Y Gymraes a adawodd ei marc ar wleidyddiaeth America

Martha Hughes CannonFfynhonnell y llun, cyhoeddus
Disgrifiad o’r llun,

Martha Hughes Cannon

  • Cyhoeddwyd

Pe baech yn tyrchu drwy hanes menywod o Gymru mae’n annhebygol y byddech chi’n dod ar draws ffigwr sy’n hanner cymaint o baradocs â Martha Hughes Cannon.

Efallai nad yw’r enw hwn yn canu cloch, ond mae’n ffigwr gwleidyddol uchel ei pharch yn yr Unol Daleithiau, yn enwedig felly yn nhalaith Utah.

Eleni, mae Martha yn cael ei anrhydeddu gyda cherflun ger adeilad y Capitol yn Washington D.C. a phlac yn ei thref enedigol yma yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Better Days
Disgrifiad o’r llun,

Cerflun Martha ar ei daith i Washington D.C.

Ganed Martha Hughes yn Stryd Madog, Llandudno yn 1857 ond fe ymfudodd y teulu i America pan oedd yn dair oed wedi iddynt ymuno â’r Eglwys Dyddiau Diwethaf, neu’r Mormoniaid.

Roedd Martha o oed ifanc iawn yn ferch hynod. Roedd hi’n athrawes ysgol gynradd yn 14 mlwydd oed.

Yn 16 fe ddechreuodd gwrs gradd mewn Cemeg ac erbyn ei bod hi’n 25 roedd ganddi bedwar gradd prifysgol mewn Cemeg, Meddygaeth, Fferylliaeth, a Llefaryddiaeth (Elocution) – yn y 19eg ganrif roedd hyn yn dipyn o gamp gan mai canran fechan o fenywod oedd yn cael hyfforddi fel meddyg.

Byddai pob un o’r graddau yn chwarae rhan allweddol yn ei bywyd.

Ar ôl derbyn ei gradd meddygol o Brifysgol Michigan yn 1880 fe sefydlodd Martha feddygfa breifat yn Salt Lake City, y ddinas lle’i magwyd. Aeth yn feddyg preswyl yn Ysbyty Deseret yn fuan wedyn, ac yn fanno y cyfarfu hi â dyn o’r enw Angus M. Cannon.

Ffynhonnell y llun, Cyhoeddus
Disgrifiad o’r llun,

Angus M. Cannon: Roedd Angus yn uchel iawn ei barch a'i statws yn yr eglwys Formonaidd yn Utah. Roedd ganddo chwech o wragedd a mwy nag 17 o blant.

Roedd Angus yn uwcharolygydd yn yr ysbyty, ac fe syrthiodd Martha dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad ag o. Roedd ef hefyd yn aelod blaenllaw o’r eglwys formonaidd ac yn arfer amlwreiciaeth (polygamy).

Roedd hi’n tynnu tuag at ddiwedd y ganrif ac roedd amlwreiciaeth yn llai a llai cyffredin, a hynny er bod yr eglwys Formonaidd yn credu mai’r arfer hwn oedd y ffurf mwyaf ysbrydol o briodas. Er nad oedd Martha yn dod o deulu amlwreiciol (polygamist) fe briododd Angus yn 1884, gan ddod yn bedwaredd wraig iddo (y bedwaredd o chwech).

Ffynhonnell y llun, Better Days
Disgrifiad o’r llun,

Yr hanesydd Rebekah Clark sydd wedi bod yn teithio o amgylch Utah yn rhannu stori Martha Hughes Cannon

Dywedodd yr hanesydd Rebekah Clark sy’n gweithio fel Ymchwilydd Hanes Cyswllt i Better Days, sefydliad nid-er-elw sy’ wedi ymrwymo i ehangu addysgu am hanes menywod talaith Utah:

“Ar yr wyneb, mae’n ymddangos yn gwbl groes i reddf menyw mor addysgedig, a goleuedig ac annibynnol i ymroi i briodas fel hon. A doedd hi ddim yn brin o gynigion eraill!

“Ond roedd Martha mewn cariad, yn aruthrol o ysbrydol ac yn coelio’n ddwfn yn ei ffydd. Ac felly, fe briododd y dyn hwn er ei fod o gymaint yn hŷn na hi ac eisoes yn briod â nifer o fenywod eraill.”

