Pwllheli: Gwaith adeiladu 'annioddefol' wedi 'difrodi tai'

Pam a Quinton Tiller a Gwyneth Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pam (chwith) a Quinton Tiller (canol) a Gwyneth Williams yn dweud fod gwaith adeiladu wedi achosi difrod i'w tai

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl sy'n byw yn nhref Pwllheli, Gwynedd yn honni fod gwaith adeiladu "annioddefol" i godi fflatiau gerllaw wedi achosi difrod i'w tai.

Yn Rhagfyr 2023 fe gafodd datblygiad o 28 fflat i bobl dros 55 oed ei agor ar safle Canolfan Frondeg.

Ond yn ôl pobl sy'n byw'n agos, mae'r gwaith adeiladu, dros gyfnod o dair blynedd, wedi achosi difrod gan gynnwys craciau yn eu heiddo.

Maen nhw'n dweud eu bod wedi methu cael atebion ar ôl codi'r pryderon gyda'r datblygwyr.

Mewn ymateb dywedodd cwmni Adra, sydd y tu ôl i'r datblygiad, eu bod yn "falch o gydweithio gyda chymunedau" a bod "croeso iddyn nhw gysylltu i drafod y mater".

Craciau yn y walFfynhonnell y llun, Gwyneth Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae trigolion Ffordd yr Ala Uchaf yn dweud fod y cerbydau trwm wedi achosi difrod i'w tai

Mae Quinton Tiller, 82, wedi byw ar Ffordd yr Ala Uchaf ers dros 50 mlynedd.

Dywedodd fod y gwaith adeiladu dros gyfnod o dair blynedd wedi bod yn "annioddefol".

"Mi oedd 'na lot fawr o olwg, a llanast ofnadwy am gyfnod o rhyw dair blynedd erbyn y diwedd," meddai.

"Roedd y tŷ yn ysgwyd hefo'r tractors mawr 'ma a mi gafon ni ambell grac - doedd hi ddim yn braf yma o gwbl."

Y gwaith adeiladuFfynhonnell y llun, Quinton Tiller
Disgrifiad o’r llun,

Dywed cymdogion fod y gwaith adeiladu wedi ei wneud yn agos i'w cartrefi

Ychwanegodd: "Yn y bedroom cefn mae 'na grac ar ei hyd hi, a'r silff ffenast mi oedd 'na graciau ynddi, ond 'da ni wedi gorfod trwsio bob dim ein hunain.

"Roedd hi yn ddigalon yma, mae'n lôn rhy gul i fod yn onest.

"Mae hi 'di bod yn stryd eithriadol o ddistaw tan y busnes yma."

Roedd Adra wedi penodi RL Davies fel y prif gontractwr ar gyfer datblygu safle Frondeg.

Ond roedd oedi i'r gwaith wedi i'r cwmni fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, a bu'n rhaid i gwmni arall gwblhau'r gwaith.

Craciau i silff ffenestFfynhonnell y llun, Gwyneth Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r trigolion yn dweud eu bod wedi gorfod talu allan o bocedi eu hunain i drwsio'r difrod

Ychwanegodd ei gymydog, Gwyneth Williams, nad oedd problem ganddi gyda'r fflatiau eu hunain, ond fod y gwaith i'w hadeiladu wedi cael effaith ar eu bywydau.

"Mae'r silff ffenast o flaen y room ffrynt wedi cracio yn ei hanner - oedd rhaid i mi ddefnyddio gliw i gau o fyny a wedyn rhywun i drwsio fo," meddai.

Er iddi ddweud ei bod wedi cysylltu gyda'r datblygwyr ar sawl achlysur, dywedodd nad yw wedi cael ateb boddhaol.

"Mi fyswn i'n licio iddyn nhw ymddiheuro am beidio ateb e-byst dwi wedi gyrru ers tair blynedd yn rheolaidd.

"'Swn i 'di licio iddyn nhw drwsio'r pethau ar y pryd ond 'da ni wedi gorfod gwneud nhw ein hunain... mi ddylan nhw dalu 'chydig o iawndal dwi'n meddwl."

Mabon ap Gwynfor AS ar Ffordd yr Ala Uchaf
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS fod angen asesiad i'r difrod

Yn ôl yr Aelod o'r Senedd lleol, mae angen ar y fflatiau ond mae'n pryderu am yr effaith mae'r gwaith adeiladu wedi ei gael.

"Nid problem gyda'r ganolfan ydy o na'r trigolion, problem ydy o fod dim asesiad wedi ei wneud a oedd y ffordd yma yn gallu cynnal y pwysau yna a nad oedd niwed yn digwydd o ganlyniad.

"Mae asesiad angen ei wneud o'r difrod - erbyn hyn wrth gwrs mae nifer o'r bobl wedi buddsoddi mewn trwsio'r difrod hwnnw.

"Ond mae angen iddyn nhw ddeall fod hyn wedi digwydd ac i siarad hefo'i gilydd i weld beth ydy'r canlyniad."

'Croeso i gysylltu â ni'

Mewn ymateb, dywedodd Adra eu bod yn ddiolchgar i'r gymuned am eu hamynedd yn ystod y gwaith.

"Mae'r gwaith o ddatblygu hen safle Ysgol Frondeg bellach wedi ei gwblhau ers dros flwyddyn, a braf yw gweld fod y preswylwyr wedi ymgartrefu yno," meddai llefarydd.

Datbygiad Frondeg
Disgrifiad o’r llun,

Mae datblygiad Frondeg bellach wedi ei godi ac yn darparu 28 o fflatiau pwrpasol

"Rydym yn ymwybodol fod nifer fach o drigolion lleol wedi codi pryderon yn ystod y gwaith adeiladu ac os oes dal pryderon, rydym yn groesau iddyn nhw gysylltu â ni yn uniongyrchol i drafod y mater.

"Rydym yn ddiolchgar i'r gymuned gyfagos am eu hamynedd yn ystod y cyfnod adeiladu.

"Wrth ddatblygu cynlluniau adeiladu, rydym yn ymgysylltu â thrigolion lleol, cynghorwyr lleol ac aelodau seneddol, er mwyn sicrhau nad yw'r gwaith yn amharu neu'n creu anghyfleuster diangen ar y gymuned.

"Mae Adra yn falch o gydweithio gyda chymunedau ledled gogledd Cymru i ddatblygu cartrefi fforddiadwy i gyfarch anghenion lleol."

Pynciau cysylltiedig