Carcharu bechgyn drywanodd ferch, 12, ar ôl cynllunio ar Snapchat

Ynys y Barri Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y bechgyn, sydd bellach yn 13 ac yn 16 oed, wedi defnyddio Snapchat i gynllunio'r ymosodiad

  • Cyhoeddwyd

Mae dau fachgen yn eu harddegau a ddefnyddiodd Snapchat i gynllunio ymosodiad ac yna trywanu merch 12 oed, wedi cael dedfrydau o garchar ieuenctid.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y bechgyn, na ellir eu henwi oherwydd eu hoedran, wedi defnyddio'r ap cyfryngau cymdeithasol i gynllunio sut y byddent yn dod o hyd i gyllyll, perswadio'r ferch i ddod i Ynys y Barri ac yna ei thrywanu.

Roedd y ferch, a oedd yn adnabod y bechgyn, sydd bellach yn 13 ac yn 16 oed, yn defnyddio Snapchat i drefnu eu cyfarfod mewn archfarchnad yn Y Barri, Bro Morgannwg.

Clywodd y llys bod y ferch yn meddwl am y digwyddiad "bob dydd", a dywedodd y barnwr bod y ddau fachgen wedi ceisio beio'r llall cyn pledio'n euog yn ddiweddarach.

Gwaed yn chwistrellu ym mhobman

Treuliodd y tri y diwrnod yn yr arcêd yn Ynys y Barri ar 23 Tachwedd 2024.

Y noson cynt, roedd y bechgyn wedi bod yn trafod eu cynlluniau ar Snapchat, am sut yr oedden nhw'n bwriadu dod â chyllyll i'r lleoliad a'i thrywanu.

Dywedodd y bachgen 13 oed wrth y llall i "wisgo menyg" a buont yn trafod glanhau'r cyllyll ar ôl yr ymosodiad.

Y bore canlynol, daeth y bachgen 16 oed â chyllell o'i gartref, ac fe wnaethon nhw gyfarfod â'r ferch ym maes parcio'r archfarchnad.

Aeth y bechgyn â'r ferch i faes parcio Heol yr Harbwr yn Ynys y Barri a dechrau'r ymosodiad lle cafodd ei thagu, ei thrywanu dro ar ôl tro ac yna ei chicio yn ei hwyneb, gan achosi iddi golli ymwybyddiaeth.

Pan ddaeth hi at ei hun, sylweddolodd y ferch ei bod wedi cael ei symud, a chlywodd y bechgyn yn chwerthin, cyn iddi redeg adref am gymorth.

Clywodd y llys fod mam y ferch yn disgrifio gwaed yn chwistrellu ym mhobman o glwyfau i'w phen, ei chefn a'i dwylo.

Treuliodd dri diwrnod yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd lle cafodd dair llawdriniaeth.

Heol yr Harbwr, y BarriFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Aeth y bechgyn â'r ferch i faes parcio Heol yr Harbwr yn Ynys y Barri ac ymosod arni

Gosododd y Barnwr, Tracey Lloyd-Clarke gyfyngiadau ar enwi'r ferch, boed ar "adroddiadau cyfryngau traddodiadol, ond hefyd i unrhyw un sy'n ei henwi ar gyfryngau cymdeithasol".

Mewn datganiad personol a ddarllenwyd yn y llys gan yr erlynydd Tom Roberts, dywedodd y ferch ei bod yn meddwl am y digwyddiad "bob dydd".

"Bob dydd pan fydd yr haul yn machlud, rwy'n dechrau meddwl am yr ymosodiad," meddai'r datganiad, gan ychwanegu: "Rwy'n gweld fy nghreithiau bob dydd ac ni allaf eu hosgoi."

Clywodd y llys ei bod wedi cael diagnosis o anhwylder PTSD ers hynny.

'Y ddau ohonoch ar fai'

Roedd y bechgyn yn eistedd yn y llys, y tu ôl i'w bargyfreithwyr, ond ni ddangoson nhw unrhyw emosiwn a syllu'n syth ymlaen wrth i'w datganiad gael ei ddarllen.

Dywedodd Kevin Seal, a oedd yn cynrychioli'r bachgen 13 oed, fod ei gleient wedi profi trawma sylweddol ers yn wyth oed, a bod ganddo "gapasiti cyfyngedig i resymu a deall," ac ychwanegu bod asesiadau seiciatrig addysgol ar y gweill.

Dywedodd Dan Jones, oedd yn cynrychioli'r bachgen 16 oed nad oedd ei gleient erioed wedi troseddu o'r blaen, a'i fod wedi dangos edifeirwch am ei weithredoedd.

Dywedodd y barnwr fod y ddau fachgen wedi beio ei gilydd i ddechrau am drywanu'r ferch, cyn pledio'n euog mewn gwrandawiad ym mis Mawrth.

"Nid yw'r naill na'r llall ohonoch yn dweud y gwir cyfan," meddai, gan ychwanegu: "Fe wnaethoch chi'r ddau weithredu gyda'ch gilydd, ac mae'r ddau ohonoch ar fai."

Dedfrydodd y bachgen 13 oed i ddwy flynedd a 173 diwrnod o garchar ieuenctid.

Dedfrydodd y bachgen 16 oed i gyfanswm o dair blynedd a 260 diwrnod o garchar ieuenctid.

Rhoddwyd gorchmynion hefyd yn eu hatal rhag cysylltu â'r ferch am gyfnod amhenodol.

Pynciau cysylltiedig