Dyn yn gwadu torri rheolau rheithgor yn achos trywanu ysgol

Christopher Elias yn cyrraedd Llys Ynadon Abertawe ym mis Mai
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a wasanaethodd ar reithgor achos trywanu mewn ysgol - wnaeth ddymchwel yn ddiweddarach - wedi gwadu ymddwyn mewn ffordd waharddedig wrth wasanaethu ar y rheithgor.
Mae'r cyhuddiad mewn cysylltiad ag achos llys gwreiddiol merch a drywanodd ddau athro a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman.
Fe wnaeth yr achos hwnnw ddymchwel ac fe gafwyd achos llys arall yn gynharach eleni.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Christopher Elias, 45 o Waunceirch, Castell-nedd Port Talbot wedi methu â datgelu cysylltiad personol i berson oedd yn ymwneud â'r achos a'i fod yn gyn-ddisgybl yn yr ysgol.
Mae'n cael ei amau o ddefnyddio'r wybodaeth yma i geisio dylanwadu ar aelodau eraill o'r rheithgor.
Plediodd Mr Elias yn ddieuog i'r cyhuddiad mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd fore Iau.
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd30 Mehefin
- Cyhoeddwyd2 Mehefin
Cafodd merch yn ei harddegau ddedfryd 15 mlynedd ym mis Ebrill, am geisio llofruddio'r athrawon, Fiona Elias a Liz Hopkin, a disgybl nad oes modd ei enwi.
Fe gafon nhw eu trywanu gan y ferch, oedd yn 13 oed ar y pryd, ym mis Ebrill 2024.
Roedd yn rhaid dod â'r achos cyntaf i ben ym mis Hydref 2024 oherwydd yr hyn a ddisgrifiodd y barnwr fel "afreoleidd-dra mawr yn y rheithgor".
Mae disgwyl i'r achos yn erbyn Mr Elias gael ei gynnal mewn Llys y Goron yn Lloegr, ar ddyddiad sydd eto i'w bennu.
Cafodd Christopher Elias ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod tan 26 Medi.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.