Cyllyll: Mam dyn a laddwyd yn galw am wneud mwy

Steven WilkinsonFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Steven Wilkinson ei ladd ym mis Hydref 2022 gan ddyn oedd yn arfer bod yn ffrind iddo

  • Cyhoeddwyd

Mae mam i ddyn ifanc 23 oed a gafodd ei ladd ar ôl cael ei drywanu yn Sir y Fflint wedi galw am newidiadau i'r ffordd y mae troseddau gyda chyllyll yn cael eu taclo.

Cafodd Steven Wilkinson ei ladd ar 4 Hydref 2022 gan ddyn oedd yn arfer bod yn ffrind iddo.

Roedd Jamie Mitchell, 25, wedi ei erlid trwy strydoedd Bwcle a'i drywanu.

Cafodd ei ddedfrydu i oes o garchar fis Mai eleni, a bydd yn rhaid iddo dreulio isafswm o 22 mlynedd dan glo.

'Dechrau oedd ei fywyd'

"Roedd o'n anhygoel. Roedd o'n unigryw. Fyddech chi byth yn cyfarfod hogyn fel fo," meddai mam Steven, Lisa.

"Doedd o erioed wedi cael cariad hyd yn oed. Doedd o erioed wedi bod mewn cariad. Dim ond dechrau oedd ei fywyd."

Wedi marwolaeth ei mab, mae hi wedi lansio deiseb yn galw am drafod troseddau â chyllyll yn San Steffan.

Mae hi'n gobeithio denu 10,000 o lofnodion, fyddai'n ddigon er mwyn gorfodi dadl ar y pwnc gan ASau.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i Jamie Mitchell dreulio isafswm o 22 mlynedd dan glo am lofruddio Steven

Tua 22:00 ar 4 Hydref 2022, gadawodd Jamie Mitchell ei gartref ar Lexham Green Close ym Mwcle, gyda'r bwriad o ddarganfod pwy oedd wedi torri ffenestr ei dŷ yn gynharach y noson honno.

Gyda chyllell yn ei law, dechreuodd redeg ar ôl dau ddyn, sef Steven Wilkinson a'i ffrind.

Clywodd y llys nad nhw oedd yn gyfrifol am y difrod i'r tŷ - roedden nhw wedi bod allan mewn tafarndai gyda'r nos, ac roedden nhw'n dychwelyd adref ar ôl prynu rhywbeth i'w fwyta.

Wrth i Mitchell eu herlid, cafodd Steven ei gornelu ar lôn gul yn ardal Jubilee Court, oddi ar Precinct Way yng nghanol y dref.

Fe ymosododd Mitchell arno gyda'r gyllell a'i drywanu, ac fe aeth yr arf rhwng asennau Steven, gan achosi niwed i'w organau.

Wedi'r digwyddiad, rhedodd Mitchell i ffwrdd a dychwelyd i'w gartref, ac er gwaethaf ymdrechion i'w achub, bu farw Steven yn ddiweddarach y noson honno yn Ysbyty Maelor, Wrecsam.

Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands fod y drosedd yn enghraifft o'r hyn all ddigwydd pan fo dynion ifanc yn cario cyllyll.

'Ddim yn deg'

"Tan hyn, do'n i ddim wedi sylwi pa mor ddrwg ydy troseddau â chyllyll," meddai Lisa.

"Mae 'na hogiau, merched, plant yn cael eu llofruddio yn ddyddiol, a dydy o ddim yn deg."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jessica a Lisa Wilkinson eisiau gweld mwy o ymwybyddiaeth ac addysg am droseddau â chyllyll

Dywedodd chwaer iau Steven, Jessica, fod marwolaeth ei brawd wedi cael effaith enfawr.

"Fyswn i ddim yn dymuno'r peth ar fy ngelyn pennaf," meddai.

"Mae hi wastad wedi bod yn fi, mam, nain a'm mrawd. Os ydw i byth yn cael plant, fydd ganddyn nhw fyth ewythr, a fydd gen i fyth fy mrawd i fy nghefnogi."

Mae hi'n credu bod angen mwy o ymwybyddiaeth ac addysg am droseddau â chyllyll.

"Pan fo pobl yn cymryd cyllyll allan efo nhw, dydyn nhw ddim yn deall y goblygiadau," meddai Jessica.

Mae'r teulu yn cael cymorth yr academydd cyfreithiol Edwin Duggan yn eu hymgyrch i gyrraedd San Steffan gyda'u hachos.

Dywedodd Mr Duggan ei fod wedi teimlo'r angen i helpu am nad oes digon yn cael ei wneud i atal troseddau o'r fath.

"Mae lluoedd heddlu yn gwneud eu hymgyrchoedd eu hunain, ond does 'na ddim ymdrech genedlaethol ar y cyd er mwyn addysgu plant ac addysgu lluoedd heddlu ar sut i ddelio gyda throseddau â chyllyll," meddai.

"Dwi'n meddwl mai'r unig ddatrysiad ydy creu gweinidog penodol i daclo'r broblem yma, a'r broblem yma yn unig."

'Gwneud hyn yn ei enw o'

Mae marwolaeth Steven wedi llorio ei fam, ond dywedodd Lisa fod yr ymgyrch yn rhoi ffocws iddi.

"Mae'n rhaid i ni gael mwy o ymwybyddiaeth - cael plant ifanc i ddeall ei fod yn anghywir," meddai.

"Os allwn ni achub bywydau, fe ddylen ni 'neud hynny.

"Doedd Steven ddim yn haeddu beth ddigwyddodd iddo. Dechrau oedd ei fywyd, ac mae wedi cael ei ddwyn oddi arno.

"Os alla i wneud hyn yn ei enw o, dyna sydd angen i fi 'neud."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Swyddfa Gartref eu bod "wedi tynnu dros 100,000 o gyllyll ac arfau eraill oddi ar y strydoedd" ers 2019

Dywedodd y Swyddfa Gartref eu bod yn "gwneud popeth yn ein pŵer i daclo troseddau â chyllyll".

"Ers 2019 rydyn ni wedi tynnu dros 100,000 o gyllyll ac arfau eraill oddi ar y strydoedd," meddai llefarydd.

"Rydyn ni hefyd yn rhoi mwy o adnoddau i luoedd heddlu er mwyn taclo troseddau, ac ers 2019 rydyn ni wedi buddsoddi £170m er mwyn datblygu unedau lleihau trais yn yr 20 ardal ble mae troseddau treisgar ar ei waethaf.

"Mae hyn yn ychwanegol i'r £170m i ariannu mwy o batrolau heddlu ar y strydoedd a'r ardaloedd sy'n cael eu heffeithio fwyaf."