BBC Cymru yn sicrhau hawliau darlledu gemau pêl-droed dynion Cymru at 2026

Craig BellamyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd ymgyrch tîm Craig Bellamy i gyrraedd Cwpan y Byd yn dechrau yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Kazakhstan ar 22 Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae'r BBC wedi cyhoeddi cytundeb ecsgliwsif i ddarlledu gemau pêl-droed rhyngwladol dynion Cymru yn y cyfnod cyn Cwpan y Byd 2026.

Bydd y cytundeb gydag UEFA yn golygu dangos 13 gêm Cymru yn fyw, gan gynnwys holl gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Bydd y gemau yn cael eu darlledu yn Saesneg ar y BBC ac yn Gymraeg ar S4C, ochr yn ochr â sylwebaethau byw ar Radio Wales a Radio Cymru.

Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ei bod hi'n "wych bod pob cefnogwr tîm Cymru yn mynd i allu gwylio ein gemau am ddim".

Mae'r cytundeb yn ychwanegu at ddarllediadau pêl-droed byw presennol BBC Cymru o dîm rhyngwladol y Merched.

Mae cytundeb darlledu'r BBC hefyd yn cynnwys holl gemau rhyngwladol dynion yr Alban a Gogledd Iwerddon – y tro cyntaf i'r darlledwr sicrhau hawliau byw llawn i bob un o'r tair gwlad ddatganoledig.

Bydd yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2026 yn dechrau yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Kazakhstan ddydd Sadwrn 22 Mawrth, ac yna taith i Ogledd Macedonia dridiau yn ddiweddarach.

Bydd tîm Craig Bellamy wedyn yn wynebu dwy gêm ym mis Mehefin; y cyntaf yn erbyn Liechtenstein, cyn wynebu ffefrynnau'r grŵp, Gwlad Belg, oddi cartref.

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru: "Rwy' wrth fy modd ein bod wedi arwyddo cytundeb i ddod â gemau Cymru i'r sgrin ar y BBC.

"Mae Craig Bellamy a charfan Cymru ar fin dechrau ymgyrch newydd sbon ac rydw i mor falch fod BBC Cymru am fod gyda nhw yr holl ffordd, gan ddod â phêl-droed rhyngwladol i gefnogwyr ledled y wlad."

Nid yw'r gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr ym mis Hydref yn rhan o'r ddêl.