Enwau newydd etholaethau'r Senedd yn denu ymateb 'gwrth-Gymraeg'

Enw Cymraeg yn unig fydd gan bob un o etholaethau newydd Senedd CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enw Cymraeg yn unig fydd gan bob un o etholaethau newydd Senedd Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau terfynol ar gyfer map etholaethau newydd Senedd Cymru wedi eu cyhoeddi - gyda phob un etholaeth yn cael enw uniaith Gymraeg.

Bydd nifer yr etholaethau sy'n cael eu cynrychioli yn gostwng i 16 erbyn yr etholiad nesaf yn 2026.

Yn ôl prif weithredwr y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau, mae'r cynlluniau wedi denu ymateb "gwrth-Gymraeg".

Dywedodd Shereen Williams fod ymateb rhai pobl i'r cynnig wedi bod yn "hynod siomedig".

Ym mis Rhagfyr, fe ddywedodd y comisiwn y byddai trwch yr etholaethau newydd ag enw Cymraeg yn unig - ac mai dim ond pedair o'r 16 sedd fydd ag enwau dwyieithog.

Ond mae'r cynlluniau terfynol, gafodd eu cyhoeddi fore Mawrth, yn nodi mai enwau Cymraeg fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer pob sedd.

Fel rhan o'r system newydd bydd cynnydd o 36 yn nifer y gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn 2026 - o 60 i 96.

Bydd chwe aelod yn cynrychioli pob etholaeth.

Mae'r comisiwn wedi defnyddio'r 32 etholaeth San Steffan fel sail i lunio 16 o uwch-etholaethau newydd.

Bydd system bleidleisio Cynrychiolaeth Gyfrannol yn eu hethol - gyda hynny'n rhoi canlyniadau sy'n fras gymesur â'r pleidleisiau.

Mae'r Comisiwn wedi gwneud dau newid i'r cynigion gafodd eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr, gyda Caerdydd Penarth a Caerdydd Ffynnon Taf yn disodli etholaethau De-ddwyrain Caerdydd Penarth, a Gogledd-orllewin Caerdydd.

Fel rhan o'r cynigion blaenorol roedd gan bedwar o etholaethau arfaethedig enwau dwyieithog.

Ond fe fydd Gŵyr Abertawe, Brycheiniog Tawe Nedd, Caerdydd Penarth a Caerdydd Ffynnon Taf nawr ag enwau Cymraeg yn unig.

Beth yw'r etholaethau newydd?

  • Bangor Conwy Môn

  • Clwyd

  • Fflint Wrecsam

  • Gwynedd Maldwyn

  • Ceredigion Penfro

  • Sir Gaerfyrddin

  • Gŵyr Abertawe

  • Brycheiniog Tawe Nedd

  • Afan Ogwr Rhondda

  • Pontypridd Cynon Merthyr

  • Blaenau Gwent Caerffili Rhymni

  • Sir Fynwy Torfaen

  • Casnewydd Islwyn

  • Caerdydd Penarth

  • Caerdydd Ffynnon Taf

  • Pen-y-bont Bro Morgannwg

Yn ôl Shereen Williams, prif weithredwr y comisiwn, roedd y cynnig i ddefnyddio enwau uniaith Gymraeg wedi denu beirniadaeth yn ystod yr ymgynghoriad diweddaraf.

Roedd nifer o'r sylwadau yn rhai "gwrth-Gymraeg", meddai, gan ychwanegu fod hynny yn "hynod siomedig".

Ychwanegodd fod y "ddadl dros barau ac enwau arfaethedig wedi bod yn gadarn, ond yn adeiladol iawn".

Dros 4,000 o ymatebion

Dywedodd y comisiwn eu bod wedi dewis enwau y mae nhw'n credu sydd yn "dderbyniol ac yn ddealladwy i bobl ledled Cymru".

Mewn datganiad dywedon nhw eu bod wedi derbyn "nifer o sylwadau" yn cyfeirio at enwau'r etholaethau.

"Er bod y Comisiwn yn agored i syniadau ac awgrymiadau ynghylch enwau etholaethau unigol, ni allai ystyried sylwadau a oedd yn cynnig cyfieithiadau ar gyfer pob etholaeth, nac yn cynnig confensiynau enwi cwbl wahanol."

Derbyniodd y Comisiwn dros 4,000 o ymatebion yn ystod y cyfnodau ymgynghori, gyda "llawer o awgrymiadau gwerthfawr gan y cyhoedd a rhanddeiliaid".

Bydd adolygiad pellach o'r etholaethau yn cael ei gynnal cyn etholiad y Senedd yn 2030.

Ymateb cymysg

Fore Mawrth, ymatebodd cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, gan ddweud fod nifer o'i etholwyr wedi'u "hanwybyddu".

"Mae Cymru yn ddwyieithog a dylai enwau etholaethau fod yn y ddwy iaith," meddai'r AS sy'n cynrychioli - ar hyn o bryd - etholaeth Canol De Cymru.

Ond dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Joseff Gnagbo: "Rydyn ni'n falch y bydd gan bob etholaeth ar gyfer etholiadau Senedd 2026 enw uniaith Gymraeg.

"Y Gymraeg yw priod iaith Cymru, ac mae rhoi enwau Cymraeg ar etholaethau ar draws Cymru yn ffordd o normaleiddio'r Gymraeg, iaith sy'n perthyn i holl ddinasyddion ein gwlad.

"Mae'n gosod cynsail pwysig ar gyfer enwau etholaethau yn y dyfodol ac ar gyfer defnyddio'r Gymraeg yn unig mewn cyd-destunau eraill hefyd."