'Angen i rieni fod yn wyliadwrus o beryglon cynnwys eithafol ar-lein'
- Cyhoeddwyd
Mae swyddog gwrth-derfysgaeth blaenllaw wedi galw ar rieni i fod yn wyliadwrus o gynnwys eithafol y gallai plant fod yn ei wylio ar-lein.
Mae eithafwyr unigol sy'n cael eu "bwydo" gan gynnwys treisgar ar y cyfryngau cymdeithasol yn peri risg gwirioneddol, yn ôl y Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Wendy Gunney.
Galw ar rieni i beidio â bod yn hunanfodlon am y peryglon y mae Ms Gunney, sy'n bennaeth heddlu gwrth-derfysgaeth Cymru.
Daw'r sylwadau ar ôl i Brif Weinidog y DU ddweud bod terfysgaeth bellach "wedi newid" yn dilyn llofruddiaethau tair merch mewn dosbarth dawns yn Southport y llynedd.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2024
Yn ôl Syr Keir Starmer, y bygythiad mawr ar hyn o bryd yw "trais eithafol sy'n cael ei gyflawni gan unigolion, rhai sy'n teimlo nad ydyn nhw'n perthyn, a dynion ifanc yn eu hystafelloedd gwely".
Cafodd Axel Rudakubana, 18, sy'n hanu o Gaerdydd, ei garcharu am o leiaf 52 mlynedd ddydd Iau am lofruddio Alice da Silva Aguiar, naw oed, Bebe King, chwech, ac Elsie Dot Stancombe, saith.
Roedden nhw ymhlith nifer oedd yn cymryd rhan mewn dosbarth dawns ar thema Taylor Swift ar 29 Gorffennaf 2024.
Wrth ddedfrydu, dywedodd y barnwr nad oedd tystiolaeth bod Rudakubana yn ochri gydag ideoleg benodol, ac felly nad oedd modd trin y llofruddiaethau fel terfysgaeth.
Ond ychwanegodd y Barnwr Ustus Goose bod difrifoldeb y troseddau "gyfystyr â therfysgaeth, beth bynnag y nod".
Yn ôl Ms Gunney, mae deunydd treisgar ar y cyfryngau cymdeithasol yn cyfrannu tuag at "derfysgaeth hunangychwynnol", ac mae cymhelliad yr unigolion yma yn aml yn "eithaf aneglur".
"Mae'r risg bod rhywun yn dod yn derfysgwr hunangychwynnol - sef rhywun sy'n edrych ar y deunydd yma ac yn ei ddehongli mewn ffordd arbennig cyn gweithredu mewn modd sydd ddim wedi ei drefnu gan grŵp ehangach o bobl - yn un o'r bygythiadau mwyaf sydd gennym ni yn y DU ar hyn o bryd," meddai.
"Dydy'r hyn sydd y tu ôl i'r ideolegau ddim wastad mor glir ag yr oedden nhw yn y gorffennol," ychwanegodd.
Mae'r prif weinidog wedi awgrymu y gallai'r gyfraith newid er mwyn "cydnabod y risg newydd a pheryglus yma".
Mae bellach wedi dod i'r amlwg fod Axel Rudakubana wedi cael ei gyfeirio at raglen gwrth eithafiaeth Llywodraeth y DU - Prevent - ar dri achlysur cyn iddo droseddu.
Nododd adolygiad cychwynnol dros yr haf nad oedd Prevent wedi ei amlygu fel bygythiad gwirioneddol gan nad oedd yn glynu at un ideoleg eithafol benodol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Yvette Cooper: "Cafodd gormod o bwyslais ei roi ar y ffaith nad oedd ganddo ideoleg glir."
Mae ffigyrau'r Swyddfa Gartref yn dangos fod 36% o'r achosion gafodd eu cyfeirio at Prevent yn 2023-24 yn ymwneud â phobl heb ideoleg.
Mae'r ffigwr hwnnw yn lawer uwch na'r nifer oedd ag ideoleg asgell dde (19%) neu Islamaidd (13%) eithafol.
'Plant 15 ac 16 oed yn cael eu harestio'
Yn ei chyfweliad cyntaf ers ymgymryd â'r rôl, dywedodd Ms Gunney fod plant mor ifanc â 15 ac 16 oed yn cael eu harestio yng Nghymru am droseddau terfysgol, gan gynnwys bod â chynnwys terfysgol, cyllyll neu arfau eraill yn eu meddiant.
Mae tua 150 o bobl yn gweithio i'r heddlu gwrth-derfysgaeth yng Nghymru, gyda'r mwyafrif o'r rheiny yn ardal Pen-y-bont.
Dywedodd Ms Gunney fod achos diweddar Alex Hutton, 19 o Abertawe, wedi dangos faint o fygythiad yw eithafiaeth hunangychwynnol.
Cafodd Hutton ei ddedfrydu i bum mlynedd a phedwar mis o garchar y llynedd am ymosod ar ddynes traws ac am ddosbarthu deunydd fideo eithafol oedd yn annog ac yn clodfori terfysgaeth.
Ychwanegodd Ms Gunney ei bod hi'n "anodd iawn rhagweld" y foment pan mae person ifanc yn penderfynu mynd o wylio a darllen deunydd eithafol i gyflawni gweithred derfysgol.
Awgrymodd hefyd fod rhieni yn gallu bod yn "hunanfodlon" ynglŷn â'r cynnwys eithafol gallai eu plant fod yn ei wylio.
"Ry'n ni wedi gweld rhieni yn bod yn hunanfodlon, efallai ddim yn rhoi digon o sylw i'r hyn mae eu plant yn ei wneud ar-lein," meddai.
"Hoffech chi feddwl y byddai rhieni yn ymyrryd pan mae eitemau fel cyllyll, deunydd Natsïaidd a llyfrynnau terfysgaeth yn dechrau ymddangos yn ystafelloedd gwely eu plant."
Nododd fod cyrraedd plant sy'n cael eu haddysgu adref yn her yn ei hun, ond bod angen i bob rhiant fod yn wyliadwrus.