'Pennod cyffrous iawn, iawn yn hanes Cymru' - Rhun ap Iorwerth

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n "eglur iawn" ei bod yn "amser am newid" meddai Rhun ap Iorwerth

  • Cyhoeddwyd

Wrth edrych ymlaen at y flwyddyn fawr o'i flaen, mae arweinydd Plaid Cymru'n hyderus.

"Rydan ni'n gwybod ein bod ni mewn sefyllfa gref i allu bod y llywodraeth amgen honno gobeithio daw yn llywodraeth naturiol i bobl maes o law," meddai Rhun ap Iorwerth ar drothwy cynhadledd ei blaid yn Llandudno ddydd Gwener.

Dydy'r hyder yma ddim yn newydd, ac i'r rheiny ohonon ni'n sy'n treulio'n dyddiau'n siarad gyda gwleidyddion a'u staff yn y Senedd, mae hi wedi bod yn amlwg ers tro bod yna gynnwrf yn swyddfeydd Plaid Cymru ym Mae Caerdydd.

Mae'n debyg taw arolwg barn, gafodd ei gyhoeddi ddechrau Rhagfyr ac a awgrymodd bod Plaid Cymru ar y blaen, oedd y sbardun ar gyfer hynny.

Mae angen cofio'r rhybuddion arferol wrth gwrs: dim ond un arolwg oedd hwn, a dim ond un pwynt oedd yn gwahanu Plaid, Llafur a Reform.

Ond yn rhengoedd Plaid Cymru roedd y canlyniadau'n brawf bod yna gyfle go iawn i ddisodli Llafur am y tro cyntaf ers dechrau datganoli yn 1999.

'Eluned Morgan neu Rhun ap Iorwerth ydy'r dewis syml'

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Rydan ni 26 blynedd i mewn i ddatganoli.

"Mi fydd hi'n 27 mlynedd [pan ddaw'r etholiad yn 2026], a 'da ni wedi cael un blaid yn arwain drwy'r cyfnod hwnnw.

"Dwi'n meddwl ei bod hi wedi dod yn eglur iawn i bobl ei bod hi'n amser am newid, bod rhaid i ni gael newid er mwyn rhoi y chwistrelliad o egni sydd wirioneddol ei angen i lywodraeth yng Nghymru.

"Ond un peth ydy derbyn bod angen newid.

"Yr her i fi ydy dangos bod ym Mhlaid Cymru, blaid y gall bobl ymddiried ynddi hi i ddelifro'r math o newid sydd ei angen arnom ni yn y meysydd allweddol i bobl: ar gostau byw ac iechyd a swyddi ac addysg ac adeiladu ein cenedl ni, ac ar hyn o bryd dwi'n teimlo bod ni ar y trywydd iawn i wneud hynny."

Wrth gwrs, bydd y Ceidwadwyr a Reform hefyd yn addo newid gyda'r pleidiau hynny'n gallu tynnu sylw at y modd mae Plaid Cymru wedi cydweithio'n gyson gyda Llafur dros y chwarter canrif ddiwethaf.

Ond yn ôl ap Iorwerth: "Does 'na 'mond un dewis realistig ar gyfer arwain llywodraeth nesa' Cymru - mae Llafur yn cario 'mlaen i arwain am bedair blynedd arall, neu mae Plaid Cymru yn cymryd yr awenau ac yn arwain llywodraeth.

"Eluned Morgan yn brif weinidog neu Rhun ap Iorwerth yn brif weinidog ydy'r dewis syml."

Richard Wyn jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr Athro Richard Wyn Jones bod hwn yn gyfnod "positif iawn" o safbwynt Plaid Cymru

Mae'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru'n cytuno bod hwn yn gyfnod "gobeithiol iawn" o safbwynt Plaid Cymru, yn dilyn ei chanlyniadau gorau erioed mewn etholiad cyffredinol i San Steffan ym mis Gorffennaf.

Dywedodd: "O ystyried ein bod ni gryn dipyn o amser cyn yr etholiad i Senedd Cymru baswn i'n disgwyl i Lafur syrthio rhywfaint o bosib cyn yr etholiad - bydd hi'n ganol tymor llywodraeth Starmer yn Llundain - ac mae'r gefnogaeth i Blaid Cymru yn tueddu i gynyddu o flaen etholiad datganoledig felly mae Plaid Cymru'n teimlo'n bositif iawn, iawn, iawn ynglŷn â'r dyfodol ar hyn o bryd."

