Oedi cyn cyfnod clo Covid Nadolig 2020 'yn anfaddeuol'

Arwydd covid-19Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Roedd yr oedi cyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfnod clo dros y Nadolig yn "anfaddeuol", yn ôl cadeirydd Ymchwiliad Covid-19 y DU.

Dywedodd y Farwnes Hallet fod gweinidogion Cymru wedi methu â chymryd "camau pendant" yn erbyn amrywiad "cwbl ragweladwy" o Covid a arweiniodd at y cyfnod clo.

Fe wnaeth gweinidogion lacio mesurau "yn gyflymach nag yr oedd gwyddonwyr yn ei gynghori" cyn cyflwyno'r cyfnod clo, meddai.

Cafodd cyfnod clo ei gyflwyno yn rhannau o Loegr ar yr un pryd â Chymru hefyd.

Ar Dros Frecwast bore 'ma dywedodd Des Clifford, Prif Ysgrifennydd Preifat Prif Weinidog Cymru yn ystod y pandemig, bod cydweithio "ddim mor hawdd â dylse fo fod" fel sy'n cael ei adrodd yn yr Ymchwiliad Covid.

"Roedd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa gwell pan eu bod yn gwneud penderfyniadau ar ben eu hunain," ychwanegodd.

Barwnes Hallett
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Farwnes Hallett, bod Cymru, fel gweddill y DU, erbyn diwedd 2020, wedi "methu â chymryd camau cadarn yn ymateb i'r amrywiant Alpha a oedd yn gwbl ragweladwy."

Fe wnaeth y Farwnes Hallet y sylwadau mewn datganiad fideo wedi cyhoeddi ail adroddiad yr ymchwiliad a oedd yn ystyried ymateb pedair llywodraeth y DU i'r pandemig.

Dywedodd yr adroddiad fod Llywodraeth Cymru'n "rhy ddibynnol" ar arweiniad Llywodraeth y DU yn ystod dyddiau cynnar y pandemig, ac o ganlyniad, roedd yr ymateb yn rhy araf ac annigonol.

Ychwanegodd Des Clifford y prif ysgrifennydd preifat i brif weinidog Cymru yn ystod y pandemig bod y llywodraeth yn "trio cydweithio yn agos iawn" ar y dechrau ond i hynny "dorri lawr ym mis Mai pan wnaethon ni gyrraedd y cyfnod datgloi".

"Tuedd Llywodraeth Cymru oedd i fod mwy cautious."

Wrth ymateb i wahanol gyflymder y llywodraethau i wneud penderfyniadau, dywedodd Des Clifford ei fod yn "ddigon teg dweud hynny".

Ond roedd hefyd am ychwanegu bod "elfen o gefnogaeth" yn yr adroddiad i'r ffordd y gwnaeth Llywodraeth Cymru ddelio gyda'r argyfwng o dan arweinyddiaeth Mark Drakeford.

arwydd cadw pellterFfynhonnell y llun, Getty Images

Croesawodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, yr ymchwiliad gan ddweud bod y llywodraeth "wedi ymrwymo i ddysgu gwersi o'r pandemig" a byddai'n gweithio gyda llywodraethau eraill y DU yn ystod y misoedd nesaf.

"Mae'n bwysig ein bod yn cofio colled a dioddefaint enfawr cymaint o bobl oherwydd Covid-19. Rhaid i'n meddyliau fod gyda nhw yn gyntaf ac yn bennaf", ychwanegodd hi.

Fe wnaeth y cyn-brif weinidog, Mark Drakeford, amddiffyn ymateb y llywodraeth i'r pandemig, gan ddweud eu bod wedi "gweithredu yn y ffordd orau y gallem".

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford oedd Prif Weinidog Cymru yn ystod y pandemig Covid-19

Dywedodd y Farwnes Hallet yn y datganiad fideo: "O fis Awst i fis Rhagfyr 2020, Cymru oedd â'r gyfradd marwolaethau oedran safonedig uchaf o'r pedair gwlad.

"Mae'n debygol mai cyfuniad o gyfyngiadau lleol aflwyddiannus, cyfnod atal byr (firebreak lockdown) a gafodd ei osod yn rhy hwyr - er gwaethaf twf esbonyddol y feirws - a'r penderfyniad i lacio mesurau yn gyflymach na beth oedd y cyngor gan wyddonwyr oedd yn gyfrifol am hyn."

Erbyn diwedd 2020, dywedodd bod Cymru, fel gweddill y DU, wedi "methu â chymryd camau cadarn yn ymateb i'r amrywiant Alpha a oedd yn gwbl ragweladwy".

"Yn hytrach, fe barhawyd gyda'r cynlluniau i ymlacio mesurau dros y Nadolig, tra bod achosion yn cynyddu'n gyflym, ond yna, newidwyd y cwrs ar 19 Rhagfyr, pan ddaeth lefelau heintiau yn argyfyngus," dywedodd.

Ychwanegodd Baroness Hallett fod "camgymeriadau" Chwefror a Mawrth 2020 wedi cael eu hailadrodd a bod "dychwelyd i gyfnod clo eto wedi dod yn anochel".

"Roedd hynny'n anfaddeuol," ychwanegodd.

Syr Chris Whitty, Boris Johnson a Syr Patrick VallanceFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Syr Chris Whitty, Boris Johnson a Syr Patrick Vallance yn wynebau cyfarwydd yng nghynadleddau dyddiol Downing Street

Yn wreiddiol roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu llacio'r rheolau rhwng 23 a 27 Rhagfyr 2020 i ganiatáu i bobl ddathlu gyda'u hanwyliaid ond cafodd y rhain eu dileu ar 19 Rhagfyr 2020 gyda'r rheolau yn cael eu llacio ar gyfer diwrnod Nadolig yn unig.

Wrth gyhoeddi'r mesurau, a oedd yn golygu bod yn rhaid i bobl aros adref a mynd allan am resymau hanfodol yn unig, dywedodd Mr Drakeford fod cannoedd o bobl wedi dal amrywiad newydd, "mwy ffyrnig" o'r feirws yng Nghymru.

Roedd mesurau tebyg hefyd wedi cael eu cyflwyno gan Brif Weinidog y DU ar y pryd, Boris Johnson, mewn rhannau o Loegr.