Bwriad i wahardd hela sawr yn 'rhyfel dosbarth yn erbyn cefn gwlad'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Llywodraeth Lafur newydd yn cythruddo mwy na ffermwyr yng nghefn gwlad.
Ar hyn o bryd mae 'na brotestio yn erbyn newidiadau allai orfodi rhai ffermwyr i dalu treth etifeddiaeth.
Ond mae llywodraeth Syr Keir Starmer hefyd yn bwriadu gwahardd hela sawr (trail hunting).
Yn ôl pobl sy'n hela, mae hyn gyfystyr â "rhyfel dosbarth yn erbyn cefn gwlad" gan ddadlau bod y blaid Lafur am "ladd traddodiad a ffordd o fyw".
Mewn ymateb fe ddywedodd Llywodraeth y DU fod cynlluniau ar waith i gyflwyno "cynlluniau uchelgeisiol i wella lles anifeiliaid".
'Traddodiad ddim yn marw'
Mae'n 20 mlynedd union ers i lywodraeth Tony Blair wahardd defnyddio cŵn i hela anifeiliaid gwyllt fel cadnoid, sgwarnogod a cheirw.
Ond mae'r ddeddf honno'n caniatáu hela sawr, hela gafodd ei ddisgrifio ar y pryd fel dull sydd ddim yn greulon.
Ond mae hela sawr yn rhannu barn, gyda rhai'n dadlau ei fod yn cael ei ddefnyddio fel esgus i dorri'r gyfraith.
Gwrthod hynny y mae Dylan Heddwyn Williams o Sir Gâr.
Fel ei dad, a'i dad-cu, mae hela yng ngwaed Mr Williams a'r arfer yn draddodiad.
Mae Dylan Williams o'r farn bod y cynllun i wahardd hela sawr yn "rhyfel dosbarth yn erbyn cefn gwlad", yn union fel yr ymdrech i wahardd hela anifeiliaid gwyllt dau ddegawd yn ôl.
Fe drodd Mr Williams at hela sawr bryd hynny oherwydd "dyw traddodiad ddim yn marw".
Hela yn dilyn clwt wedi ei socian mewn arogl anifeiliaid, yn hytrach na llwynog byw yw hela sawr.
"Does dim lladd dim byd. 'Na gyd ry'n ni'n hela nawr yw hela trail. Maen nhw'n prynu'r hylif hyn sydd yn cael ei roi ar ddarn o ddefnydd ac yn llusgo fe groes cefn gwlad. 'Na'r hela sydd nawr."
Ond dadl ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid yw bod yr hela cyfreithlon yma yn ffordd o guddio ymarferion anghyfreithlon.
"Mae protestwyr yn credu mai 'smokescreen' ydy hela llwybr i guddio'r ffaith bod hela traddodiadol dal yn digwydd," meddai'r Athro Iolo Madoc-Jones, Athro Cyfiawnder Cymdeithasol a Throseddol ym Mhrifysgol Wrecsam.
"Dyna pam mae'r grwpiau yn dod at ei gilydd weithiau ac mae'r broblem yn codi bod 'na anrhefn yn ystod helfeydd yng Nghymru dyddiau yma."
Mae Mr Williams yn barod i gydnabod bod esiamplau o ddyrnaid o bobl sydd wedi torri'r gyfraith dros yr 20 mlynedd ddiwethaf - ond mae o'r farn bod angen cosbi'r unigolion, nid y gymuned hela'n gyfan.
Mae Dafydd Hughes yn ymgyrchydd hawliau anifeiliaid. Fe dreuliodd y 15 mlynedd ddiwetha'n hela'r helfeydd ar draws cefn gwlad gyda'r bwriad o'u hatal.
“Dwi wedi cyrraedd y pwynt lle mae angen iddo fod yn waharddiad llwyr ar bob math o hela,” meddai.
"Does dim llawer wedi newid yn yr 20 mlynedd."
Mae Dafydd Hughes wedi torri'r gyfraith ei hun. Cafodd ei ddedfrydu am ymosod a gwthio cefnogwr helfa.
'Cyfro lan hela anghyfreithlon'
Pwrpas caniatáu hela sawr yn wreiddiol oedd chwilio am gyfaddawd a galluogi math o hela sydd ddim yn cael ei ystyried yn greulon.
Ond mae RSPCA Cymru o'r farn nad oes dewis bellach ond gwahardd y dull yma hefyd.
Yn ôl Billie-Jade Thomas o RSPCA Cymru: "Oherwydd maen nhw dal yn defnyddio arogl anifeiliaid byw, dyna pam weithiau ar ddamwain mae anifeiliaid byw yn cael eu chaso, eu hela.
"Mae'n ddamwain y mwyafrif o'r amser, ond mae yn gallu cael ei ddefnyddio i gyfro lan hela sy'n anghyfreithlon o dan y ddeddf."
Mae'r Athro Iolo Madoc Jones yn dweud bod heriau ymarferol yn golygu bod plismona'r ddeddf bresennol yn heriol.
"Pan mae pobl allan ar helfa, maen nhw yng nghanol nunlle yn aml iawn yn gwneud hyn ac yn aml does 'na ddim pobl sydd yn gallu bod yn dyst i beth sy'n digwydd.
"Does gan yr heddlu ddim hawl i fynd ar dir preifat oni bai bod nhw'n siŵr bod 'na drosedd yn digwydd felly s'dim gynnon nhw ddim hawl chwaith i ddilyn helfa jyst rhag ofn."
Hanes yn ailadrodd?
Dywedodd llefarydd Llywodraeth y DU: “Cafodd y llywodraeth hon ei hethol ar fandad i gyflwyno’r cynlluniau mwyaf uchelgeisiol i wella lles anifeiliaid mewn cenhedlaeth – dyna yn union y byddwn yn ei wneud.
“Byddwn yn gwahardd hela llwybrau sy’n caniatáu hela llwynogod, ceirw ac ysgyfarnogod yn anghyfreithlon.”
Ond fan hyn mae yna adlais o'r gorffennol, a hanes yn ailadrodd.
Mae Llywodraeth Llafur yn addo deddfu yn erbyn hela, gan gorddi cefn gwlad.
Ddwy flynedd ar hugain yn ôl fe orymdeithiodd 400,000 o bobl drwy ganol Llundain - er mwyn tynnu sylw at anghenion cymunedau cefn gwlad.
I rai mae Llywodraeth Llafur Syr Keir Starmer yn ail-gynnau "rhyfel yn erbyn cefn gwlad".
I eraill mae'n frwydr sy'n rhaid ei hennill i amddiffyn anifeiliaid.
Lluniau gan Greg Davies. Gohebu ychwanegol gan Elen Davies a Dafydd Evans.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2018