Golau gwyrdd i naw o dai fforddiadwy 'delfrydol' ym Morfa Nefyn
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i godi naw tŷ newydd ym Mhen Llŷn - fel rhan o'r ymdrech i fynd i'r afael â diffyg tai fforddiadwy yn yr ardal - wedi ei gymeradwyo.
Fe wnaeth Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd roi caniatâd i fwrw 'mlaen â'r cynllun ym Maes Twnti, Morfa Nefyn mewn cyfarfod ddydd Llun.
Byddai'r datblygiad yn rhan o gynllun 'Tŷ Gwynedd' y cyngor - sydd â'r nod o godi hyd at 90 o dai fforddiadwy i bobl leol eu prynu neu rentu drwy'r sir.
Dywedodd y cynghorydd lleol, Gareth Tudor Jones y byddai'r cynllun "yn golygu bod mwy o bobl leol yn cael aros yn eu milltir sgwâr, yn hytrach na gorfod symud i ffwrdd".
- Cyhoeddwyd23 Awst 2024
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024
Bydd y safle ym Morfa Nefyn yn cynnwys pedwar cartref dwy ystafell wely a phum cartref tair ystafell wely.
Mae rhai o'r tai hefyd wedi'u cynllunio i fod yn hawdd i'w haddasu i allu cynnwys mwy o ystafelloedd.
Mae'r datblygiad o dan gynllun Tŷ Gwynedd yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai ehangach gan y Cyngor "i fynd i'r afael â'r prinder tai yn y sir" a "sicrhau bod trigolion Gwynedd yn cael mynediad at dai fforddiadwy o safon yn eu cymunedau eu hunain".
Unwaith y bydd y cartrefi ym Morfa Nefyn wedi eu cwblhau, bydd yn bosib i bobl leol ymgeisio amdanyn nhw drwy Tai Teg.
'Cam ymlaen'
Ychwanegodd Mr Tudor Jones, Aelod Lleol ward Morfa Nefyn a Thudweiliog ac Aelod Cyngor Tref Nefyn, fod y lleoliad yn "ddelfrydol i deuluoedd ifanc".
"Mae angen dybryd am fwy o dai fforddiadwy yn Llŷn, a dw i'n croesawu'r newyddion bod Cyngor Gwynedd wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad yma," meddai.
"Dyma leoliad delfrydol i adeiladu cartrefi newydd – yn enwedig i deuluoedd ifanc ac unigolion sydd wedi cael eu prisio allan o'r farchnad dai.
"Mae'r safle mewn lleoliad hynod o gyfleus dros ffordd i faes chwarae penigamp ac o fewn pellter cerdded i Ysgol Morfa Nefyn.
"Yn bwysicaf oll, bydd y prosiect yma'n golygu bod mwy o bobl leol yn cael aros yn eu milltir sgwâr, yn hytrach na gorfod symud i ffwrdd i ddod o hyd i gartref fforddiadwy.
"Mae'n gam ymlaen i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ein cymunedau gwledig Cymreig."
Dywedodd yr aelod cabinet dros dai ac eiddo ar Gyngor Gwynedd, Paul Rowlinson: "Dwi'n eithriadol o falch gweld bod y prosiect yma'n symud yn ei flaen a'n bod gam yn nes at weld cartrefi newydd, safonol, fforddiadwy ar y safle yma.
"Mae dros 80% o drigolion Morfa Nefyn wedi eu prisio allan o'r farchnad dai — cyfran sylweddol sy'n methu prynu cartref yn eu cymuned eu hunain. Mae hyn yn anghyfiawn ac yn amlygu'r angen enfawr am gartrefi fforddiadwy yn yr ardal.
"Un o egwyddorion allweddol cynllun Tŷ Gwynedd ydi ein bod yn adeiladu cartrefi gydag anghenion darpar drigolion yn ganolog iddynt.
"Dwi'n edrych ymlaen at weld y safle'n datblygu, a'r effaith gadarnhaol a ddaw yn sgil hyn ar y gymuned ehangach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2024