Anghyfreithloni amlwreiciaeth

Ond, doedd y briodas ddim yn fêl i gyd. Gydag amlwreiciaeth yn prysur dod yn anghyfreithlon fe alwyd ar Martha i fod yn dyst mewn achosion llys yn erbyn Mormoniaid adnabyddus – pobl y byddai hi wedi bod yn feddyg arnynt yn ystod genedigaeth eu plant, ac yn erbyn ei gŵr ei hun. Cyhoeddwyd gwarant i’w harestio fel “tyst allweddol”.

Mewn llythyr at ei ffrind, dolen allanol, Barbara, mae’n dweud nad yw hi’n gallu tystio yn yr achosion hyn am nad yw hi’n medru “wynebu bod yn rhan dyngedfennol o amddifadu’r plant hyn o’u tadau.”

Ac felly i osgoi hyn, fe adawodd yr Unol Daleithiau a ffoi i Ewrop am ddwy flynedd gyda’i merch fach newydd-anedig, Elizabeth.

Dychwelyd i Gymru

Roedd hwn yn gyfnod tywyll ac anodd iddi yn ôl Rebekah, sydd wedi astudio gohebiaeth Martha gyda theulu a ffrindiau yn y cyfnod hwn o alltudiaeth.

O bosib, meddai, ei bod hi’n dioddef gydag iselder ôl-enedigol (postpartum depression). Ond, ar ôl teithio o amgylch Ewrop a Lloegr yn casglu llyfrau ac ymweld ag ysbytai fe ddychwelodd Martha i ogledd Cymru am y tro cyntaf ers gadael yn dair mlwydd oed.

Yn ôl ei llythyrau, mae hi’n teithio o amgylch gogledd Cymru ac yn treulio nifer o ddyddiau yn nhref Llanrwst, lle y mae hi’n ei ddisgrifio fel “picturesque”, yn hel achau gan mai o fanno yr oedd teulu ei thad yn hannu.

Ysgrifennodd at ei gŵr i fynegi cymaint yr oedd hi’n caru gweld “y golygfeydd mwyaf urddasol a gwyllt yng Nghymru” a bod yr ymweliad wedi bod yn “amser bendigedig ac yn wledd o bethau da” iddi hi mewn cyfnod a oedd fel arall yn go dywyll.

Dywedodd Rebekah bod Martha, mewn llythyrau mwy diweddar, yn cyfeirio’n ôl at ei chyfnod yng Nghymru fel golau llachar cadarnhaol yng nghanol cyfnod anodd o alltudiaeth.

Ffynhonnell y llun, Utah State Historical Society
Disgrifiad o’r llun,

Yn Chicago ar ôl dychwelyd o Ewrop i UDA

Pan ddaeth y gwarant i’w harestio i ben yn 1887, dychwelodd Martha i’r Unol Daleithiau a chanolbwyntio ar ei gwaith meddygol.

Yn fuan wedyn daeth yn rhan fawr o’r mudiad pleidlais i fenywod (Women's Suffrage Movement) wedi iddyn nhw golli’r hawl i bleidleisio yn 1889. Roedd menywod yn cael pleidleisio yn Utah rhwng 1880 ac 1887 ynghŷd â thalaith Wyoming.

Yng nghofnodion un o gyfarfodydd y Women’s Suffrage Association yn Utah, mae dyfyniad gan Martha wedi’i roi ar gof a chadw, sef:

“Ni ddylai unrhyw un fod yn freintiedig ar sail rhyw, cyfoeth na thras. Dylai bob person fod yn gyfartal yn ôl y gyfraith os yw’n bosib.”

Ffynhonnell y llun, Cyhoeddus
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o aelodau'r grŵp Women's Suffrage yn Utah dan arweiniad Susan B. Anthony

Mae hwn yn ddyfyniad rhyddfrydol iawn i’w gyfnod ac roedd cydraddoldeb yn ganolog i’w chredoau. Ymhelaethodd Rebekah:

“Roedd hyn yn 1889, ac mae wir yn anhygoel. Eu rheswm dros gael y bleidlais oedd cydraddoldeb a bod angen iddyn nhw gael llais. Dw i’n credu bod hynny’n eithaf blaengar ar y pryd.”

Un o’r dadleuon yn erbyn rhoi’r bleidlais i fenywod ar y pryd oedd mai pleidlesio dros pwy fyddai eu tadau neu eu gwŷr yn pleidleisio fyddai menywod, felly beth oedd diben dod â’r bleidlais yn ôl? Ni fyddai’n newid dim.

Enillodd Utah’r bleidlais i ferched yn 1896 pan ddaeth yn dalaith.

