Eisteddfod 2024: 'Dod â miwsig Cymraeg i gynulleidfa newydd'
- Cyhoeddwyd
Mae cerddor o Bontypridd yn gobeithio bydd ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’i ardal yn cyflwyno'r sin gerddoriaeth Gymraeg i gynulleidfa newydd.
Yn ôl Huw Griffiths, o fand Y Dail, fe fydd pobl ifanc sydd erioed wedi bod i’r Brifwyl o’r blaen yn siŵr o ymweld pan fydd ar eu stepen drws eleni - wnaiff agor y drws i brofiadau cerddorol newydd.
Ac mae’n credu y bydd nifer yn sylweddoli bod cymaint o fathau gwahanol o gerddoriaeth Cymraeg ac yn dod o hyd i grwpiau sy’n apelio.
Meddai: “Bydd nhw'n gallu gweld pa mor iach a faint mae’r sin Gymraeg yn ffynnu o weld y bands yn perfformio ym Mhontypridd.
“Bydd dod ar draws yr ystod eang iawn o fandiau ac acts cerddorol sydd ar hyn o bryd yn canu yn y Gymraeg yn rhywbeth eithaf anhygoel rili i rywun falle fase ddim wedi dod ar draws hynny o’r blaen a dwi’n meddwl bod hynny yn beth gwych.”
Mae Huw yn gobeithio caiff rhai brofiad tebyg i'r un gafodd o pan oedd o yn ei arddegau yn dechrau gwrando ar fandiau Cymraeg roedd ei rieni yn eu hoffi, fel Gorky’s Zygotic Mynci, Super Furry Animals a Catatonia.
Er ei fod yn rhan o ddiwylliant Cymraeg yr ardal ac yn mynd i weld gigs yng Nghlwb y Bont, tydi Huw ddim yn cofio bandiau Cymraeg yn y Cymoedd wrth dyfu fyny.
Cymraeg 'pync' y Gorky's
Clywed bandiau fel Gorky’s ddylanwadodd ar ei benderfyniad i sgwennu cerddoriaeth Gymraeg.
Meddai: “Gan mai’r Gymraeg ydi’n iaith gynta’ i ac iaith gynta‘r mavericks yma o’r 1990au a 2000s o'n i’n meddwl ‘dyna fi’n mynd i ddefnyddio wrth sgwennu caneuon’.
“Roedd canu yn y Gymraeg a dod o rywle ar bwys Pontypridd yn teimlo fel rhywbeth unigryw ac fel outsider i fod yn onest - a hynny mewn ffordd dda. Roedd yn teimlo bod gen i ryddid a bod e’n rhywbeth eitha’ gwahanol ac eitha’ unigryw.
“Ond hefyd gydag Euros Childs (o Gorky’s) yn enwedig, roedd ei ddefnydd o’r Gymraeg gyda chaneuon cynnar y Gorky’s yn ffresh ac yn wreiddiol iawn.
"Roedd ei ddefnydd e o fratiaith a thafodiaith y Gorllewin a’i ddefnydd o’r Gymraeg yn eitha’ pync a gwrth-ddiwylliannol ac roedd gweld hynny yn ddylanwad ac yn gwneud i fi feddwl ‘wow, dyma be' alla i 'neud gyda sgwennu yn y Gymraeg hefyd’.”
- Cyhoeddwyd15 Medi 2023
- Cyhoeddwyd9 Chwefror
Pan ddechreuodd Huw berfformio am y tro cyntaf, tra yn yr ysgol, roedd rhai o ganeuon y Gorky’s yn rhan o’i set.
Yn 2020 fe wnaeth Y Dail ryddhau eu sengl gyntaf, Teigr, cyn i'r cyfnod clo ac aelodau o'r band yn mynd i’r coleg amharu ar y cynlluniau.
Ond fe wnaeth Huw, sy’n 20 erbyn hyn ac yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, barhau i sgwennu a recordio ar ei ben ei hun dros y blynyddoedd. Ffrwyth ei lafur ydi albwm gyntaf Y Dail a bydd Teigr yn cael ei ryddhau ar 5 Ebrill.
Ei obaith ydi bod y math o ysbrydoliaeth gafodd o yn ddigwydd i eraill o’r Cymoedd dros yr haf.
“Yn y Gymraeg nawr mae pob math o genres ac ystod eang mor amrywiol,” meddai. “Mae ‘da chi acts drum and bass, hip hop, trap, bandiau indie, bandiau mwy prif ffrwd, bandiau mwy underground; mae ganddo chi popeth yn y Gymraeg sy’n profi pa mor iach yw e a bod e’n tyfu a thyfu.
“Bendant bydd e’n ddiddorol gweld sut ma’r bandiau yma yn cael eu derbyn yn yr Eisteddfod.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth
- Cyhoeddwyd27 Chwefror