30 mlynedd o wasanaeth i glybiau ieuenctid Dyffryn Peris

Donna ar ei noson olaf yng Nghlwb Ieuenctid LlanrugFfynhonnell y llun, Clwb Ieuenctid Llanrug
Disgrifiad o’r llun,

Donna ar ei noson olaf yng Nghlwb Ieuenctid Llanrug

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl 30 mlynedd o wasanaeth yn rhedeg clybiau ieuenctid yn Llanberis a Llanrug mae Donna Marie Taylor wedi rhoi'r gorau iddi.

Pan ddaeth Elwyn Jones, rheolwr gwasanaeth ieuenctid i mewn i garej Beran ger Deiniolen lle roedd Donna'n gweithio'n ddynes ifanc 18 oed gan ddweud wrthi y byddai'n wych yn gweithio gyda phobl ifanc, ychydig a wyddai y byddai'n arwain clybiau ieuenctid am y 30 mlynedd nesaf.

Yn ôl Donna, mae "creu ardal saff a gweld y bobl ifanc yn datblygu, cael hwyl a chreu cyfleoedd iddyn nhw hefyd" wedi bod yn flaenoriaeth iddi.

O goginio i gelf, o chwarae pŵl i dripiau Alton Towers, mae cenedlaethau o bobl ifanc wedi elwa dan arweiniad Donna dros y blynyddoedd.

Elwa o glybiau ieuenctid

O Landdeiniolen yn wreiddiol a bellach yn byw yn Llanrug, mae wedi bod "yn fraint" i Donna gynnal clybiau ieuenctid yn ei hardal hi, Dyffryn Peris, a hynny fel un a elwodd o fynychu clwb ieuenctid pan oedd hithau'n ifanc.

"O'n i'n mynd i youth club Deiniolen, o'n i wrth fy modd yna. Dic P.E, athro addysg gorfforol yn Ysgol Brynrefail oedd yna adag yna am flynyddoedd maith.

"O'n i'n joio'r ochr gymdeithasu a chymryd rhan a chreu perthnasa' efo pobl o bob oedran achos dydi o ddim jest dy flwyddyn ysgol di – mae yna flynyddoedd erill yna – pobl fasa chdi ddim yn cymysgu efo fel arfar – bo' chdi'n cael y cyfle i gymysygu efo nhw hefyd."

Ers ei dyddiau hithau yng Nghlwb Ieuenctid Deiniolen, daeth hi'n giamstar ar gêm o pŵl ac mae wedi bod yn herio pobl ifanc i chwarae yn ei herbyn dros y tri degawd diwethaf.

"O'n i wrth fy modd efo pŵl a dwi wedi bod efo rhyw fath o sialens dros y blynyddoedd – triwch ennill fi 'lly," chwarddai Donna.

Donna yn Alton Towers gyda Clwb Ieuenctid Deiniolen yn 1992Ffynhonnell y llun, Donna Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Donna yn Alton Towers gyda Chlwb Ieuenctid Deiniolen yn 1992

Gweithio gyda phobl ifanc

Rhoi'r gorau i'w swydd rhan amser fel gweithiwr ieuenctid i Glwb Ieuenctid Llanrug mae Donna – mae hi'n parhau â'i swydd arall yn cefnogi pobl ifanc 16-25 oed i Gyngor Gwynedd.

Mae Donna wedi gweithio gyda phobl ifanc mewn amryw o swyddi eraill dros y blynyddoedd gan gynnwys mewn ysgolion a gydag elusen GISDA, elusen sy'n darparu cefnogaeth i bobl ifanc bregus yng Ngwynedd.

Pa rinweddau sydd eu hangen i weithio gyda phobl ifanc?

"'Swn i'n licio meddwl bo' fi'n approachable, bod pobl ifanc yn gallu ymddiried yndda fi a bo' fi'n gyfeillgar," meddai.

"Y gwrando yna, bod yn amyneddgar, bod yn onast a dim trio bod yn berson dwyt ti ddim – bod yn wir i chdi dy hun achos mae pobl ifanc yn gallu gweld os ti'n rhoi act ymlaen."

Cyflwyno siec i'r heddlu ar ôl i Glwb Ieuenctid Llanrug godi arianFfynhonnell y llun, Donna Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Cyflwyno siec i'r heddlu ar ôl i Glwb Ieuenctid Llanrug godi arian

Ac wrth geisio cael pobl ifanc i siarad am eu teimladau, dywed Donna bod rhannu profiadau yn gallu bod o fudd:

"Mae angen siarad efo nhw heb fynd mewn i ormod o fanylder am dy fywyd personol dy hun ond mi fedrwch chi rannu eich profiadau eich hun i ddechra sgwrs... 'pam o'n i oed chdi 'nath hyn ddigwydd i fi...' Jest esiampl ydi hwnna o fod yn agorad mewn ffordd 'de, heb fynd i mewn i bethau ormod."

