Agor porthladd Caergybi ond rhybudd nad yw cyfnod anodd ar ben
- Cyhoeddwyd
Wrth i borthladd prysuraf Cymru groesawu'r fferis cyntaf ers gorfod cau dros fis yn ôl, mae galwadau cynyddol am gefnogaeth i fusnesau sydd wedi'u heffeithio.
Ddydd Iau bydd Porthladd Caergybi yn darparu wyth gwasanaeth yn y ddau gyfeiriad dros Fôr Iwerddon, ond yn defnyddio un lanfa yn unig.
Does yr un fferi wedi gallu defnyddio'r porthladd ers dioddef difrod sylweddol i'w seilwaith yn ystod Storm Darragh ar 7 Rhagfyr.
Ond er yn croesawu'r agoriad, mae rhai busnesau yn dweud eu bod wedi eu taro'n galed ac nad oes disgwyl adferiad llawn tan fydd y porthladd yn gallu ailagor yn ei gyfanrwydd.
Dywed Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried y dystiolaeth am yr effaith economaidd cyn cymryd y camau nesaf.
Gwesty wedi colli 'bron £15,000'
Yn ôl perchennog un gwesty yng Nghaergybi, maen nhw wedi colli allan ar bron i £15,000 wrth i bobl orfod canslo ystafelloedd.
Dywedodd Claudia Howard, sy'n berchen ar Westy'r Boathouse ger Traeth Newry, bod yr effaith yn bellgyrrhaeddol.
"'Da ni wedi cael 147 o archebion wedi'u canslo, os ydych chi'n cymryd fod o'n £100 y noson mae hynny'n £14,700.
"Ar ben hynny mae ganddoch chi faint maen nhw'n wario yn y bar, brecwast neu os ydyn nhw wedi cael pryd nos, felly mewn gwirionedd rydyn ni wedi colli llawer mwy na hynny.
"Mae ganddon ni hefyd dripiau bysus ac maen nhw'n mynd draw i Iwerddon ac wedi gorfod canslo hefyd, felly 'da ni wedi cael ergyd mawr gan gynnwys Storm Darragh ei hun oherwydd fe gafodd yr adeilad ddifrod hefyd."
Mae hi'n croesawu gweld yn fferis yn dychwelyd, ond yn dweud bod yr effaith wedi ei deimlo gan lawer.
"Er enghraifft mae ein cwmni golchi dillad wedi gweld colled os mae 'na 147 o ystafelloedd heb fod angen dillad gwely.
"'Da ni wedi gorfod torri oriau ein staff hefyd gan nad oedd ganddon ni nifer yr ymwelwyr, felly mae hynny'n effeithio arnyn nhw hefyd.
"Os rydach chi'n un am boeni, fel fi, yna mae o'n peri pryder ond dwi'n gwybod hefyd ein bod ni'n wydn iawn."
'Wedi ei chael hi ddwywaith'
Ond mae busnesau tu hwnt i Gaergybi yn dweud eu bod ar eu colled.
Yn ôl Adrian Parry o westy a bwyty Lastra yn Amlwch, mae'r porthladd yn cyfrannu'n helaeth at economi'r rhanbarth, gan ychwanegu bod tua 20 o gwsmeriaid wedi canslo archebion.
"Y diwrnod wnaeth o ddigwydd gafon ni bobl yn dechrau canslo, a'r broblem hefyd os oeddan nhw'n mynd i Iwerddon oeddan ni'n cael nhw ar y ffordd yn ôl hefyd.
"Felly 'da ni wedi ei chael hi ddwy waith o ran colledion."
Ychwanegodd ei fod yn awyddus i weld y ddwy lanfa yn agor cyn gynted â phosib.
"Mae rhyw fath o gymorth yn bwysig i bawb, mae o wedi digwydd a mae busnesau wedi cael colledion, a fyswn yn licio gweld nhw yn helpu busnesau yn lleol."
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2024
Diffyg llongau yn 'swreal'
Gydag amserlen dros dro wedi ei sefydlu tan ddiwedd Chwefror, bydd cwmniau Stena ac Irish Ferries yn rhannu'r unig lanfa fydd ar gael ym mhorthladd Caergybi.
