Oedi agor ysgol Gymraeg o achos ymlusgiaid yn 'newyddion ofnadwy'

Ysgol Gymraeg Bro OgwrFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ysgol Gymraeg Bro Ogwr i fod i adael y safle presennol ym mis Medi eleni

  • Cyhoeddwyd

Bydd oedi o ddwy flynedd i adeiladu ysgol Gymraeg am fod ymlusgiaid (reptiles) ar y safle newydd.

Roedd Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr i fod i symud i leoliad newydd gerllaw ym mis Medi.

Ond mae'r cyngor wedi gohirio'r dyddiad agor i fis Medi 2027 am fod "presenoldeb ymlusgiaid ar y safle newydd wedi achosi oedi i gwblhau'r gwaith ecoleg".

Nid yw'r cyngor wedi datgelu pa greaduriaid gwaed oer penodol ydyn nhw hyd yma.

Ond mae'n debyg mai nadroedd defaid, nadroedd gwair, gwiberod, neu fadfallod yw'r anifeiliaid a fydd yn cael cartref newydd dros yr haf.

gwiber Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n hysbys bod pedwar rhywogaeth o ymlusgiaid yn byw yn sir Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys gwiberod

Dywedodd Altaf Hussain, AS y Ceidwadwyr yng ngorllewin de Cymru, bod yr oedi yn "newyddion ofnadwy i rieni ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n dymuno i'w plant ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg".

Dywedodd y gweinidog addysg Lynne Neagle bod yr oedi yn "anffodus" a'i bod wedi darparu £500,000 i alluogi ehangu dros dro ar y safle presennol.

O blith y chwe rhywogaeth frodorol o ymlusgiaid yn y DU, mae pedair yn bresennol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, dolen allanol. Y rhain yw:

  • neidr ddefaid

  • neidr y gwair

  • gwiber neu wiber Ewropeaidd

  • madfall neu fadfall fywhiliog.

Mae disgwyl i'r symud i'r safle mwy gostio tua £18.6m, gyda disgwyl 525 o leoedd ar gyfer plant rhwng pedair ac 11 oed a meithrinfa gyda 90 o leoedd.

Dywedodd Altaf Hussain yn y Senedd fod "angen mawr yn yr ardal leol" am y lleoedd ychwanegol.

Ymatebodd yr ysgrifennydd addysg Lynne Neagle fod Llywodraeth Cymru yn "gweithio gyda'r awdurdod lleol i liniaru effaith hynny ar bobl ifanc".

Dywedodd fod hyn yn cynnwys darparu cyllid o bron i £500,000 i alluogi ehangu Ysgol Gymraeg Bro Ogwr dros dro, gyda dau adeilad dros dro ar gael erbyn mis Medi 2025.

Lynne Neagle
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr ysgrifennydd addysg Lynne Neagle bod yr oedi "yn anffodus"

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: "Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar fwrw ymlaen â chynlluniau moderneiddio ar gyfer Ysgol Gymraeg Bro Ogwr newydd yn lle'r hen un, ond mae presenoldeb ymlusgiaid ar y safle newydd wedi achosi oedi i gwblhau'r gwaith ecoleg.

"Gyda hyn mewn golwg ac yn dilyn ymgynghori â chorff llywodraethol yr ysgol, cymeradwyodd ein cabinet ddyddiad agor newydd o fis Medi 2027 yn ddiweddar.

"Disgwylir i'r ymlusgiaid gael eu hadleoli dros gyfnod yr haf a bydd modd cynnal gwaith ymchwilio pellach i'r safle ar ôl cael gwared ar y prysgwydd a'r mieri sy'n weddill.

"Mae gwaith cynllunio a dylunio pensaernïol yn parhau i ddigwydd ac edrychwn ymlaen at ddarparu diweddariadau pellach yn y misoedd nesaf."

Yn y cyfamser, mae mwy o gynlluniau ar y gweill i ddatblygu adeiladau newydd ar gyfer ysgolion a darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.

Dywedodd Ms Neagle wrth aelodau'r Senedd fod cyngor sir Pen-y-bont ar Ogwr yn gobeithio datblygu adeilad newydd i gymryd lle ysgol cyfrwng Cymraeg bresennol Ysgol Y Ferch o'r Sgêr erbyn mis Medi 2026.

Ychwanegodd bod ysgol a darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg Porthcawl hefyd yn gobeithio bod yn barod erbyn hynny.