Fflach newydd i 'gynnal gweledigaeth' brodyr Ail Symudiad

Wyn a Richard Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y ddau frawd, Wyn a Richard Jones, sefydlodd gwmni recordiau Fflach yn 1981

  • Cyhoeddwyd

Mae criw yn Aberteifi wedi sefydlu menter newydd, i barhau â gwaith recordio y diweddar Richard ac Wyn Jones, y ddau frawd sefydlodd Stiwdio Fflach.

Fe ddaeth nifer o wirfoddolwyr at ei gilydd ddechrau Ionawr i drafod y syniad o drosglwyddo gwaddol cwmni Fflach i ofal cwmni cydweithredol a chymunedol.

Penderfynodd y criw sefydlu cwmni recordio newydd, dan enw Cwmni Fflach Cymunedol.

Eu bwriad yw cydweithio gyda menter gydweithredol arall yn Aberteifi sy’n ceisio prynu capel a’i droi’n ganolfan gelfyddydol.

Bu farw Wyn Jones o ganser ar ym Mehefin 2021 ac yna’i frawd, Richard, mis yn ddiweddarach yng Ngorffennaf.

Roedd y ddau frawd yn gerddorion ac yn gynhyrchwyr cerddoriaeth, wedi sefydlu’r grŵp Ail Symudiad yn 1978 gyda Richard yn brif leisydd ac yn chwarae’r gitâr, a Wyn ar y gitâr fas a llais cefndir.

Rhyddhaodd y grŵp nifer o recordiau poblogaidd iawn dros 40 mlynedd, ac ymysg eu caneuon mwyaf poblogaidd mae 'Garej Paradwys', 'Twristiaid yn y Dre', 'Llwyngwair' a 'Geiriau'.

Fe wnaeth y brodyr hefyd sefydlu label recordiau annibynnol Fflach, a stiwdio recordio yn y dref.

Gyda'r label wedi bod wrthi'n cynhyrchu a chreu cerddoriaeth ers 1981 bellach, mae'r ôl-gatalog yn helaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Wyn a Richard Jones yn stiwdio Fflach

Un sydd wedi datblygu cryn brofiad yn helpu cymunedau’r ardal i greu mentrau cymunedol yw Cris Tomos.

Fe ddatblygodd Aberteifi dan ddylanwad y ddau frawd, meddai.

“Trwy weledigaeth y ddau, da’th Aberteifi’n ganolfan fyrlymus i gerddorion Cymreig ifenc.”

“Gyda’u colli nhw, wedd hi i weld fod y dychymyg a’r egni i gynnal y weledigaeth wedi mynd i golli ’fyd,” ychwanegodd.

Cynnal gweledigaeth Fflach

Daeth y criw at ei gilydd wedi i Mr Tomos awgrymu i deulu'r brodyr mai dyma ffordd bosib ymlaen.

“Fel gymaint a fagwyd ym Mro Preseli, we’n i’n gyfarwydd iawn â Stiwdio Fflach a gwaith y bois”, meddai.

“O ran nod ac ysbryd, menter gymdeithasol we Recordiau Fflach o’r cychwyn cynta.”

“Heb os, cyfoethogi cymdeithas ac nid nhw eu hunain oedd yn eu gyrru.”

Ffynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Richard Jones (yn eistedd) gyda'i frawd, Wyn yn 2018

“Eu tâl oedd prifiant a llwyddiant yr holl gerddorion ifenc a fwynhaodd braint eu cefnogaeth.”

“I fi, ma’ troi Fflach! yn fenter gymdeithasol, o ran perchnogaeth, yn ffordd amlwg o gynnal y weledigaeth.”

Cam nesaf y grŵp fydd gwahodd pobl i brynu cyfranddaliadau yn y cwmni cymunedol newydd.

Dyma fydd y diweddaraf o nifer o fentrau yn Aberteifi a’r cyffiniau sy'n gweithredu er budd pobl leol.

Gan fod un o’r mentrau hynny, cwmni 4CG, yn ceisio prynu capel Y Tabernacl gynt, ar ganol stryd fawr Aberteifi, mae Fflach Cymunedol yn bwriadu cydweithio â nhw i sicrhau llwyddiant y nod o’i droi’n ganolfan i ddathlu cyfoeth barddonol a cherddorol y fro.

Disgrifiad o’r llun,

Ail Symudiad yn eu gig cyntaf ym Mart Aberteifi ym Mai 1979

Mae’r Tabernacl â chysylltiad agos â’r brodyr hefyd.

Yn ôl Cris Tomos: “Cymdeithas y Tabernacl gynt roddodd y cyfle cynta' i Richard a Wyn.”

“Yn festri’r capel y sefydlo nhw’r stiwdio gynta oll, dros 30 mlyne nôl."

“Wrth sefydlu Fflach Cymunedol y gobaith yw agor stiwdio newy’ mas-law yn y festri a gweld cerddorion ifenc yr ardal yn cwrdd a chreu ’da’i gilydd yno unwaith eto.”

Pynciau cysylltiedig