Plac a dwy delyn deires i gofio Telynor Seiriol

Y ddwy delyn deires
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddwy delyn yn gopïau o'r delyn a chwaraeodd Owen Jones wrth ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor ym 1874

  • Cyhoeddwyd

Mae plac wedi ei ddadorchuddio ar adeilad hen dafarn ym mhentref Llannerch-y-medd ar Ynys Môn er mwyn coffáu un o delynorion teires mwyaf talentog ac adnabyddus y 18 ganrif – Owen Jones, neu Telynor Seiriol.

A rwan mae Ymddiriedolaeth Owen Jones, diolch i haelioni rhai o'i ddisgynyddion, wedi talu am ddwy delyn deires newydd sbon.

Mae'r ddwy delyn – Cybi a Seiriol - yn gopïau o'r delyn a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor ym 1874.

Yn ôl Steffan Thomas, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, y nod ydi codi ymwybyddiaeth am y traddodiad Cymreig o chwarae'r delyn deires a rhoi cyfle i bobl ddod yn gyfarwydd gyda'r offeryn.

Steffan Thomas gyda'r ddwy delyn deires
Disgrifiad o’r llun,

Steffan Thomas gyda'r ddwy delyn, Cybi a Seiriol

"Maen nhw yn union yr un fath â thelyn Owen Jones, a 'dan ni yn clywed tinc a naws y deires fel 'oedd hi yn ei chyfnod," dywedodd Steffan wrth raglen Post Prynhawn

"Mae'r ddwy delyn ar gael rŵan i unrhyw un sydd isho dod aton ni i ddysgu.

"A dyna ydi bwriad yr Ymddiriedolaeth - rhoi cyfle i ddysgu ac i barhau â'r traddodiad."

'Mor bwysig i gadw'r stori'n fyw'

Tim Hampson, gwneuthurwr dodrefn arbenigol o Ddyfnaint, sydd wedi gwneud y ddwy delyn, yn seiliedig ar delyn wreiddiol Telynor Seiriol.

Mae'r delyn honno yn cael ei harddangos yn Storiel, Bangor ar hyn o bryd.

Aelod Seneddol Plaid Cymru Ynys Môn, Llinos Medi, wnaeth ddadorchuddio'r plac ar adeilad hen dafarn y Britannia Inn.

"Mae hi mor bwysig inni gofio'r stori yma a hanes rhyfeddol Owen Jones," meddai, "a diolch i'r Ymddiriedolaeth am gadw'r stori yma yn fyw."

Y plac ar wal yr hn dafarn

Ar ôl y seremoni cafodd sawl darn o gerddoriaeth eu chwarae gan griw o delynorion teires yn Eglwys y Santes Fair yn y pentref.

Roedd 'na hefyd gyfle i glywed darn a gafodd ei gyfansoddi gan Owen Jones ei hun, Pell o Fôn.

"Mae 'na nifer o alawon wedi eu cofnodi yma yma yn nhraddodiad Llannerch-y-medd ond roedd hwn yn ddarn wedi ei gyfansoddi gan Owen Jones ei hun," dywedodd Steffan Thomas.

"Roedd heddiw yn gyfle inni ddathlu ei gerddoriaeth o, a'r bore 'ma mi gawson ni weithdy i ddysgu'r darn newydd sbon i goffáu ei waith."