Oes digon o gyfleoedd gwerin yn yr Eisteddfod?

Y Tŷ Gwerin ydy canolbwynt digwyddiadau gwerin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am roi mwy o sylw i gerddoriaeth werin yn yr Eisteddfod, ac i'r sîn dderbyn mwy o gefnogaeth yn gyffredinol.
Mae'r cerddor gwerin Rhiain Bebb o'r farn bod angen mwy o gystadlu a gweithgarwch gwerin yn yr Eisteddfod.
Ond mae eraill yn credu bod "mwy nag erioed" o bresenoldeb i gerddoriaeth a dawns werin yn y Brifwyl.
Dywed y cerddor Gwilym Bowen Rhys nad yw'n credu bod llai o gyfleoedd nac yn y gorffennol, ond yn hytrach bod "y cyfleoedd wedi newid".
Dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol fod panel yn "asesu a gwerthuso'r cystadlaethau a'r arlwy artistig ar y maes", a'u bod wedi cyflwyno Brwydr y Bandiau Gwerin yn ddiweddar.
'Ffordd bell i fynd'
A hithau wedi bod yn dysgu ac yn cyfeilio gydag offerynnau gwerin ers blynyddoedd, mae Rhiain Bebb yn poeni nad oes digon o gyfle i bobl fentro i'r byd gwerin.
"Pwy fydd offerynwyr gwerin y dyfodol? Mae'n fy nhristáu i i weld pianos yn unig yn cyfeilio i ddawnsio mewn eisteddfodau," meddai.
"Mae gennym ni ffordd bell bell i fynd i ddal fyny gyda'n cefndryd Celtaidd, ac mae cyfle gan yr Eisteddfod i gynorthwyo."
- Cyhoeddwyd25 Mehefin
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
Dywedodd ei bod yn "ofnadwy o bwysig" fod yr Eisteddfod yn cynnig llwyfan i gerddorion gwerin.
Fe gyflwynodd yr Eisteddfod Genedlaethol gystadleuaeth Brwydr y Bandiau gwerin ddwy flynedd yn ôl.
Does gan Rhiain ddim problem gyda'r gystadleuaeth, ond mae'n credu bod cystadlaethau i offerynwyr unigol a grwpiau wedi eu diddymu ar draul y gystadleuaeth newydd.
"S'dim pwynt i bobl fel fi fod yn hybu'r delyn deires, acordion neu ffidl, heblaw bod 'na blatfform iddyn nhw."

Mae Rhiain Bebb wedi bod yn dysgu ac yn cyfeilio gydag offerynnau gwerin ers blynyddoedd
Gyda'r Eisteddfod yn cynnig ystod eang o ddigwyddiadau, dywedodd Ms Bebb ei fod yn "ddyletswydd" arnyn nhw i roi'r cyfle i offerynwyr gwerin.
"Yn enwedig â'r holl hanes sydd wedi bod yn ddiweddar - Dafydd Iwan yn cwyno bod y sîn werin yn marw.
"Mae 'na bethau gwych wrth gwrs yn y Tŷ Gwerin, ond mae eisiau cadw golwg ar y gwreiddiau a rhoi'r cyfle i'r darpar offerynwyr."
Dywedodd Ms Bebb ei bod yn credu bod yr Eisteddfod yn colli cyfle i hybu pobl newydd i chwarae cerddoriaeth werin.
"Ers talwm roedd 'na sesiynau yn y Tŷ Gwerin. Mae angen dod â gweithdai fel yna yn ôl."
'Wedi tyfu yn aruthrol'
Ond dywedodd y cerddor gwerin Gwilym Bowen Rhys ei fod yn teimlo bod "mwy o ddiddordeb mewn cerddoriaeth werin" nawr nag erioed.
"Os 'da ni'n cymharu faint o acts neu gerddorion traddodiadol neu werinol sydd ar lwyfan yr Eisteddfod rŵan o'i gymharu â 10, 15 mlynedd yn ôl, mae 'di tyfu yn aruthrol," meddai.
Er ei fod yn cydnabod ac yn cytuno gyda Rhiain Bebb fod "angen hybu mwy o'r traddodiadau gwerin", dywedodd ei fod "ddim yn gweld dirywiad o gwbl".
"Dwi'n obeithiol iawn [am ddyfodol cerddoriaeth werin yng Nghymru], mae 'na lot yn digwydd."

Mae Gwilym Bowen Rhys yn credu bod nifer yr artistiaid gwerin ar lwyfannau'r Eisteddfod wedi "tyfu yn aruthrol"
Wrth sôn yn benodol am yr Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd: "Mae'r arlwy sydd ar gael yn hollol anhygoel o ran ei hamrywiaeth.
"Fyswn i ddim yn dweud bod llai o gyfleoedd, Sŵn i'n deud bod y cyfleoedd wedi newid - mae pethau'n mynd i newid drwy'r amser.
"Traddodiad marw ydi traddodiad sydd ddim yn symud ac yn newid.
"O fy safbwynt i, yn bersonol, dwi ddim yn gweld llai o bresenoldeb cerddoriaeth a dawns werin yn y Steddfod Genedlaethol.
"Dwi'n gweld mwy 'ŵan nag erioed."
'Cyfleoedd unigryw i artistiaid'
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: "Un o brif gyfrifoldebau'r Panelau Canolog yw asesu a gwerthuso'r cystadlaethau a'r arlwy artistig ar y maes i sicrhau eu bod yn gynhwysol ac yn apelio i ystod eang o bobl.
"Mae'r panel yn cynnwys artistiaid, hyfforddwyr a chynrychiolwyr diwydiant ac yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn i gynnig arweiniad i dîm artistig yr Eisteddfod.
"Mae datblygiad Brwydr y Bandiau Gwerin yn cynnig cyfleodd unigryw i artistiaid a pherfformwyr gwerin lleisiol ac offerynnol i gystadlu ar lwyfan cenedlaethol am y tro cyntaf.
"Mae sawl un sydd wedi cystadlu yn derbyn gwahoddiad yn ôl i berfformio fel rhan o arlwy'r Tŷ Gwerin y flwyddyn ganlynol."