Dysgwr y Flwyddyn 2025: Cwrdd â Rachel Bedwin

Mae Rachel Bedwin yn un o'r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni
- Cyhoeddwyd
Ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, un o'r seremonïau fydd cyhoeddi enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2025.
Mae pedwar wedi cyrraedd y rownd derfynol, ac mae BBC Cymru Fyw yn cael cyfle yr wythnos hon i gwrdd â'r ymgeiswyr.
Bellach yn byw ym Mangor, mae Rachel Bedwin, 28, yn wreiddiol o Lundain.
Fe symudodd i fyw i Gymru i weithio gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond mae hi bellach yn gweithio yn adran polisi ac eiriolaeth RSPB Cymru, ac yn defnyddio cymaint o Gymraeg â phosib yn y gwaith.
Mae'n dweud byddai ei bywyd wedi bod yn wahanol iawn petai heb ddysgu'r iaith.
"Dwi'm yn gwybod be' fyswn i'n ei wneud hefo fy mywyd heb y Gymraeg, achos wnaeth o newid fy ngyrfa i gyd," meddai.
Dysgwr y Flwyddyn: Dewch i adnabod Rachel Bedwin
Bron ar hap a damwain y daeth Rachel, sy'n wreiddiol o ardal Bromley, ar draws y Gymraeg tra'n fyfyriwr yn astudio bioleg yng Nghaergrawnt.
"Oedd fy ffrind yn dysgu Cymraeg ar Duolingo. Nes i feddwl y byddai'n beth hwyl i'w wneud i ddysgu iaith newydd," meddai.
"O'n i ond yn disgwyl iddo bara am yr haf, ond 'naeth o sticio a nes i weithio i ddysgu'r iaith a dod yn rhugl."
Heblaw am ddarllen Under Milk Wood tra'n yr ysgol, prin oedd ymwybyddiaeth Rachel o Gymru a'r Gymraeg cyn hynny.
"Nes i ddod i Eryri ar wyliau gweithio oherwydd roeddwn yn gwneud Gwobr Dug Caeredin... gyda thîm llwybrau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am wythnos," meddai.
"Nes i weld y ceidwaid yn defnyddio'r iaith yn eu gwaith a nes i fwynhau'r gwaith gymaint, oeddwn eisiau mynd adref, gweithio ar fy Nghymraeg a dod yma i weithio."
'Yn well na lot o'r Cymry!'
Mae cerddoriaeth hefyd yn rhan bwysig o fywyd Rachel, ac fe ymunodd â Chôr Eifionydd yn fuan wedi iddi symud i Gymru, wrth iddyn nhw baratoi at Eisteddfod Genedlaethol 2023 ym Moduan.
Mae Rachel yn dweud bod ei phrofiad gyda'r côr yn golygu ei bod wedi cael ei "thaflu fewn i'r diwylliant Cymraeg", ac yn ddiolchgar i'w chyd-aelodau am eu cymorth.

Dywedodd Rhys Glyn bod Rachel "wedi trochi ei hun yn yr iaith ond hefyd y diwylliant"
Dywedodd Rhys Glyn, is-gadeirydd Côr Eifionnydd, bod Rachel hefyd wedi bod yn gaffaeliad mawr iddyn nhw.
"Oedd rhywun yn anghofio bod Rachel yn siaradwr newydd. Oedd hi'n hyderus ac yn rhugl ac wnaeth hi ymdoddi'n naturiol i'r côr," meddai.
"Oedd ei hyder yn blodeuo o fis i fis, mae hi wedi gwneud yn arbennig iawn a 'da ni'n falch iawn ohoni.
"Mae hi wedi trochi ei hun yn yr iaith ond hefyd y diwylliant."

Mae Pat Jones yn dweud bod Cymraeg Rachel "wedi blodeuo" ers iddi ymuno dair blynedd yn ôl
Ychwanegodd yr arweinydd Pat Jones iddi gyfarfod Rachel am y tro cyntaf yn 2022.
"Mae'n soprano arbennig, oedd hi'n clywed dim Saesneg o gwbl yn y côr gan mai Cymraeg yw'r iaith wedi bod erioed.
"Mae wedi bod yn canu a gwneud cyngherddau a mae hi'n wych.
"Erbyn hyn mae h'n rhugl ac yn well na lot o'r Cymry sydd o fewn y côr!"

Mae Rachel yn dweud bod canu yn rhan bwysig o'i bywyd
Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Steve Morris, Francesca Sciarrillo ac Ian Gwyn Hughes.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher, 6 Awst, gan dderbyn tlws Dysgwr y Flwyddyn a gwobr ariannol o £300.
Fe fydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un.
'Teimlo fy mod i wedi cael fy nerbyn'
Yn dweud ei fod yn fraint iddi fod wedi cael ei henwebu, mae gan Rachel dal ambell i uchelgais i'w gwireddu ar ei siwrnai.
"Fyswn yn licio gwneud mwy hefo fy ngwaith yn y Gymraeg achos dwi ar y tîm polisi ac felly eisiau siarad am bolisi hefo Aelodau o'r Senedd neu rywbeth yn y Gymraeg," meddai.
"Dwi am ganu yn yr Eisteddfod eleni fel unawdydd, sy'n bwysig i mi.
"Achos dwi'n dod o du allan i Gymru a heb y cysylltiad yna, mae cyrraedd y rownd derfynol yn teimlo fel 'mod i wedi cael fy nerbyn gan Gymru, sydd wir yn wych."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin
- Cyhoeddwyd28 Mai
- Cyhoeddwyd7 Awst 2024