Does dim dyddiad wedi ei bennu ar gyfer ailagor yr ail lanfa – yr un a gafodd ei ddifrodi fwyaf - gan olygu am y tro na fydd modd llwytho a dadlwytho dwy long ar yr un pryd.
Ond mae cau'r porthladd yn gyfan gwbl wedi cael effaith sylweddol ar y dref ei hun.
Yn ogystal â llai o ymwelwyr, mae rhai o staff y porthladd wedi symud dros dro i rannau eraill o'r wlad wrth i'r fferis gael eu dargyfeirio o Gaergybi.
Stena yw cyflogwr preifat mwyaf yr ynys, a dywedodd arweinydd y cyngor sir fod rhai wedi eu had-leoli i weithio yn Sir Benfro a Glannau Merswy er mwyn helpu yno.
"Dydi'r staff yna ddim wedi bod o gwmpas y dref i fod yn gwario yn y siopau", meddai'r Cynghorydd Gary Pritchard.
"Mae'r effaith ariannol ar y dref wedi bod yn anferthol, mae busnesau wedi bod yn dangos i ni lluniau o'r stryd am 2 o'r gloch y p'nawn a hwnnw'n hollol wag.
"Mae peidio gweld llong yn dod fewn ac allan neu peidio gweld traffig ar y pontydd... mae'n anorfod bod nhw'n mynd i weld y gwahaniaeth.
"Mae hynny'n gwneud y dref yn le od iawn, [y porthladd] ydy'r rheswm pam fod Caergybi yma, a mae peidio gweld llongau yn dod fewn ac allan wedi bod yn swreal."
Wedi cyfarfod gyda rhai o fusnesau'r dref er mwyn casglu tystiolaeth o'r effaith ariannol ar y dref, ychwanegodd ei fod wedi taro "ystod eang" o ddiwydiannau.
"Da ni'n gwybod bod Llywodraeth Iwerddon yn ystyried, os dydyn nhw heb wneud yn barod, rhyw fath o gymorth i fusnesau lorïau.
"Da ni'n casglu tystiolaeth er mwyn cyflwyno hwnnw i'r llywodraeth a dweud 'dyma faint o effaith mae cau'r porthladd wedi ei gael, plîs allwn gael rhyw fath o gymorth ariannol i'r busnesau rheiny sydd wedi ei chael hi'n anodd tu hwnt'."
'Fydd bob dim ddim yn ôl i'r arfer'
Tra'n croesawu'r ffaith y bydd fferis yn dychwelyd i'r porthladd ddydd Iau, pwysleisio mai agoriad rhannol yn unig yw hyn mae Aelod Seneddol yr ynys.
Dywedodd Llinos Medi fod busnesau angen cymorth ariannol er mwyn goroesi, ac nad yw'r cyfnod anodd ar ben.
"Dydi agor yn rhannol ddim yn golygu y bydd nifer y bobl sydd ar y stryd yma a'r bobl sydd angen gwestai ac yn y blaen... mae'n bwysig i bobl gofio fydd bob dim ddim yn ôl i'r arfer.
"Mae angen i ni wneud yn siwr fod unrhyw gynllun cefnogaeth ar gael tan fod y porthladd yn ailagor yn llawn."
Yn ddiweddar fe sefydlwyd tasglu er mwyn sicrhau dyfodol Porthladd Caergybi.
Dywedodd Ken Skates, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, y byddai'r grŵp yn cydweithio â Gweinidogion Trafnidiaeth Iwerddon, llywodraeth y DU a rhanddeiliaid allweddol eraill "er mwyn sicrhau bod y porthladd yn bodloni anghenion y ddwy wlad ar gyfer y dyfodol".
Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Iwerddon, Eamon Ryan, fod lle i ddiolch i'r rheiny ar "ddwy ochr i Fôr Iwerddon am eu hymrwymiad i adfer y cysylltiad hanfodol hwn rhwng ein hynysoedd".
Wrth i Gyngor Môn gasglu tystiolaeth am effaith y cau ar fusnesau as draws yr ynys, ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried y dystiolaeth wrth ystyried y camau nesaf.
Ond gydag ond un lanfa ar agor, y cam nesa' fydd sicrhau bod gwytnwch y cysylltiad rhwng Caergybi a Dulyn yn cael ei adfer cyn gynted â phosib.