’.

“Ti’n gorfod neud yn siŵr fod popeth yn iawn i’r plant hefyd.”

Mae Eirian a Rachel yn nyrsys, proffesiwn sy’n rhedeg yn eu teulu ac sydd wedi ysbrydoli eu merch hynaf Ellie i ddechrau prentisiaeth mewn meithrinfa leol, fel mae Eirian yn esbonio: “Mae nyrsio yn fy ngwaed i – oedd fy mam i’n nyrsio yn yr 1970au.

“Plismon o’n i moyn bod am flynyddoedd ond oedd fy mam i’n dweud mod i’n rhy garedig i fod yn blisman, bydden i’n gadael pobl off!”

Gofal teulu

Mae eu plentyn ieuengaf Annie yn dilyn ôl troed Eirian fel triathletwr a bydd yn cynrychioli Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol yn y Pencampwriaethau Rhyngranbarthol ym mis Medi yng Nghaerlŷr.

Meddai Eirian: “Dwi’n trio 'neud popeth yn naturiol i’m mhlant i – mae Annie, sy’n 12 oed nawr, yn cynrychioli Cymru mewn triathlon ym mis Medi – sy’n fendigedig.

“Dwi’n mynd a hi mas ar y beic a’n trio 'neud popeth yn iawn i nhw gartref. Mae’r un hynaf yn gweithio yng ngofal plant – mae’r ddwy o nhw gyda gwahanol sgiliau a phersonoliaeth ond dwi’n prowd o’r ddwy o nhw 'tabeth maen nhw’n gwneud.”

Nid yn unig ei deulu a’r cleifion yn yr ysbyty mae Eirian yn gofalu amdanynt: “Dwi’n mwynhau nyrsio a gofalu am fy cleifion, dwi’n credu bod fi’n gofalu ac yn 'neud gwaith da i nhw.

“Dwi wastad yn 'neud yn siŵr bod eu gŵr neu gwraig neu eu plant nhw’n iawn a dwi’n edrych ar ôl y staff hefyd.

"Dwi’n mwynhau edrych ar ôl pawb ond mae’n galed edrych ar ôl i’n 'unan weithiau.”

Ffynhonnell y llun, Eirian Evans

Ffordd Eirian o gael ysbaid o’r gofalu yw drwy ymarfer corff, meddai: “Dwi’n hoffi neud triathlons a dwi’n cadw’n heini wrth redeg, seiclo a nofio a hwnna yw’r ffordd dwi’n ymdopi ‘da popeth.

“Dwi’n seiclo lan y mynydde neu lan yn y cwm a chymryd mewn y golygfeydd a fel ‘na dwi’n ymlacio. 'Se i’n un sy’n gallu eistedd lawr.”

Mae Eirian wedi bod yn codi arian i ganolfannau Maggie's ers diagnosis ei wraig ac mae’n esbonio pam fod y ganolfan yn Ysbyty Singleton mor agos i’w galon: “Blwyddyn diwethaf pan ga'th fy ngwraig i’r diagnosis o’n i mewn lle tywyll ac achos bod fi yn y swydd fi ynddo o’n i’n gweld y tywyll trwy’r amser.

“Dwi’n mynd yn emosiynol weithiau nawr ond 'se i’n cael diwrnodau gwael fel o’n i blwyddyn diwethaf. O’n i ‘di gweld seicolegydd ym Maggie's ac o’n nhw wedi ysgrifennu pethau lawr ac wedi rhoi fi mewn lle da i ymdopi ‘da popeth.

“Dwi’n eistedd ar y bwrdd yno (yng nghanolfan Maggie's) yn cael dished o goffi ac mae pobl yn dod mewn ac mae pobl yn meddwl bod fi’n volunteerio yno – dwi’n siarad â phobl trwy’r amser.

“Dwi’n teimlo bod fi moyn helpu nhw – dwi ffaelu helpu, dwi moyn helpu pawb.”

Ffynhonnell y llun, Eirian Evans

Pynciau cysylltiedig