Ffrae 20mya: AS 'wedi torri cod ymddygiad y Senedd'
- Cyhoeddwyd
Cytunodd gwleidydd Torïaidd Cymreig ar adroddiad am ymddygiad ei harweinydd er gwaetha'r ffaith iddi fod yn destun dau gŵyn am yr un mater.
Methodd Natasha Asghar â chamu o’r neilltu oherwydd gwrthdaro buddiannau o bwyllgor safonau’r Senedd ym mis Ionawr pan benderfynodd y pwyllgor glirio Andrew RT Davies am ddweud bod y polisi 20mya yn gyfyngiad cyflymder "blanced", hynny yw, cyffredinol.
Parhaodd i ddefnyddio’r term ei hun, er gwaethaf cytuno ar adroddiad y pwyllgor a oedd yn gofyn i aelodau o’r Senedd beidio â gwneud sylwadau “anghywir” o’r fath.
Dywedodd y Comisiynydd Safonau, Douglas Bain, fod Asghar wedi dwyn anfri ar y Senedd, ond dywedodd Asghar ei bod yn destun "helfa wrachod" a mynnodd ei fod yn derfyn "blanced".
Cytunodd pwyllgor safonau'r Senedd â Mr Bain fod aelod o'r Senedd Dwyrain De Cymru wedi torri cod ymddygiad Senedd Cymru.
Mae Asghar yn debygol o gael ei cheryddu gan y Senedd yn dilyn argymhelliad gan y pwyllgor.
Cafwyd yr ymchwiliad ar ôl i Aelod o'r Senedd Llafur a’r cyn weinidog trafnidiaeth Lee Waters, oedd ar flaen y gad gyda’r polisi 20mya pan gafodd ei lansio flwyddyn yn ôl, gwyno.
Nid yw hi bellach yn aelod o’r pwyllgor, ar ôl i Sam Kurtz gymryd ei lle ym mis Gorffennaf.
'Anghywir yn fwriadol'
Ym mis Hydref 2023 roedd Mr Bain yn archwilio cwyn am Asghar ynghylch ei disgrifiad o'r terfyn fel un "blanced".
Dywedwyd wrthi bryd hynny fod ystyriaeth Mr Bain o’r gŵyn wedi’i gohirio tra’i fod yn ystyried “cwyn debyg iawn” am gyfres o negeseuon cyfryngau cymdeithasol ar X, a wnaed gan aelod o’r Senedd, sydd heb ei enwi ond deellir mai arweinydd y Torïaid yn y Senedd, Andrew RT Davies, ydyw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthwynebu’r disgrifiad ers tro, gan ei alw’n ffug oherwydd bod cynghorau’n gallu gosod gwaharddiadau ar rai ffyrdd.
Yn yr adroddiad gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr canfu Mr Bain nad oedd y term "blanced", er yn anghywir, yn gelwyddog a bod gan Mr Davies amddiffyniad o dan gyfraith hawliau dynol.
Cytunodd adroddiad y pwyllgor ar y mater i beidio â gosod sancsiwn, ond dywedodd y dylai gwleidyddion “ofalu i beidio â gwneud datganiadau anfanwl ac anghywir yn fwriadol”.
Roedd Asghar yn aelod o’r pwyllgor ar y pryd ac roedd yn bresennol ar gyfer ei holl drafodaethau ar y pwnc.
Ond ar ôl i adroddiad mis Ionawr gael ei gyhoeddi, cyfeiriodd Asghar at 20mya fel terfyn cyflymder “blanced” ar gyfryngau cymdeithasol. Gwnaeth hynny eto mewn fideo.
Cwynodd Waters ar 18 Ebrill fod Asghar wedi defnyddio'r term mewn trafodaeth yn y Senedd - lle dywedodd y dylai'r gweinidog "oddef" ei disgrifiad oherwydd canfyddiadau'r pwyllgor safonau.
Yn ei gasgliadau, dywedodd Mr Bain ei fod wedi cael ei dderbyn gan Asghar ei bod yn ymwybodol bod y pwyllgor safonau wedi gofyn i aelodau’r Senedd “fod yn ofalus i beidio â gwneud datganiadau sy’n anfanwl ac yn anghywir yn fwriadol”.
Yn ei adroddiad, ychwanegodd y comisiynydd fod "yr aelod i bob pwrpas yn dweud un peth ac yn gwneud y gwrthwyneb".
Cytunodd aelodau’r pwyllgor safonau â’r comisiynydd, ac atgoffwyd Aelodau o’r Senedd ei bod yn ddyletswydd ar yr aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau perthnasol.
Bydd argymhelliad y pwyllgor ar gyfer cerydd yn cael ei drosglwyddo i’r Senedd i’w gymeradwyo.
Dywedodd Asghar: “Nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am sefyll i fyny a siarad ar ran fy etholwyr, a’r rhai ymhellach i ffwrdd, sydd wedi cael llond bol o bolisi terfyn cyflymder 20mya Llafur."
Dywedodd Waters: “Mae safonau’n bwysig, ac mae’r gwir yn bwysig. Rwy’n falch bod y Comisiynydd a’r Pwyllgor Safonau yn sefyll dros y ddau beth hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi
- Cyhoeddwyd14 Medi
- Cyhoeddwyd6 Medi