Rhybudd y gall beicio anghyfreithlon achosi tirlithriadau
- Cyhoeddwyd
Gallai cerbydau sy’n beicio oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon achosi tirlithriadau peryglus ar safleoedd hen domenni glo.
Daw’r rhybudd gan Gyngor Sir Rhondda Cynon Taf wrth i’r heddlu alw ar y cyhoedd i roi gwybod iddyn nhw am achosion o’r fath dros fisoedd yr haf.
Mae tipiau glo o hen weithfeydd yn rhan o’r dirwedd mewn sawl rhan o Gymru, yn enwedig cymoedd y de, ond maen nhw’n gallu mynd yn ansefydlog mewn tywydd gwael.
Llynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi mapiau’n dangos lleoliadau 350 o dipiau risg uchel yng Nghymru, sydd angen eu harchwilio’n rheolaidd.
Mae’r tomenni yn ganlyniad i ddegawdau o waith glo yng Nghymru, gyda 620 o byllau glo ar draws y wlad ar anterth y diwydiant ar ddechrau’r 20fed ganrif.
Pan oedd y glo yn cael ei dynnu o’r ddaear, roedd y deunydd gwastraff yn cael ei bentyrru mewn tipiau, sydd wedi parhau’n rhan o dirwedd nifer o gymunedau hyd heddiw.
Ond mewn tywydd gwael maen nhw’n gallu mynd yn ansefydlog ac achosi tirlithriadau, fel ym Mhendyrus, Rhondda Cynon Taf (RCT) yn dilyn stormydd 2020.
RCT yw’r awdurdod lleol gyda’r nifer uchaf o dipiau Categori C a D yng Nghymru, yn ôl y data diweddaraf – 79 ohonynt.
Ond yn ôl y cyngor, mae’r rheiny sy’n gyrru cerbydau oddi ar y ffordd wedi bod yn difrodi systemau draenio ar rai tipiau.
Gallai hynny, meddai’r cyngor, achosi “ansefydlogrwydd a photensial am dirlithriadau”, fyddai’n peri “risg i gymunedau ac isadeiledd cyfagos”.
“Mae cynnal a chadw’r isadeiledd yma’n ddrud ac yn cymryd amser,” meddai’r cynghorydd Bob Harris, aelod cabinet RCT dros iechyd cyhoeddus a chymunedau.
“Ar hyn o bryd mae’r tîm tipiau yn dod o hyd ac yn blaenoriaethu’r tipiau risg uchaf, ac yn gwneud y gwaith cynnal a chadw priodol i’r isadeiledd, o ystyried y gyllideb gyfyngedig o grantiau a’r adnoddau contractwyr sydd ar gael.”
Mae Heddlu’r De hefyd yn rhan o’r ymdrechion i daclo beicio oddi ar y ffordd, sy’n “fater o ymddygiad gwrthgymdeithasol” medden nhw.
“Mae beicio’n anghyfreithlon yn gallu creu problemau amgylcheddol mawr gyda draenio’r tir, sy’n gallu newid cyrsiau dŵr ac ansefydlogi tipiau, allai gael effaith yn y dyfodol,” meddai Gareth Prosser, rheolwr diogelwch cymunedol y llu.
“Mae beiciau oddi ar y ffordd hefyd yn gallu dinistrio coed sydd newydd gael eu plannu hefyd."
Yn ôl Mr Prosser: “Dros y blynyddoedd, mae llawer o dipiau wedi tyfu’n wyllt ac wedi dod yn gartref i fywyd gwyllt gan gynnwys adar, trychfilod ac ymlusgiaid.
“Ond gallai natur serth ac ansefydlog rhai o’r tipiau eu gwneud nhw’n amgylchedd peryglus o bosib.”
Ychwanegodd y llu y dylai unrhyw un sy’n dyst i feicio anghyfreithlon gysylltu gyda nhw gan roi cymaint o wybodaeth â phosib, wrth iddyn nhw geisio atal ymddygiad o’r fath “dros fisoedd yr haf sy’n dod”.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2022