Disgwyl i borthladd Caergybi ailagor yn rhannol erbyn canol Ionawr
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i borthladd Caergybi agor yn rhannol erbyn 16 Ionawr.
Mae'r perchnogion yn dweud eu bod ar y trywydd cywir i ailagor un o'r ddwy derfynfa erbyn canol y mis.
Mae'r porthladd ar gau ers dydd Sadwrn 7 Rhagfyr wedi i amodau garw Storm Darragh achosi difrod sylweddol i angorfeydd Terfynfeydd 3 a 5.
Nid oes dyddiad wedi ei roi ar gyfer ailagor yr ail angorfa – yr un a gafodd ei ddifrodi fwyaf.
Mae Stena Line, sy'n berchen ar y porthladd ac yn rhedeg rhai o'r teithiau fferi rhwng Caergybi a Dulyn, eto i gadarnhau sut y byddai'r ailagoriad rhannol yn effeithio ar wasanaethau fferi.
Cyn i'r porthladd gau, gallai dwy fferi lwytho a dadlwytho nesaf i'w gilydd, ond ni fydd hynny'n bosib gydag un angorfa ar agor yn unig.
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2024
Mewn datganiad ar ran Stena Line, dywedodd llefarydd: "Rydym yn falch o rannu diweddariad positif ynglŷn â chau angorfeydd fferi Terfynfa 3 a Therfynfa 5 ym Mhorthladd Caergybi.
"Ar ôl asesiadau a chynllunio diwyd, gallwn nawr gadarnhau bod yr amserlen ar gyfer ailagor angorfa fferi Terfynfa 5 erbyn 16 Ionawr 2025 yn dal yn gyraeddadwy.
"Mae'r rhagfynegiad hwn yn amodol ar dywydd rhesymol, a byddwn yn darparu diweddariadau pellach wrth i'n gwaith barhau.
"Mae ein tîm wedi gweithio'n ddiflino dros yr ŵyl a thrwy gydol cyfnodau o dywydd garw i fynd i'r afael â'r heriau'r difrod strwythurol yn gynharach y mis hwn.
"Rydym yn hyderus yn yr atebion amgen rydym wedi'u rhoi ar waith i sicrhau mynediad diogel a rhwydd i longau ar gyfer ein cwsmeriaid a staff."
'Gofidus am y dyfodol pellach'
Yn ôl Maer Caergybi, Vaughan Williams, mae busnesau'r dref yn dal yn "poeni am golli foot passengers".
"Yn sicr mae unrhyw ffordd o gael nhw'n ôl i ganol Caergybi yn beth da".
Er ei fod yn croesawu'r diweddariad ddydd Mawrth, dywedodd ei fod yn "ychydig ofidus o ran y dyfodol pellach".
"Be' sy'n mynd i ddigwydd yn y pendraw? Os ydi busnesau yn ffeindio ffyrdd haws o groesi Môr Iwerddon mae'n gadael Caergybi mewn lle eithaf pryderus," meddai.
"'Dan ni'n gyfarwydd efo porthladd sy'n mynd drosodd i Iwerddon efo miliynau o bobl a llongau a loriau.
"Yn y pendraw ma'n helpu economi Caergybi a beth sy'n poeni fi ydi os bod 'na ffordd haws neu ffordd wahanol o groesi'r môr yn dod yn well a buddiannol i fusnesau, mae hynny yn y pendraw yn ofn i mi ac yn ofid i bobl y dre'."
Porthladd Caergybi yw un o borthladdoedd fferi prysuraf Prydain, gan gynnig y daith fyrraf rhwng y DU ac Iwerddon.
Ar gyfartaledd, mae dwy filiwn o deithwyr yn defnyddio'r porthladd bob blwyddyn ac mae tua 1,200 o lorïau a threlars yn croesi bob dydd.
Cyn i'r porthladd gau, roedd Stena Line ac Irish Ferries yn cynnig hyd at bedwar hwyliad i Ddulyn yr un, gan adael yn aml o fewn hanner awr i'w gilydd.
Fe gadarnhaodd Stena Line ddydd Mawrth mai dydd Iau y bydden nhw'n cadarnhau eu hamserlenni tra bod ond un angorfa ar gael, a'u bod yn rhagweld y bydd yn bosib i gynnig pedair taith y dydd i Ddulyn o Derfynfa 5.
Dywedodd Irish Ferries eu bod "yn parhau i adolygu pa gamau eraill sydd angen" i wasanaethu teithwyr a chwmnïau cludiant", ond eu bod "wedi cytuno ar amserlen gyda'r gweithredwr arall a fydd yn caniatáu [i ni] gynnal amserlenni llawn o Drefynfa 5".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn falch bod Stena yn gwneud cynnydd cadarnhaol, yn parhau i weithio tuag at ailagor y porthladd yn ddiogel, fel y gall gwasanaethau ailddechrau i bobl sydd eisiau teithio ac i fusnesau sy'n cludo nwyddau."