'Byddwch yn fwy agored' am gynlluniau ceiswyr lloches

protestio Strade
Disgrifiad o’r llun,

Mae protestwyr sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau wedi gosod rhwystrau a phosteri ger mynedfa Gwesty'r Strade

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw ar y Swyddfa Gartref i fod yn fwy agored gyda'r cyhoedd ynglŷn â chynlluniau i gartrefu ceiswyr lloches mewn gwesty yn Llanelli.

Dywedodd Mark Drakeford fod hyder pobl ynghylch y mater "wedi ei niweidio'n fawr".

Roedd yn siarad ddiwrnod wedi i ddau o brotestwyr gael eu harestio.

Mae'r cynlluniau wedi rhannu barn yn lleol, gyda rhai trigolion yn anhapus gyda'r cynlluniau i ddod â 241 o geiswyr lloches i'r dref, ac eraill wedi bod yn dangos eu cefnogaeth i'r rheiny fydd yn dod.

'Dweud pethau gwahanol'

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, galwodd Mr Drakeford ar Lywodraeth y DU i fod yn "agored gyda'r gwasanaethau cyhoeddus lleol a'r gymuned leol am beth sy'n cael ei gynllunio".

"Mae'n ymddangos bod dal dryswch dros beth fydd yn digwydd dros y dyddiau nesaf," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pwnc eisoes wedi codi tensiynau yn lleol - ddydd Sadwrn fe wnaeth rhai o wrthwynebwyr y cynllun (dde) herio rhai o'r rheiny oedd wedi dod yno i ddangos cefnogaeth i'r ceiswyr lloches

"Mae hyder pobl Llanelli wedi ei niweidio'n fawr, a bydd rhaid ailadeiladu'r hyder yna os yw ceiswyr lloches yn mynd i gael eu cartrefu'n llwyddiannus yn y gwesty."

Fe gyhuddodd y Swyddfa Gartref o ddweud "pethau gwahanol" i "bobl wahanol", peidio â rhoi digon o wybodaeth i Gyngor Sir Caerfyrddin, a methu ag ateb gofynion "y rheiny sy'n gweithio yn y gwesty ar hyn o bryd".

Mae disgwyl i 95 o staff Gwesty Parc y Strade golli eu swyddi yn sgil y cynlluniau.

Dywedodd Mr Drakeford fod Llywodraeth Cymru eisiau gweld Cymru'n "darparu ar gyfer ein cyfran ni o bobl sy'n dod i'r wlad hon yn deg i chwilio am loches".

"Ond mae gan y Swyddfa Gartref ddyletswydd i fynd o gwmpas hyn yn y ffordd iawn," meddai.

Ychwanegodd nad oedd y Swyddfa Gartref wedi dysgu eu gwersi eu hunain, gan gynnwys pan gafodd ceiswyr lloches eu cadw am gyfnod byr mewn gwersyll milwrol yn Sir Benfro.

'Straen anhygoel'

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref bod "straen anhygoel" ar y system loches oherwydd bod nifer uwch nag erioed o bobl yn cyrraedd y DU ac angen llety.

"Rydyn ni wedi bod yn glir fod defnydd o westai i gadw ceiswyr lloches yn annerbyniol," meddai llefarydd.

"Ar hyn o bryd mae dros 51,000 o geiswyr lloches mewn gwestai, sy'n costio £6m y dydd i drethdalwyr y DU.

"Mae'r Swyddfa Gartref wedi ymrwymo i leihau'r defnydd o westai, a'r baich ar y trethdalwyr."

Ychwanegodd y Swyddfa Gartref nad oedden nhw'n gyfrifol am benderfyniadau staffio, a bod hynny rhwng perchnogion y gwesty a'r contractwyr.