Ond mae yna heriau i'r blaid hefyd, meddai, a rheiny'n deillio o'r newidiadau mawr sydd i ddod i Fae Caerdydd y flwyddyn nesaf gyda nifer yr Aelodau yn Senedd Cymru'n cynyddu o 60 i 96 a'r drefn bleidleisio'n newid hefyd.

Mae'r rhain yn newidiadau gafodd eu gwthio drwy'r Senedd yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

"Does 'na neb yn gwybod sut i ymladd etholiad mewn cyd-destun fel hyn," meddai.

'Gêm gwyddbwyll 3D'

Ar yr un pryd, mi fydd hi bron yn amhosib i unrhyw blaid ennill mwyafrif o dan y drefn newydd, ac mi allai hynny hefyd greu trafferthion i Blaid Cymru yn ystod yr ymgyrch etholiadol, meddai Richard Wyn Jones.

"Mae'r ffordd maen nhw'n ymagweddu tuag at Lafur yn broblemus oherwydd y posibiliad real iawn o orfod clymbleidio.

"Mae o'n gêm gwyddbwyll 3D a 'dach chi'n gorfod trio chwarae'r onglau i gyd.

"Mae o'n bwysig iawn i bob plaid i beidio cau gormod o ddrysau, i beidio torri pontydd, felly mae yna gydbwysedd ac mae o'n heriol."

Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud taw rhywbeth i'w drafod yn dilyn yr etholiad, pan mae mathemateg y Senedd newydd yn glir, ydy unrhyw drefniadau cydweithio posib.

Os ydy Plaid Cymru am ennill yr etholiad bydd angen iddi gipio seddi ym mhob rhan o Gymru.

Bydd y blaid yn gobeithio cipio un sedd ym mhob un o'r 16 o etholaethau newydd ar draws Cymru, a dwy neu dair mewn rhai ardaloedd.

Ym Mhorth yng Nghwm Rhondda yr wythnos diwethaf, roedd yna gyfle i sgwrsio ag ambell un mewn clwb sgwrsio i ddysgwyr - yn eu plith dau gyn-gynghorydd Plaid Cymru.

Ond tra bod un - John Cullwick - yn "edrych ymlaen" at etholiad y mae'n siŵr fydd yn "llwyddiannus i fy mhlaid i", mae'r llall yn llai positif.

David Rogers (chwith) a John Cullwick (dde)
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Rogers (chwith) a John Cullwick (dde) yn ddau o gyn-gynghorwyr Plaid Cymru

Yn ôl David Rogers mae yna "ddifaterwch yn bendant" yn yr ardal gyda phobl "yn gyffredinol" yn erbyn y newidiadau sydd i ddod ym Mae Caerdydd.

"Dwi'n siomedig iawn gyda'r penderfyniad i benodi 36 yn rhagor o aelodau - dwi ddim yn credu bod Cymru yn ddigon mawr i gyfiawnhau'r polisi o aelodau ychwanegol.

"A beth am y pris? Miliynau o bunnau allai fod wedi mynd at ysbytai ac addysg ac yn y blaen."

Ychwanegodd David fod yna "gryn dipyn o gefnogaeth" i Reform yn lleol.

"Fi'n credu bod pobl wedi cael digon o'r hen bleidiau, hyd yn oed Plaid Cymru a'r blaid Lafur erbyn hyn yn y cwm."

Debra ac Andrew Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Debra Hughes ar y stryd fawr does gan Lafur mo'r "clout" oedd ganddi yn yr ardal hon

Yn ôl Debra Hughes ar y stryd fawr does gan Lafur mo'r "clout" oedd ganddi yn yr ardal hon.

Ond yn hytrach na mynd at blaid wahanol, byddai'n well gan fwyafrif y bobl sydd wedi colli ffydd yn Llafur "beidio â phleidleisio o gwbl", meddai.

Yr her i Rhun ap Iorwerth rhwng nawr a'r etholiad ydy dwyn perswâd ar y bobl hynny i roi eu ffydd yn ei blaid ef.