Antoniw a Watson ddim am sefyll yn etholiadau'r Senedd yn 2026
- Cyhoeddwyd
Mae dau Aelod Llafur o'r Senedd wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n sefyll yn etholiadau'r Senedd yn 2026.
Mewn datganiad fore Gwener, dywedodd Mick Antoniw, AS Pontypridd, mai cael ei ethol oedd "braint fwyaf ei fywyd" ond ei bod hi bellach yn amser i gamu o'r neilltu.
Yn hwyr yn y prynhawn fe ddywedodd un o ASau rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru, Joyce Watson, ei bod wedi gwneud "penderfyniad anodd iawn" i adael y Senedd.
Cyn cael ei ethol fel AS yn 2011, roedd Mr Antoniw yn arfer gweithio fel cyfreithiwr.
Yn ystod ei gyfnod ym Mae Caerdydd cafodd ei benodi yn Gwnsler Cyffredinol - sef prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru.
Fel y gweinidog oedd yn gyfrifol am y cyfansoddiad yng nghabinet llywodraeth Mark Drakeford, fe chwaraeodd Mr Antoniw rôl amlwg wrth lunio cynlluniau ar gyfer diwygio'r Senedd hefyd.
'Amser ar gyfer gwaed newydd'
"Gyda chalon drom, rydw i wedi penderfynu peidio sefyll i gael fy ail-ethol yn etholiadau'r Senedd yn 2026," meddai yn ei ddatganiad.
"Byddaf yn nesau at 72 mlwydd oed erbyn hynny, ac yn teimlo mai nawr yw'r amser ar gyfer gwaed newydd, egni newydd a syniadau newydd am ddyfodol Cymru ac etholaeth Pontypridd.
"Hoffwn ddiolch i chi am eich cefnogaeth dros y blynyddoedd, er nad ydym wastad wedi cytuno ar bob mater, dwi'n credu ein bod ni wedi cyflawni nifer o bethau dan amgylchiadau anodd.
"Byddaf yn parhau i fod yn weithgar ym maes gwleidyddiaeth, yn enwedig ym meysydd cydraddoldeb, hawliau dynol, diwygiadau cyfansoddiadol a materion rhyngwladol."
Ychwanegodd y bydd yn dal i wneud ei orau i wasanaethu pobl Pontypridd tan yr etholiad yn 2026.
'Anrhydedd fy mywyd'
Dywedodd Ms Watson mai "gwasanaethu'r Blaid Lafur oedd anrhydedd fy mywyd" a bod cynrychioli rhanbarth y canolbarth a'r gorllewin ers 2007 "wedi bod yn fraint anhygoel".
"Fel Aelod o'r Senedd rwyf wedi ceisio gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl," meddai.
Fe sefydlodd grŵp yn y Cynulliad, enw gwreiddiol y Senedd, er mwyn mynd i'r afael â masnachu pobl.
Hi hefyd wnaeth sefydlu'r ymgyrch Rhuban Gwyn yn erbyn trais domestig yng Nghymru.
"Mae'n teimlo fel yr amser cywir i gamu o'r neilltu ar gyfer ymgeiswyr newydd, ac i roi mwy o amser i fy nheulu ardderchog," meddai.
Dywedodd bod "heriau enfawr wedi codi yn y ddau ddegawd diwethaf, yma a thramor" ac mai "mwy, nid llai, o gydweithrediad a chyfiawnder cymdeithasol yw'r atebion i'r problemau hynny".
Ychwanegodd: "Er y byddaf yn gadael y Senedd ym mis Mai 2026, ni wna i fyth stopio brwydro dros yr egwyddorion hynny."
Daw'r cyhoeddiadau wythnos ar ôl i Dawn Bowden, AS Merthyr Tudful a Rhymni, gyhoeddi na fydd yn sefyll i gael ei hail-ethol 2026 chwaith.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2022