'Jôc' bod cefnogwyr Cymru methu personoli crysau tîm y merched

Nid yw cefnogwyr yn gallu personoli crys newydd tîm merched Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr tîm pêl-droed Cymru wedi mynegi eu dicter am nad ydyn nhw'n gallu cael eu henwau a'u rhifau ar grys oddi cartref newydd tîm y merched.
Mae'n "arwydd o'r rhagfarn sy'n aml yn codi yng ngêm y menywod", meddai Haley Evans o Gaerdydd.
Cafodd y crys Adidas gwyrdd mintys ei ryddhau gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn benodol ar gyfer Euro 2025, sef pencampwriaeth fawr cyntaf tîm y merched.
Dywedodd JD Sports eu bod yn aros i'r lliw print newydd gael ei ddanfon ac y byddan nhw'n gallu cynnig y gwasanaeth i gwsmeriaid yn fuan.

"Fyse hyn ddim yn digwydd gyda chrys y dynion," meddai Haley Evans
Mae cefnogwyr yn gallu personoli'r crys cartref - sy'n cael ei rannu gan dîm y dynion.
Ond er bod modd i git oddi cartref y dynion gynnwys unrhyw enw a rhif arno, nid yw'r opsiwn hwn ar gael ar fersiwn y menywod, sydd â phris o £75.
Dywedodd Ms Evans, 44: "Dwi'n deall mai dim ond y crysau oddi cartref ydi o, ond dyma'n pencampwriaeth fawr cyntaf erioed ac ni ddylie fe fod yn broblem.
"O'n i yn y gêm gyntaf yn 2019 lle chwaraeodd y menywod yn erbyn yr Eidal yn eu crysau [gyda'u henwau ar eu cefn] am y tro cyntaf. Roedd y chwaraewyr wedi bod yn ymladd am hynny ers amser maith.
"I fynd o hynna i'r sefyllfa yma, lle ni wedi cymhwyso ar gyfer Euro 2025 a 'di cefnogwyr methu cael eu henwau ar eu crysau. Mae'n dipyn o jôc.
"Fyse hyn ddim yn digwydd gyda chrys y dynion."

Dywedodd Ian Johnson ei fod "y math o gamgymeriad diog na ddylai cwmnïau mawr fod yn ei wneud"
Dywedodd Ian Johnson o'r Barri fod y camgymeriad "y math o gamgymeriad diog na ddylai cwmnïau mawr fod yn ei wneud".
"Bydd Euro 2025 y mis nesaf yn un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y flwyddyn, a dylem fod yn dathlu'r holl chwaraewyr sy'n ei wneud yn bosib," meddai.
"Wrth gerdded i lawr unrhyw stryd fawr, gallwch weld enwau pêl-droedwyr ar gefn y crysau sy'n cael eu gwisgo, felly pam doedden nhw heb gael pethau'n barod ymlaen llaw i wneud hyn ar gyfer tîm cenedlaethol Cymru?
"Gobeithio y bydd Cymru yn cymhwyso ac yn chwarae yn yr Ewros yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bêl-droedwyr i ddilyn chwaraewyr fel Jess Fishlock ac Angharad James - a gall eu cefnogwyr wisgo eu crysau gyda balchder."

Dywedodd Emma Walters ei fod hefyd yn "annheg" bod cit gôl-geidwad i dîm y dynion na thîm y menywod ar werth
Dywedodd Emma Walters, o Abertawe, ei fod yn "rhywiaethol", gan na fyddai'n digwydd gyda thîm y dynion.
"Dwi'n dweud wrth fy merch fod hi ddim yn wahanol, felly pam allwn ni ddim cael yr un cyfleoedd?
"Beth yw'r rheswm? Beth yw'r rheswm y tu ôl iddo?"
Ychwanegodd nad oedd ei merch Freya, sy'n gôl-geidwad i'w thîm lleol, chwaith yn gallu prynu cit gôl-geidwad i dîm y dynion na thîm y menywod, a theimlai fod hynny'n "annheg".
Ceisio 'dod o hyd i ddatrysiad'
Dywedodd CBDC eu bod "mewn trafodaethau rheolaidd gydag Adidas a JD i ddod o hyd i ddatrysiad" cyn y bencampwriaeth, sy'n cychwyn ar 2 Gorffennaf.
Mae tîm Rhian Wilkinson yn dechrau eu hymgyrch ar 5 Gorffennaf yn erbyn yr Iseldiroedd cyn wynebu Ffrainc bedwar diwrnod yn ddiweddarach a Lloegr ar 13 Gorffennaf.
Ychwanegodd Adidas: "Rydym bob amser yn archwilio ffyrdd o ehangu ein dewisiadau a diwallu anghenion cefnogwyr sydd eisiau dangos cefnogaeth i'w timau yn well."
Nid dyma'r tro cyntaf i dîm menywod cenedlaethol gael ei lusgo i mewn i ffrae dros git o amgylch pencampwriaeth fawr.
Beirniadodd Mary Earps, cyn-gôl-geidwad Lloegr, Nike am beidio â gwneud fersiynau o'i chrys.
Dywedodd Nike yn ddiweddarach y byddai "meintiau cyfyngedig" yn mynd ar werth, ac fe gafon hhw eu gwerthu i gyd o fewn munudau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin
- Cyhoeddwyd30 Mai