Wimbledon: Mimi Xu yn colli yn erbyn Emma Raducanu

Dyma oedd ymddangosiad cyntaf Mimi Xu yng nghystadleuaeth senglau'r menywod yn Wimbledon
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gymraes ifanc Mimi Xu wedi colli yn erbyn Emma Raducanu o Loegr yn rownd gyntaf pencampwriaeth Wimbledon.
Fe enillodd Raducanu, 22, mewn dwy set, 6-3 6-3.
Xu, 17, yw'r chwaraewr cyntaf o Gymru i chwarae yng nghystadleuaeth y senglau yn Wimbledon mewn 20 mlynedd - Rebecca Llewellyn oedd y diwethaf.
Mae Xu yn rhif 302 ar restr detholion y byd, tra bod Raducanu - enillydd Pencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau yn 2021 - yn rhif 38.
Dyma oedd ymddangosiad cyntaf Xu yng nghystadleuaeth senglau'r menywod, wedi iddi serennu yn yr adrannau iau yn y gorffennol.
Mae Xu, o Abertawe, eisoes wedi ennill dwy gêm yn erbyn chwaraewyr ymhlith y 100 uchaf - gan gynnwys yn erbyn Alycia Parks yn rownd wyth olaf Pencampwriaeth Agored Birmingham yn gynharach yn y mis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin
- Cyhoeddwyd20 Mai 2024
- Cyhoeddwyd13 Medi 2021