Meddygfa Tyddewi: Cyfarfod yn trafod camau nesaf posib

Y feddygfa yn Nhyddewi
Disgrifiad o’r llun,

Dyma feddygfa olaf Tyddewi ac mae pobl leol yn ceisio ymgyrchu i'w chadw

  • Cyhoeddwyd

Roedd yna dros 150 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yn Nhyddewi nos Fawrth i drafod dyfodol eu hunig feddygfa.

Daw hyn wedi i unig bartner y feddygfa, Dr Stephen Riley, benderfynu ildio'r cytundeb i ddarparu gwasanaethau meddygon teulu.

Bydd cleifion meddygfa Dewi Sant yn cael eu symud i feddygfeydd cyfagos wrth i'r drysau gau ddiwedd mis nesaf, ond mae'r gymuned yn apelio'r penderfyniad ac yn ystyried prynu'r adeilad eu hunain.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae gwaith yn parhau i sefydlu cangen yn Nhyddewi dan arweiniad nyrsys am ran o'r wythnos.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Neuadd y Ddinas yn llawn ar gyfer y cyfarfod yn Nhyddewi nos Fawrth

Ym mis Ebrill eleni, roedd 2,722 o gleifion ym meddygfa Dewi Sant.

Ers i unig bartner y feddygfa ildio'r cytundeb gyda'r bwrdd iechyd ym mis Ebrill, mae nifer o'r gymuned wedi codi pryderon gwirioneddol, gyda grŵp ymgyrchu yn cael ei ffurfio.

Mae disgwyl i oddeutu 2,500 o gleifion presennol y feddygfa yn Nhyddewi gael eu symud i feddygfa Solfach, pellter o ryw dair milltir a hanner.

Bydd gweddill cleifion Meddygfa Dewi Sant yn cael eu symud i Abergwaun a Hwlffordd.

Mae eisoes 2,146 o gleifion ym meddygfa Solfach, sy'n golygu cynnydd o 117% wedi i feddygfa Dewi Sant gau.

Practis a reolir gan y Bwrdd Iechyd yw Solfach.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna bryder ynghylch effaith colli meddygfa ar y bobl fwyaf anghenus, medd Angharad James, Canon bugeiliol Eglwys Gadeiriol Tyddewi

Mae ymgyrchwyr lleol wedi ceisio apelio yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd i symud y cleifion, sef prif bwnc trafod y cyfarfod cyhoeddus.

Cyn y cyfarfod, dywedodd Angharad James, Canon Bugeiliol yr Eglwys Gadeiriol yn Nhyddewi: "Mae cymuned yr Eglwys Gadeiriol yn poeni am y bobl sydd mwyaf anghenus yn y gymuned.

"Os ydych chi'n hen, yn sâl a heb gar, mae'r trip yna yn mynd i fod yn ofnadwy o anodd."

Ychwanegodd: "Ni hefyd yn poeni bod yr adeilad yn Solfach ddim yn ddigon o seis a ddim yn ymateb i beth sydd angen arnon ni. Dyw e ddim yn ymateb i beth sydd angen ar y gymuned."

Dywedodd un ymgyrchydd lleol, Dr Richard Hayward wrth y cyfarfod bod y penderfyniad i symud cleifion i Solfach cyn misoedd y gaeaf yn anystyriol.

"Mi fydd pobl yn dweud, dim ond tair milltir yw e, ond i drigolion lleol, mae'n dair milltir anodd ar gyfer nifer o'r boblogaeth," meddai.

Dywedodd hefyd mai 16 lle parcio yn unig sydd ym meddygfa Solfach a nad oedd yn "resymol" i "wasgu 5,000 o gleifion" mewn i adeilad Solfach.

Ddiwedd Awst, ysgrifennodd y grŵp ymgyrchu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mark Drakeford, ynglŷn â'u hapel yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd i symud cleifion.

Ond fe ddywedodd Dr Hayward yn y cyfarfod nad oedd y Llywodraeth am ymyrryd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y gwaith y mae meddygon teulu a'r holl staff practis yn ei wneud bob dydd.

"Mae gan Fyrddau Iechyd weithdrefnau sefydlog ar gyfer ymdrin â chynigion o ran newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau lleol sy'n dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna gannoedd o bobl, gan gynnwys disgyblion, mewn digwyddiad yn Nhyddewi ym mis Mehefin ar ddechrau ymgyrch ei geisio cadw'r feddygfa ar agor

Cafodd y posibilrwydd o brynu'r adeilad fel cymuned hefyd ei drafod, i redeg gwasanaethau gofal sylfaenol yn y dyfodol.

Clywodd y cyfarfod bod yr adeilad yn werth £520,000.

Dywedodd ymgyrchwraig leol, Sarah Foster, bod codi'r arian yn bosib, gan gymharu'r sefyllfa i Gapel Bethlehem yn Nhrefdraeth.

Ategodd un dyn lleol yr alwad, Simon Plant gan ddweud: "Yr unig ffordd rydym ni'n mynd i warchod y feddygfa yw perchnogaeth gymunedol."

Mewn ymateb, fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bod gwaith yn parhau i sefydlu cangen yn Nhyddewi a fydd yn darparu gwasanaethau dan arweiniad nyrsys am ran o'r wythnos i'r cleifion hynny sy'n cael eu symud i Feddygfa Solfach.

Pynciau cysylltiedig