Ffynhonnell y llun, Utah State Historical Society
Disgrifiad o’r llun,

Portread swyddogol Senedd Utah, 1897

Yn yr un flwyddyn, cafodd Martha ei hethol i Senedd y dalaith – y fenyw gyntaf i wneud hynny.

Rhywbeth sy’n gwneud hyn yn hyd yn oed mwy rhyfeddol yw ei bod hi wedi curo pum ymgeisydd arall, ac un ohonynt oedd ei gŵr.

Safodd fel ymgeisydd dros y blaid Ddemocrataidd ac roedd ei gŵr yn ymgeisydd Gweriniaethol gyda’r wasg yn cefnogi’r naill a’r llall mewn ras dynn. Gyda phapurau newydd fel y Salt Lake Herald yn dweud mai hi oedd y “y dyn gorau o’r ddau” i wneud y swydd.

Enillodd Martha gyda 10,288 o bleidlaisiau, 2,234 o bleidleisiau’n fwy nag Angus.

Er bod eu priodas yn annilys yn ôl y gyfraith ers 1890 pan gyhoeddodd swyddogion Mormonaidd y dylai priodas luosog ddod i ben, roedden nhw’n dal efo’i gilydd.

Ffynhonnell y llun, Utah State Historical Society
Disgrifiad o’r llun,

Senedd Utah yn 1897. Martha yw'r fenyw ar y chwith (ysgrifenyddesau yw'r ddwy fenyw arall.)

Cyflwynodd dri mesur o fewn ei mis cyntaf yn y swydd. Fel aelod o’r Senedd fe fu Martha yn gyfrifol am nifer o fesurau pwysig gan gynnwys gwella iechyd cyhoeddus, amodau gweithio i fenywod a’r celfyddydau.

Ffynhonnell y llun, Utah State Archives
Disgrifiad o’r llun,

Copi digidol o ddrafft y mesur iechyd gyflwynodd Martha i'r Senedd yn 1899, y Senate Health Bill

Sefydlodd fwrdd iechyd cyntaf y dalaith – sydd dal yn bodoli heddiw. Trawsnewidiodd lanweithdra cyhoeddus, sicrhaodd bod addysg i bobl byddar, trwm eu clyw ac â nam ar eu lleferydd yn cael ei ariannu.

Chwaraeodd rôl dyngedfenol yn rhwystro lledaeniad y frech wen drwy hyrwyddo brechu’n erbyn yr afiechyd.

Sgandal

Ond, yn anffodus daeth ei gyrfa wleidyddol i ben yng nghanol sgandal. Roedd Martha’n feichiog gyda’i thrydydd plentyn ag Angus.

Yn llygaid y cyhoedd, roedd Martha (ac Angus) yn ymddangos yn ddi-hid ac yn anwybyddu’r gyfraith drwy barhau â’u perthynas, gan gofio fod eu priodas wedi’i diddymu ddeng mlynedd ynghynt.

Ffynhonnell y llun, Utah State Historical Society
Disgrifiad o’r llun,

Martha gyda'i thrydydd plentyn, Gwendolyn

Wedi’i gorfodi i adael bywyd cyhoeddus, fe ganolbwyntiodd Martha ar faterion eraill oedd yn agos at ei chalon a rheiny’n ymwneud ag iechyd yn bennaf. Gadawodd Salt Lake City a symud i Galiffornia at ei mab gyda’i babi newydd, merch o’r enw Gwendolyn.

Bu farw yno yn 1932.

Nid tan y 1970au y cafodd enw Martha Hughes Cannon y gydnabyddiaeth haeddianol. Mae sefydliadau dal yn gweithio i ledaenu ei stori hi a mwy o fenywod hanesyddol, fel Better Days, sydd wedi bod yn mynd a fersiwn bychan o’r cerflun ar daith o amgylch ysgolion a phrifysgolion yn yr Unol Daleithiau.

Ffynhonnell y llun, Better Days
Disgrifiad o’r llun,

Un o ddigwyddiadau "Martha Goes To Washington" wedi'i gynnal gan Better Days. Yn y canol mae Rebekah Clark yn annerch y dorf.

Ffynhonnell y llun, Better Days
Disgrifiad o’r llun,

Y dorf tu allan i adeilad Senedd Utah wedi dod i weld cerflun Martha Hughes Cannon cyn iddo fynd i Washington.

Bydd y cerflun yn Washington D.C. a’r plac yn Llandudno yn cael eu dadorchuddio yn yr hydref.

Pynciau cysylltiedig