Ysgol angen to newydd llai na degawd ers ei hadeiladu

Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgod
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorwyd Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgod lai na 10 mlynedd yn ôl

  • Cyhoeddwyd

Mae aelodau cabinet Cyngor Sir Penfro wedi cytuno bod rhaid gosod to newydd yn llawn ar un o ysgolion y sir oherwydd problemau strwythurol.

Mae Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgod wedi wynebu "heriau sylweddol" ers iddi agor lai na 10 mlynedd yn ôl, a hynny wedi nifer o adroddiadau o ddŵr yn dod i mewn i'r adeilad, ynghyd â phroblemau gyda'r toeau.

Yn ôl canfyddiadau astudiaeth ddichonoldeb a gafodd ei chomisiynu gan y Cabinet y llynedd, ailosod y to yn llwyr yw'r "unig ateb ymarferol" er mwyn cydymffurfio â dyletswydd statudol y cyngor i ddarparu "amgylchedd dysgu diogel ac effeithiol".

Mewn cyfarfod ddydd Llun, bu'r cabinet yn trafod canfyddiadau'r adroddiad, ynghyd â'u "hymrwymiad" i rannu gwersi â Llywodraeth Cymru.

Wedi ei hadeiladu yn 2016, mae Ysgol Gynradd yr Eglwys Yng Nghymru Dinbych-y-pysgod yn ysgol cyfrwng Saesneg 3-11 oed sydd â darpariaeth canolfan adnoddau dysgu ychwanegol (CAD).

Ym mis Gorffennaf, roedd gan yr ysgol 235 o ddisgyblion prif ffrwd a 12 o ddisgyblion CAD ar y gofrestr.

Ers i'r ysgol gael ei chwblhau mae nifer o adroddiadau wedi bod am ddŵr yn dod i mewn i'r adeilad.

Mae'r toeau gwastad hefyd yn fater ar wahân, ble mae lleithder wedi achosi dirywiad pellach i baneli inswleiddio strwythurol (SIPs) yr ysgol.

Cafodd Tîm Gwasanaethau Adeiladu Proffesiynol eu comisiynu i wneud arolygon ymchwilio a nododd yr angen am atgyweiriadau.

'Diogelwch yn flaenoriaeth'

Cafodd astudiaeth ddichonoldeb ei chomisiynu gan gabinet Cyngor Sir Penfro ym mis Tachwedd 2024, er mwyn gwerthuso ystod o opsiynau adfer to - oedd yn amrywio o ymyrraeth gyfyngedig i ailosod y to yn llawn.

Roedd canfyddiadau'r astudiaeth yn nodi y dylid diystyru'r holl opsiynau arall "oherwydd lefel risg cyffredinol", ac mai dim ond gosod to newydd yn llawn fyddai'n mynd i'r afael â'r methiannau strwythurol sylfaenol.

O ganlyniad, cafodd mesurau iechyd a diogelwch brys eu gweithredu gan y Cyngor, gan gynnwys gosod 510 o bolion a chau'r adain blynyddoedd cynnar.

Yn ôl y Cyngor, mae amserlen fonitro rheolaidd o'r sefyllfa wedi'i gweithredu pob hanner tymor ynghyd â monitro'r polion yn fisol.

Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgodFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dros 500 o bolion eu gosod i atgyfnerthu'r to yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb

Mewn cyfarfod i drafod y mater ddydd Llun, clywodd aelodau'r cabinet y byddai'n rhaid gwagio'r ysgol i gyd yn ystod y cyfnod adeiladu a bod opsiynau ar gyfer safle dros dro yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cynghorydd Guy Woodham, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, mai diogelwch a lles eu dysgwyr a'u staff yw'r flaenoriaeth.

"Rydyn ni am fwrw ymlaen a'r gwaith o ddatrys y problemau hyn cyn gynted â phosib, ond mae'n rhaid i ni wneud hynny un cam ar y tro," meddai.

Bydd penderfyniad y cabinet nawr yn cael ei adrodd i'r Bwrdd Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu a fydd wedyn yn cyflwyno hynny i'r cyngor llawn ym mis Rhagfyr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol o'r sefyllfa yn yr ysgol ac ry'n ni mewn cysylltiad â Chyngor Sir Benfro".

"Rydym yn cynnal cysylltiadau rheolaidd â phob awdurdod lleol ac nid ydym yn ymwybodol o unrhyw ysgolion eraill yn cael eu heffeithio ar hyn o bryd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.