Diffoddwr tân o Gydweli yn paratoi i ddringo mynydd ucha'r byd

Mae Rhys yn paratoi i ddringo mynydd ucha'r y byd, Everest, yn ei wisg gwaith llawn
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwr tân o Sir Gaerfyrddin wedi dringo un o fynyddoedd yr Himalaia er mwyn paratoi i gyrraedd copa Everest yn ei wisg gwaith llawn.
Cyrhaeddodd Rhys Fitzgerald o Gydweli, uchafbwynt 6,812m (22,349tr) Ama Dablam yn nhalaith Koshi yn Nepal fel ymarfer i ddringo mynydd ucha'r byd yn 2026.
Dywedodd Rhys ar BBC Radio Wales Breakfast ei fod yn "ymarfer da" i'r hyn sydd i ddod pan fydd yn dychwelyd i'r Himalaias y flwyddyn nesaf.
Ei fwriad hefyd yw codi arian ar gyfer elusennau iechyd meddwl ar ol gweld sut mae pwysau "annioddefol" yn gallu effeithio ar ei gydweithwyr.
'Iawn i beidio bod yn iawn'
Dywedodd Rhys, sy'n gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, mai'r mynydd Ama Dablam oedd yr un "mwyaf technegol" iddo ddringo.
Gyda'r tymheredd mor isel â -20C (-4F) dywedodd roedd yn "gipolwg da" o'r hyn fydd yn ei wynebu wrth iddo anelu at gyrraedd copa Everest sef 8,848 metr.
"Blinder eithafol, oerfel difrifol a'r heriau corfforol a chymhlethdodau ar y mynydd. O'n i'n cymryd pob cam un ar y tro – ac yn mwynhau'r holl beth", meddai.
Dywedodd mai'r rheswm dros godi arian yw oherwydd ei fod wedi gweld "sut mae iechyd meddwl yn effeithio ar y rhai o'm cwmpas - fy nheulu, fy ffrindiau, a fy nghydweithwyr yn y gwasanaeth tân."
"Roedd adegau pan oedd pwysau popeth yn teimlo'n annioddefol i bobl.
"Un peth dwi wedi ei ddysgu yw hyn: mae'n iawn i beidio bod yn iawn."

Fe ddringodd Rhys mynydd Ama Dablam yn yr Himalaia yn gwisgo ei wisg diffoddwr tân
Esboniodd Rhys am yr her ychwanegol o ddringo yn ei wisg diffoddwr tân.
Dywedodd: "Mae gennych chi'r symudiad a'r hyblygrwydd o fewn y wisg, ond mae wedi'i gynllunio ar gyfer tymheredd gwres eithafol ac nid yr oerfel eithafol."
"Os nad ydych chi'n cadw eich dwylo i symud fe allen nhw fynd yn ddideimlad.
Fe ddaeth y teimlad yn ôl yn fy mysedd tua phythefnos yn ddiweddarach," meddai.
Ar Everest, dywedodd y byddai llawer o fylchau fydd yn rhaid iddo groesi ar ysgolion gyda dringwyr wedi eu clipio i raffau am fod eirlithradau yn risg bron bob dydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd5 Mai 2016
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2023