Llwyddiant pêl-droed merched Cymru i 'newid agweddau'

Jess Fishlock yn dathlu buddugoliaeth CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jess Fishlock yn dathlu buddugoliaeth Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na obaith y bydd llwyddiant tîm merched pêl-droed Cymru i gyrraedd Euro 2025 yn arwain at “newid agweddau pobl".

Enillodd Cymru o 2-1 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn nos Fawrth i sicrhau buddugoliaeth o 3-2 ar gyfanswm goliau.

Mae hynny'n golygu bod y tîm cenedlaethol wedi cyrraedd un o'r pencampwriaethau mawr am y tro cyntaf erioed.

"Hwn ydy game changer ni yng Nghymru,” meddai cyn-bennaeth pêl-droed merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Lowri Roberts.

“Un o’r barriers mwya' 'da ni wastad wedi cael ydy agweddau pobl tuag at ferched yn chwarae.

“Dwi rili yn gweld legacy y tîm yma fydd yr effaith maen nhw wedi cael at newid agweddau pobl.”

'Wedi bod yn aros am y foment yma'

Dywedodd Ms Roberts y bu “buddsoddiad mawr” yng ngharfan genedlaethol y merched, sydd wedi gweld cynnydd yn nifer aelodau’r tîm cefnogol.

Ychwanegodd bod y gymdeithas bêl-droed eisoes gyda sylfeini mewn lle i baratoi ar gyfer y rowndiau terfynol yn y Swistir yr haf nesaf.

“Maen nhw wedi bod yn aros am y foment yma ers dipyn,” meddai.

“Be wnawn ni weld ydy lot mwy o bobl yn ymwybodol o’r gêm… a’r ffaith y bydd pawb yn siarad am y gêm.

“Fydd 'na fwy o gyfleoedd i ferched chwarae achos mi fyddan nhw’n meddwl y bydd mwy o fuddsoddiad yn dod fewn gan UEFA.”

Disgrifiad,

Dywedodd y capten Angharad James ei bod yn "falch, ac mor hapus i'r merched"

Roedd Lowri Roberts ymysg dros 400 o gefnogwyr Cymru oedd wedi teithio i Ddulyn ar gyfer ail gymal y gêm ail gyfle, a ddenodd dros 25,000 i Stadiwm Aviva.

“Mae 'na chwaraewyr fel Jess [Fishlock] a Sophie [Ingle] sydd yn cofio amser pan dim ond teulu a ffrindiau oedd yn dod i’w gwylio nhw," meddai Ms Roberts.

"Felly i gael 15,000 yn Stadiwm Caerdydd nos Wener ac yna 400 yn trafeilio i Iwerddon, mae 'na watershed moment dwi’n meddwl yn digwydd yn y gêm.”