Cymru i herio Lloegr yn Wembley mewn gêm gyfeillgar

Harry Wilson yn dathlu ar ôl sgorio gôl yn erbyn Gwlad yr Iâ yng Nghynghrair y Cenhedloedd ym mis Tachwedd
- Cyhoeddwyd
Bydd tîm pêl-droed dynion Cymru yn wynebu Canada a Lloegr mewn gemau cyfeillgar yn 2025.
Bydd tîm Craig Bellamy yn chwarae yn erbyn Canada yn Stadiwm Swansea.com ar nos Fawrth, 9 Mawrth a Lloegr yn Stadiwm Wembley ar nos Iau, 9 Hydref.
Bydd Cymru'n chwarae yn erbyn Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn rownd ragbrofol Cwpan y Byd 2026 ychydig ddyddiau ar ôl y gêm yn erbyn Lloegr, ar 13 Hydref.
Mae'r gemau yn erbyn Canada a Lloegr yn cwblhau calendr tîm y dynion ar gyfer 2025.

Fe wnaeth Lloegr guro Cymru o 3-0 yng Nghwpan y Byd 2022
Y tro diwethaf i Gymru wynebu Lloegr oedd y gêm yng Nghwpan y Byd 2022 yn Qatar.
Lloegr enillodd y gêm o 3-0 gan ddod ag ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd i ben.
Y tro diwethaf i Gymru chwarae o flaen torf yn Stadiwm Wembley oedd dan arweiniad Gary Speed ym mis Medi 2011 yn rowndiau rhagbrofol Euro 2012.
Y gêm yn erbyn Canada fydd y tro cyntaf i Gymru chwarae yn Abertawe ers mis Tachwedd 2020 pan chwaraeon nhw heb dorf yn ystod y pandemig.
Gorffennodd y gêm honno yn erbyn yr UDA yn ddi-sgôr.
Y tro diwethaf i Gymru wynebu Canada oedd y fuddugoliaeth o 1-0 yn Wrecsam ym mis Mai 2004, a'r gêm ym mis Medi fydd y pedwerydd tro i'r ddau dîm wynebu ei gilydd.

Dydy Cymru heb golli gêm ers i Craig Bellamy ddod yn rheolwr
Bydd Cymru yn cystadlu eleni yn rownd ragbrofol Cwpan y Byd 2026, gyda'r ymgyrch yn dechrau ar ddydd Sadwrn 22 Mawrth yn erbyn Kazakhstan yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Gwlad Belg, Gogledd Macedonia, Kazakhstan a Liechtenstein fydd eu gwrthwynebwyr yng ngrŵp J, ac mae'r rheolwr Craig Bellamy yn dweud ei fod yn "hapus" gyda'r enwau ddaeth o'r het.
Ym mis Tachwedd, curodd Cymru Gwlad yr Iâ o 4-1 yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn eu gêm olaf yn 2024, gan sicrhau dyrchafiad i haen uchaf y gystadleuaeth.
Roedd y fuddugoliaeth - yn ogystal â chanlyniad annisgwyl yn y gêm rhwng Montenegro a Thwrci - yn golygu fod Cymru wedi ennill eu grŵp.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
- Cyhoeddwyd13 Chwefror
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024