Cymru'n colli eu gêm brawf gyntaf yn erbyn Awstralia

Cymru yn erbyn AwstraliaFfynhonnell y llun, Cameron Spencer/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar ddau achlysur roedd Cymru'n meddwl eu bod wedi croesi'r llinell dim ond i'r cais gael ei ddyfarnu'n annilys

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi colli gêm brawf gyntaf eu taith gyntaf yn Awstralia ers 12 mlynedd yn erbyn tîm cymharol ddibrofiad.

25-16 oedd y sgôr terfynol yn Stadiwm Allianz, Sydney ddydd Sadwrn.

Roedd Cymru'n anelu at drechu'r Wallabies yn Awstralia am y tro cyntaf ers 1969.

Ond yn dilyn wythfed colled o'r bron, mae tîm Warren Gatland bellach wedi llithro i 11fed safle detholion y byd.

Disgrifiad,

'Ni eisiau ennill fel tîm,' medd capten Cymru Dewi Lake yn dilyn y golled yn Sydney

Ciciau cosb oedd i gyfri am bwyntiau cyntaf y ddau dîm.

Ag yntau'n dechrau yn safle'r maswr i Gymru am y tro cyntaf, canolwr Caerdydd, Ben Thomas wnaeth sgorio gyntaf yn dilyn trosedd yn erbyn y capten Dewi Lake.

Ond wedi chwarter awr agoriadol roedd hi'n 6-3 i'r Wallabies - fe fyddai wedi bod yn 9-3 oni bai bai bod un o giciau Noah Lolesio yn aflwyddiannus.

Fe diriodd Taniela Tupou i ymestyn y bwlch, gyda throsiad Lolesio, i 13-3 a bu'n rhaid i Gareth Thomas adael y maes ar ôl derbyn cardyn melyn.

Er i Rio Dyer groesi'r llinell i Gymru, y dyfarniad oedd bod y cais ddim yn sefyll.

Ond roedd y tîm mewn coch yn ôl yn yr ornest wedi i Awstralia ildio cais cosb.

13-10 oedd y sgôr ar ddiwedd hanner cyntaf eithaf cyffrous.

Ffynhonnell y llun, Cameron Spencer/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Filipo Daugunu yn sgorio ail gais Awstralia

Cael mwy o'r bêl yn hanner Awstralia a gwella'u disgyblaeth oedd y nod wedi'r egwyl ac fe gafodd Cymru ddechrau addawol iawn gan greu sawl cyfle.

Ildiodd y tîm cartref gic gosb ac fe ddaeth Thomas â Chymru'n gyfartal.

Ond fe darodd y Wallabies yn ôl ac fe diriodd Filipo Daugunu yn y gornel dde.

Yn ffodus i Gymru, roedd y trosiad yn aflwyddiannus ond roedd angen ymateb cadarnhaol nawr eu bod 18-13 ar ei hôl hi.

Daeth James Botham i'r cae ac o fewn eiliadau roedd yn meddwl ei fod wedi sgorio ail gais i Gymru yn dilyn sgarmes symudol effeithiol o'r lein - ond unwaith yn rhagor gafodd y cais mo'i ganiatáu.

Gydag ychwanegu pwyntiau bellach yn flaenoriaeth, ymateb Dewi Lake i drosedd nesaf y Wallabies oedd i fynd am gic gosb ac fe gaeodd Thomas y bwlch i 18-16.

Ond fe sgoriodd Tom Wright gais unigol gwych o ganol y cae, gan adael Nick Tomkins ar y llawr, ac wedi trosiad Tom Lynagh roedd Awstralia naw pwynt ar y blaen.

Ac roedd y fuddugoliaeth - o 25 i 16 - yn un haeddiannol i'r Wallabies, er roedd yn gêm y gallai Cymru fod wedi ei hennill gyda mwy o ddisgyblaeth a llai o gamgymeriadau.

Bydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd eto yn ail gêm y daith ddydd Sadwrn nesaf ym Mharc AAMI, Melbourne.

Pynciau cysylltiedig