Ar ôl dechrau fel arweinydd i glwb ieuenctid Llanberis am bum mlynedd, aeth ymlaen i redeg clwb ieuenctid Llanrug lle mae hi a thri gweithiwr ieuenctid arall wedi bod yn cynnal clwb i tua 60 o bobl ifanc bob nos Lun.

Gweledigaeth Donna ydy y dylai pobl ifanc fod yn rhan o ddewis gweithgareddau rhaglen clwb ieuenctid:

"Fel arfer fi oedd yn creu y rhaglen efo pobl ifanc a dwi'n meddwl fod hynna yn bwysig fod pobl ifanc yn cael cyfle i ddewis hefyd be' oedd ar y rhaglen – achos rhaglen nhw oedd o mewn ffordd – felly efo'n gilydd oeddan ni yn 'neud rhaglen bob cychwyn tymor.

"Mae coginio wastad yn boblogaidd, tripiau hefyd – Alton Towers ac ice skatio a chystadlaethau yn boblogaidd iawn yn enwedig os oes yna wobr – a'r gyfrinach i gael pobl i gystadlu ydy peidio datgelu be ydy'r wobr! Rydan ni wedi bod yn cael pobl draw hefyd i gynnal nosweithiau smŵddis neu hyd yn oed arddangos adar."

Clwb Ieuenctid Llanrug yng Nglan LlynFfynhonnell y llun, Donna Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Clwb Ieuenctid Llanrug yng ngwersyll yr Urdd Glan-llyn

'Peidiwch â bod yn ddafad'

Yn adeilad yr Institute yn Llanrug lle cynhelir y clwb nid bwrdd pŵl, bwrdd dartiau ac Xbox yn unig sydd yma fel darpariaeth ond hefyd ystafell gelf ac ystafell dawel.

Yn ôl Donna, mae'r oes yn un heriol i bobl ifanc ar hyn o bryd ac mae'r clwb hefyd yn ofod saff i gynnal trafodaethau.

"'Dan i'n trio peidio 'neud o fel dosbarth achos mae o'n bwysig iawn bo' ni ddim yn dod drosodd fel ysgol – maen nhw'n cael hynny yn yr ysgolion felly fyddwn ni jest yn siarad efo nhw am bethau sy'n effeithio pobl ifanc – pethau fel cyffuriau a ffonau symudol."

Mae sawl person ifanc yn sefyll yng nghof Donna ac ymysg rheiny mae'r bobl ifanc fwyaf heriol.

"Mae rhai ohonyn nhw'n sefyll allan fwy na'r lleill – y rhai challenging hefyd chwarae teg – wnawn nhw byth basio pan ti'n gweld nhw.

"Oedd rhaid rhoi amser ychwanegol iddyn nhw ac mae'n lyfli gweld nhw rŵan wedi datblygu a wedi llwyddo mewn ffyrdd fasat ti ddim yn coelio.

Donna Taylor a phobl ifancFfynhonnell y llun, Donna Taylor

"'Dan ni wedi bod yn lwcus iawn yn Llanberis a Llanrug – mae gynnon ni blant ofnadwy o gwrtais o gwmpas y lle felly dwi'n teimlo'n lwcus iawn bo' ni di cael y cyfla yna i gefnogi plant a phobl ifanc yr ardal."

Â'i noson olaf gyda Chlwb Ieuenctid Llanrug eisoes wedi bod, cafodd Donna ei chyffwrdd gan ymateb y bobl ifanc.

"Mae pawb wedi bod yn annwyl iawn ac yn gofyn os wna i ddal dod i'w gweld nhw, a hyn a'r llall," meddai.

Beth yw neges Donna i bobl ifanc heddiw?

"Peidiwch byth â newid a pheidiwch â bod yn ddafad. Mae o'n bwysig bo' nhw hefo meddwl eu hunain yn hytrach na dilyn y criw yna sydd ddim ella am 'neud penderfyniadau positif. Mae'n cymryd person cryf iawn i fod yn chi eich hun.

"Ond y negas fwyaf ydy i gael hwyl, does 'na ddim pwynt cymryd bywyd rhy ddifrifol. Mae chwerthin yn bwysig."

Cerdyn diolch i Donna gan rhai o'r aelodauFfynhonnell y llun, Donna Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn diolch i Donna gan rhai o'r aelodau

Pynciau cysylltiedig